Somerfield, Y Bala – “Stop speaking Welsh"

Oes dadl eto?

Cymedrolwr: gronw

Rheolau’r seiat
Oes dyfodol i'r iaith Gymraeg? Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Somerfield, Y Bala – “Stop speaking Welsh"

Postiogan m.c.macrall » Iau Awst 12, 2004 10:57 am

[gol. wedi golygu teitl yr edefyn <i>Nic, 3/9/04</i>]

Ia, dyma ni eto, twat o rheolwr newydd yn Summerfeild (oedd yn arfer bod yn Kwiks) yn rhwystro ei staff rhag siarad Cymraeg ! A'i dyma mae'r ewyllys da mae'r Bwrdd Iaith yn son am ? Mae'r cwmmni newydd osod arwyddion Susnag yn Kwiks Llanrwst hefyd er i lwyth o bobl ofyn iddynt am arwyddion Cymraeg.Mae'r Cwmni yn hiliol ac wrth Cymraeg. Mae angen ymateb ag ymateb yn chwyrn neud siampl ! Picedi, protestio a llythyru. Oes modd i Cymuned neu'r Gymdeithas trefnu rhywbeth, fyddai i yna? Be da chi'n feddwl, ella sa Saismundo a M.C. Mabon yn gallu arwain rapwyr y fro i neud rhywbeth drwg, cyhoeddusrwydd da iddynt !

Sgwenwch ac melltithiwch !

Cae'r Haf (Somerfield)
Somerfield House
Whitchurch Lane
BRISTOL
BS14 OTJ
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 179
Ymunwyd: Iau Ion 15, 2004 1:02 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau Awst 12, 2004 11:15 am

Alli di roi mwy o wybodaeth i ni am y digwyddiad efo'r rheolwr yn deud wrth ei staff am beidio siarad Cymraeg plis?

Ella bsae Somerfield yn darged da gan eu bod wedi cymeryd drosodd cwmni Cymreig a fod eu siopa yn tueddu i fod yn rhai 'lleol' yng nghanol trefi.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5313
Ymunwyd: Mer Gor 23, 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Mihangel Macintosh » Iau Awst 12, 2004 11:17 am

Macrell

Pan nath Somerfield ail-wampio ei siop yn Nrheganna doedd dim un arwydd Cymraeg i'w weld yn y siop! Nes i a Jeni Wine 'sgrifennu at y brif swyddfa ac fe rhoddwyd arwyddion lan ar ol mis neu ddau. Swnio i fi fel taw y Rheolwr yw y drwg yn y caws yn yr achos hyn, felly mae'n werth pwyso ar y brif swyddfa yn Lloegr, sydd, mae'n swnio fel bod ganddyn fwy o ewyllys da tuag at y Gymraeg.

Er nad ydw i'n byw'n Y Bala neu Llanrwst, mi na'i sgrifennu at y brif swydddfa i ddatgan fy siom. Ond ar ddiwedd y dydd, pam ffwc ddylsen i orfod pwyso a pwyso arnyn nhw drwy gydol yr amser? Deddf Iaith ydy'r unig ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe Awst 30, 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Rhys » Iau Awst 12, 2004 11:46 am

Mihangel Macintosh a ddywedodd:Macrell

Pan nath Somerfield ail-wampio ei siop yn Nrheganna doedd dim un arwydd Cymraeg i'w weld yn y siop! Nes i a Jeni Wine 'sgrifennu at y brif swyddfa ac fe rhoddwyd arwyddion lan ar ol mis neu ddau. Swnio i fi fel taw y Rheolwr yw y drwg yn y caws yn yr achos hyn, felly mae'n werth pwyso ar y brif swyddfa yn Lloegr, sydd, mae'n swnio fel bod ganddyn fwy o ewyllys da tuag at y Gymraeg.

Er nad ydw i'n byw'n Y Bala neu Llanrwst, mi na'i sgrifennu at y brif swydddfa i ddatgan fy siom. Ond ar ddiwedd y dydd, pam ffwc ddylsen i orfod pwyso a pwyso arnyn nhw drwy gydol yr amser? Deddf Iaith ydy'r unig ateb.


Sylwais i ar y diffyg Cymraeg yn y Somerfield yn Nhreganna (ond nes i ddim sgwennu atynt :wps: ). Mond arwydd Croeso wrth y drws yw'r unig newid dwi wedi weld.
Gallwn ddweud na fyddwn yn twllu'r un Kwiks/Somerfield eto nes fydd camau wedi eu cymeryd i ddisgyblu'r rheolwr twp yma. Dwi wedi ysgrifennu at y Cwmni yn y gorffennol i bwyntio allan cam sillafu ar arwyddion Kwiks yn Caerffili ac i gynnig prawf ddarllen arwyddion yn Nelson, ond heb gael dim ymateb :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2175
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Prysor » Iau Awst 12, 2004 1:27 pm

Diolch Macrall, am roi hwn yn famma, roeddwn i wedi ei roi yn Materion Cymru achos doeddwn heb sylwi ar yr adran Dyfodol yr Iiath o'r blaen!!! Cwilidd!
Rwyf innau wedi postio llythyr i'w HQ echdoe, gan dynnu sylw at y ffaith fod llawer o deuluoedd wedi penderfynnu peidio siopa yno oherwydd hyn (mae gennyf gysylltiadau teuluol cryf efo Bala - spies!)
Yr hyn sydd wedi digwydd ydi hyn (pastiaf fy neges o Faterion Cymru isod)


Clywais bod rheolwr Somerfield newydd Bala - un o'r manijment Susnag ddaeth y cwmni i'r ardal i gadw trefn ar y 'niggers' lleol - wedi dweud wrth ei sdaff am beidio siarad "that stupid language" yn y gweithle.

Faeswyr Bala - be ydi'r diweddaraf ar hyn? Oes gennych fanylion? Trefnwch brotest yn y lle. Dim ond rhybudd gewch chi gan heddlu am chwalu tuniau oddiar y silffoedd.

Dyma gyfeiriad Somerfield HQ -

Somerfield
Somerfield House
Whitchurch Lane
BRISTOL
BS14 OTJ
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3186
Ymunwyd: Llun Awst 19, 2002 5:37 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau Awst 12, 2004 2:15 pm

Ma hyn yn warth. On i arfer gweithio i Kwiks yn Nimbych ac on i'n cal fy nhrin fath a ffric gan y rholwr am fy mod i'n siarad Cymraeg.
Nai awgrymu fod CyIG yn galw i mewn ar ol bod fyny'r Aran ddydd iau nesa os ydi'r Maeswyr lleol yn gem?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5313
Ymunwyd: Mer Gor 23, 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan m.c.macrall » Iau Awst 12, 2004 3:10 pm

Aled a ddywedodd:Ma hyn yn warth. On i arfer gweithio i Kwiks yn Nimbych ac on i'n cal fy nhrin fath a ffric gan y rholwr am fy mod i'n siarad Cymraeg.
Nai awgrymu fod CyIG yn galw i mewn ar ol bod fyny'r Aran ddydd iau nesa os ydi'r Maeswyr lleol yn gem?


Syniad da, gad ni wybod faint or gloch a.y.y.b.
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 179
Ymunwyd: Iau Ion 15, 2004 1:02 pm

Postiogan Mr Gasyth » Iau Awst 12, 2004 3:14 pm

Ella base fo'n well i rywyn yn yr ardal drefnu rywbeth, dim ond y byddwch yn gwbod bydd yna griw o gwmas ar y diwrnod i chwyddo'r rhengoedd y diwrnod hwnnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5313
Ymunwyd: Mer Gor 23, 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan m.c.macrall » Iau Awst 12, 2004 4:19 pm

Oes modd i ti gysylltu efo Gwyn Sion Ifan, dwi ddim yn lleol ond digon agos i deithio draw !
Mae'n haws dilyn hysbysebu na dilyn Iesu !
Rhithffurf defnyddiwr
m.c.macrall
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 179
Ymunwyd: Iau Ion 15, 2004 1:02 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Iau Awst 12, 2004 6:14 pm

Ddoi draw 'fyd.

Knockio tuns off y silffoedd yns wnion laff i mi!
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3055
Ymunwyd: Llun Ion 13, 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Nesaf

Dychwelyd i Dyfodol yr Iaith

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddywr cofrestredig a 0 gwestai