Cwestiynau Cyffredin

Problemau Cofrestru a Mewngofnodi

Pam na alla i fewngofnodi?
Ydych chi wedi cofrestru? O ddifri, mae rhaid i chi gofrestru (creu cyfrif) er mwyn mewngofnodi. Ydych chi wedi cael eich gwahardd o'r bwrdd (cewch chi neges os yw hyn wedi digwydd)? Os felly, dylech gysylltu â'r wefeistr neu Weinyddwr y bwrdd i ddarganfod pam. Os ydychchi wedi cofrestru, ac yn sicr nad ydych wedi cael eich gwahardd, cysylltwch â Gweinyddwyr y bwrdd - mae'n bosibl bod gosodiau gweinyddu anghywir ganddyn nhw.
Brig

Pam bod angen i mi gofrestru o gwbl?
Efallai fod dim rhaid gwneud. Gweinyddwyr y bwrdd s'yn penderfynnu os oes rhaid cofrestru cyn postio negeseuon. Wedi dweud hynny, bydd cofrestru yn rhoi mynediad i fwy o nodweddion ychwanegol sy'dd ddim ar gael i westeion, fel lluniau rhithffurf (avatars), negeseuon preifat, negeseuon ebost rhwng aelodau, tanysgrifio i gylchoedd defnyddwyr, ac yn y blaen. Dim ond dwy funud mae'n cymryd i gofrestru, felly ewch amdani!
Brig

Pam ydw i'n cael fy allgofnodi'n awtomatig?
Os na ydych chi wedi rhoi tic yn y bocs *Mewngofnodwch fi yn awtomatig ar bob ymweliad* pan ydych chi'n mewngofnodi, bydd y bwrdd yn eich allgofnodi'n awtomatig ar ôl adeg penodol. Mae hyn yn atal pobl eraill rhag camddefnyddio'ch cyfrif. Rhowch dic yn y bocs yn ystod y broses o fewngofnodi a fydd dim rhaid i chi fewngofnodi bob tro. O.N. Dyw hi ddim yn syniad da i wneud hyn os ydych chi'n rhannu eich cyfrifiadur neu ddefnyddio cyfrifiadur mewn llyfrgell, caffi'r rhyngrwyd, rhwydwaith coleg ac yn y blaen.
Brig

Sut gallaf i atal fy Enw Defnyddiwr rhag ymddangos yn y rhestr o ddefnyddwyr sydd arlein?
Yn eich Panel Rheoli Personol ceir dewis i Cuddio fy statws arlein. Petaech chi'n troi hyn i ie byddwch chi'n anweledig i bawb heblaw am weinyddion y bwrdd a chi'ch hunan. Byddwch yn cael eich cyfrif fel 'defnyddiwr cuddiedig'.
Brig

Dwi wedi colli fy nghyfrinair!
Peidiwch â mynd i banig! Er nad yw'n bosibl i ailafael yn eich cyfrinair gwreiddiol, mae'n ddigon hawdd ei ailosod. I wneud hyn, ewch i'r dudalen mewngofnodi a rhoi clec ar Dw i wedi anghofio fy nghyfrinair. Dilynwch y cyfarwyddiadau a dylech chi fod yn ôl ar lein mewn chwinciad.
Brig

Dwi wedi cofrestru ond ni allaf fewngofnodi!
Yn gyntaf, gwnewch yn siwr eich bod yn defnyddio'r enw defnyddiwr a chyfrinair cywir. Os ydyn nhw'n iawn mae'n bosibl bod un o ddau beth wedi digwydd. Os ydy rheolaeth COPPA yn cael ei ddefnyddio, a fe wnaethoch chi roi clec ar y ddolen Yr ydw i dan 13 oed wrth gofrestru, bydd rhaid i chi ddilyn y cyfarwyddiadau a dderbynoch. Os nad yw hynny yn wir, mae'n bosibl bod angen bywiogi eich cyfrif. Gyda rhai byrddau, mae angen i bob cyfrif cael ei fywiogi, naill ai gan y defnyddiwr ei hun, neu gan weinydd y bwrdd. Nes i hynny ddigwydd, allwch chi ddim mewngofnodi. Byddech chi wedi gweld neges am hyn yn ystod y proses o gofrestru. Os ydych chi wedi derbyn ebost, dilynwch y cyfarwyddiadau ynddo. Os nad ydych chi, gwnewch yn siwr eich bod chi wedi rhoi cyfeiriad ebost cywir acedrychwch yn eich ffolder *sgrwtsh* rhag ofn. Un rheswm pam mae byrddau yn gofyn i'w defnyddwyr cadarnhau eu cyfeiriadau ebyst fel hyn yw i atal defnyddwyr ffug rhag camddefnyddio'r bwrdd. Os ydych chi'n siwr eich bod chi wedi defnyddio cyfeiriad ebost cywir, ceisiwch gysylltu â gweinyddwyr y negesfwrdd.
Brig

Fe gofrestrais yn y gorffennol ond ni allaf fewngofnodi mwyach?!
Y ddau reswm mwya tebyg am hyn yw naill ai eich bod chi wedi defnyddio enw defnyddiwr neu gyfrinair anghywir (siecwch yr ebost y cawsoch pan ymunoch chi â'r fforwm) neu bod eich cyfrif wedi'i ddileu am ryw reswm gan weinydd y wefan. Mae'n bosib bod hyn wedi'i wneud achos nad ydych chi wedi postio dim byd am sbel hir - mae'n arferol i wefannau trafod tocio aelodau mud er mwyn lleihau eu cronfeydd data. Triwch gofrestru eto a chymeryd rhan yn y trafodaethau.
Brig

What is COPPA?
Mae COPPA, neu “Child Online Privacy and Protection Act 1998”, yn gyfraith sy'n berthnasol i'r UDA yn unig ac yn ymwneud gyda cadw manylion personol plant sy'n llai na 13. Nid yw'n berthnasol i fforymau sydd wedi'u lleoli tu allan i'r UDA
Brig

Pam na allaf gofrestru?
Mae'n bosib fod perchennog y wefan wedi gwahardd eich cyfeiriad IP, neu wedi wahardd yr Enw Defnyddiwr yr ydych yn ymgeisio amdani. Mae hefyd yn bosib fod perchennog y wefan wedi analluogi Cofrestru er mwyn atal mwy o bobl rhag cofrestru am y tro. Cysylltwch gyda Gweinyddwyr y Bwrdd am fwy o wybodaeth.
Brig

Beth mae “Dileu holl gwcis y bwrdd” yn ei wneud?
Mae “Dileu holl gwcis y bwrdd” yn dileu cwcis a grewyd gan phpBB sy\n eich cadw wedi mewngofnodi. Os ydych yn cael problemau mewngofnodi neu allgofnodi, mae'n bosib y bydd pwyso ar y ddolen “Dileu holl gwcis y bwrdd” o gymorth.
Brig

Hoffterau a gosodiadau'r defnyddiwr

Sut ydw i'n newid fy ngosodiadau?
Os ydych chi'n aelod o'r wefan (h.y. rydych chi wedi cofrestru) mae'ch gosodiadau yn cael eu cadw yn y gronfa ddata. I'w newid nhw, rhowch glec ar y ddolen Panel Rheoli Personol - fel arfer, ar frig y tudalen. Cewch newid bob un o'ch gosodiadau ar y dudalen yma.
Brig

Dyw'r amser ddim yn iawn!
Mae'n debyg bod yr amser yn iawn, ond eich bod chi mewn ardal amser gwahanol i'r gosodiad arferol. Cewch newid yr ardal amser ar eich tudalen Panel Rheoli Personol (gweler uchod). Sylwch mai dim ond aelodau cofrestredig sy'n gallu wneud hyn, felly os nad ydych chi wedi cofrestru hwn yw'r amser perffaith i'w wneud!
Brig

Fe newidais i'r ardal amser ond mae'r amser yn anghywir o hyd!
Os ydych chi'n siwr eich bod chi wedi gosod yr ardal amser a'r “Summer Time/DST” yn iawn ac mae'r amser yn anghywir o hyd, yna mae'n debygol fod yr amser sydd wedi'i harbed ar gloc y gweinydd yn anghywir. Cysylltwch gyda'r Gweinyddwyr i ddatrys y broblem.
Brig

Dyw fy iaith i ddim yn y rhestr!
Yr esboniad mwya tebygol yw nad yw gweinyddwyr y negesfwrdd wedi gosod y pecyn iaith ar gyfer eich iaith, neu nad yw'r meddalwedd wedi cael ei gyfieithu i'r iaith yn y lle cyntaf. Triwch ofyn i weinydd y bwrdd os ydy hi'n bosib i osod y pecyn iaith priodol, neu os nad yw'n bodoli, beth am fynd ati i greu cyfieithiad newydd? Cewch chi fwy o wybodaeth am hyn ar wefan phpBB (gweler y ddolen ar waelod bob tudalen.)
Brig

Sut alla i ddangos llun dan fy enw defnyddiwr?
Gellir dangos dau lun dan pob enw defnyddiwr wrth edrych ar drafodaethau. Yr un cyntaf yw llun sy'n dangos 'gradd' y defnyddiwr, sy'n dybynnu ar faint o negeseuon rydych chi wedi'u postio ar y wefan, ac/neu eich statws fel gweinyddwr neu gymedrolwr y wefan. O dan hwn mae llun mwy, sef eich rhithffurf (S. avatar), llun sydd, fel arfer, yn unigol/personol i bob defnyddiwr. Penderfyniad gweinyddwyr y safle yw dewis os yw rhithffurfiau ar gael neu beidio, a'r ffordd maen nhw'n cael eu defnyddio. Os ydych chi ddim yn cael defnyddio rhithffurfiau, mae'n bosib bod gweinyddwyr y wefan ddim yn eu hoffi am ryw reswm. Cewch chi ofyn iddi/iddo beth yw'r rheswm (mae'n siwr o fod yn ddiddorol tu hwnt!)
Brig

Beth yw fy ngradd, a Sut alla i ei newid?
Nid oes modd newid unrhyw eiriau sy'n ymddangos o dan eich enw defnyddiwr, a'r unig ffordd i godi eich gradd yw i gyfrannu mwy at y trafodaethau ar y wefan, neu trwy gael eich gwahodd i fod yn Gymerolwr neu Weinyddwr. Nodwch nad yw gweinyddwyr a chymedrolwyr yn hoff iawn o bobl sy'n postio sbwriel er mwyn 'ennill' gradd gwell - mae'n debyg y fyddan nhw'n torri cyfanswm eich negeseuon petasech chi'n gwneud pethau fel hynny, neu hyd yn oed yn eich gwahardd dros-dro.

Graddau Posibl
Defnyddiwr - Llai na 100 neges
Defnyddiwr Efydd - 100+ Neges
Defnyddiwr Arian - 500+ Neges
Defnyddiwr Aur - 1,000+ Neges
Defnyddiwr Platinwm - 10,000+ Neges
Cymedrolwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
Gweinyddwr - Cael ei b/phenodi gan Weinyddwr
Cerdyn Melyn - Gwaharddiad dros dro am dorri Canllawiau maes-e
Cerdyn Coch - Gwaharddiad am byth am dorri Canllawiau maes-e
Brig

Os ydw i'n rhoi clec ar ddolen e-bost, mae'n gofyn i mi i fewngofnodi
Mae'n ddrwg gennym, ond dim ond defnyddwyr cofrestredig sy'n gallu anfon e-byst trwy'r ffurflen e-bost mewnol (os ydy gweinyddwyr y bwrdd wedi galluogi hyn). Mae hwn i amddiffyn rhag defnydd maleisus y gyfundrefn e-bost gan defnyddwyr di-enw.
Brig

Postio Negeseuon

Sut ydw i'n postio pwnc newydd mewn seiat?
Hawdd, rhowch glec ar y botwm perthnasol ar dudalen y seiat neu unrhyw bwnc o fewn y seiat. Mae'n bosib y bydd rhaid i chi gofrestru cyn dechrau trafodaeth newydd. Ceir rhestr o'r pethau rydych chi'n gallu eu gwneud ar waelod tudalennau seiat a thrafodaethau (Cewch chi bostio pwnc trafod newydd yma; Cewch chi ymateb i'r pynciau yma; Cewch chi olygu'ch negeseuon yma ac yn y blaen.)
Brig

Sut alla i olygu neu ddileu neges?
Oni bai eich bod chi'n weinydd y bwrdd neu gymedrolwr mewn seiat, cewch chi newid eich negeseuon eich hunan yn unig. Cewch chi olygu neges (dim ond o fewn amser penodol, o bosib) gan roi clec ar y botwm golygu ger y neges. Os oes rhywun wedi ymateb i'r neges yn barod bydd testun bach (Golygwyd gan X ar 1 Mawrth 2007...) yn ymddangos o dan y neges a olygwyd. Bydd y neges bach yma ond yn ymddangos os oes rhywun eisioes wedi ymateb. Bydd hefyd yn ymddangos os yw gweinyddwr neu gymedrolwr wedi golygu neges am ryw rheswm (weithiau bydda nhw'n gadael neges i ddweud pam neu beth maen nhw wedi newid - ond mae hynny lan iddyn nhw!). Cofiwch nad yw'n bosibl i ddileu neges unwaith bod rhywun wedi ymateb iddi hi.
Brig

Sut alla i ychwanegu llofnod i'm neges?
Rhaid i chi greu llofnod yn gyntaf, gan fynd i'ch Panel Rheoli Personol, pwyso ar “Proffeil” a “Golygu Llofnod”. Wedyn, cewch chi roi tic yn erbyn Atodi fy llofnod bob tro ar y tudalen honno i ychwanegu'ch llofnod i bob neges, neu ticiwch y blwch ar y ffurflen postio neges i ychwanegu llofnod fesul neges (cewch chi glirio'r blwch hwn i beidio ychwanegu llofnod, hefyd).
Brig

Sut ydw i'n creu pôl piniwn?
Mae creu pôl piniwn yn hawdd. Wrth ddechrau pwnc newydd (neu olygu'r neges cyntaf, os oes hawl gyda chi i wneud hynny), dylech weld ffurflen Ychwanegu Pôl Piniwn dan y prif blwch postio (os na allwch chi ei weld e, mae'n debyg fod dim hawl gennych i greu poliau piniwn). Dylech roi teitl i'ch pôl ac o leiaf ddau opsiwn (teipiwch y cwestiwn ac wedyn rhoi clec ar y botwm Ychwanegu opsiwn. Cewch chi hefyd osod amser i'r pôl orffen, neu ddechrau pôl di-derfyn drwy roi 0 yn y blwch. Bydd terfyn i nifer yr opsiynau y gallwch ychwanegu, mae hyn wedi'i osod gan weinydd y bwrdd.
Brig

Pam na allaf ychwanegu mwy o opsiynnau i'r pôl piniwn??
Mae'r terfyn yn cael ei benodi gan Weinyddwr y Bwrdd.
Brig

Sut alla i olygu/ddileu pôl piniwn?
Fel gyda negeseuon mewn trafodaethau, dim ond crëwr y pôl, neu weinydd/cymedrolwr sy'n gallu golygu neu ddileu polau piniwn. I olygu pôl, rhowch glec ar y neges cyntaf yn y trafodaeth (sy'n gysylltiedig bob tro â'r pôl ei hun). Os oes neb ddim wedi bwrw pleidlais eto cewch chi ddileu'r pôl neu olygu'r opsiynau. Os yw pobl wedi dechrau pleidleisio dim ond gweinyddwr neu gymedrolwr sy'n gallu golygu neu ddileu. Mae hyn i atal pobl rhag rigio poliau gan newid yr opsiynau hanner ffordd trwy'r pleidleisio.
Brig

Pam na alla'i weld y seiat hwn?
Mae rhai seiadau sydd ddim ar gael i bawb, ac rhai eraill sydd ond ar gael i aelodau penodol (cylchoedd defnyddwyr er enghraifft, neu gymedrolwyr y bwrdd). Mae'n bosib y gallwch chi ymuno â'r cylch ac wedyn cyfrannu i'r seiat. Rhowch glec ar y ddolen Cylchoedd tu fewn i'r *Panel Rheoli Personol* (ar frig bob tudalen) i weld pa grwpiau sydd ar gael, neu cysylltwch â gweinyddwr neu gymedrolwr am gyngor.
Brig

Pam na allaf i ychwanegu atodiadau?
Mae hawl defnyddio atodiadau yn cael eu penodi i Seiat, Cylch neu ddefnyddiwr penodol. Efallai nad yw Gweinyddwyr y Bwrdd wedi caniatau defnyddio atodiadau yn y Seiat yr ydych yn postio ynddo, neu efallai mai dim ond cylchoedd arbennig gall ddefnyddio atodiadau. Cysylltwch gyda Gweinyddwyr y Bwrdd os nad ydych yn deall pam nad ydych yn gallu defnyddio atodiadau.
Brig

Pam wnes i dderbyn rhybudd?
Mae gan pob Gweinyddwr gasgliad o reolau penodol ar gyfer ei g/wefan. Os yr ydych chi wedi torri rheol, mae'n bosib y byddwch yn derbyn rhybudd. Nodwch mai dewis Gweinyddwyr y Bwrdd yn unig yw hyn, ac nid oes ganddo unrhywbeth i wneud gyda'r Grwp phpBB. Cysylltwch gyda Gweinyddwyr y Bwrdd os nad ydych yn deall pam y bu i chi dderbyn rhybudd.
Brig

Sut gallaf i ddanfon adroddiad am neges i Gymedrolwr?
Os yw Gweinyddwyr y Bwrdd wedi caniatau, fe ddyle chi weld bwtwm “Anfon Adroddiad” (triongl o bosib) ger pob neges. Bydd pwyso ar y bwtwm yma yn esbonio i chi pa gamau sydd angen eu cymryd i ddanfon adroddiad am neges.
Brig

Beth yw pwrpwas y bwtwm “Cadw”?
Mae hyn yn eich caniatau i arbed neges neu ddarn o neges er mwyn ei bostio rhyw dro arall. Er mwyn gweld darn sydd wedi arbed, ewch at y Panel Rheoli Personol a dewiswch “Trefnu drafftiau”.
Brig

Pam fod angen cymeradwyo fy neges?
Efallai fod Gweinyddwyr y Bwrdd wedi penderfynnu fod angen cymeradwyo negeseuon cyn eu cyhoeddi mewn seiadau penodol. Mae hefyd yn bosibl fod y Gweinyddwyr wedi penderfynnu fod angen cymeradwyo eich negeseuon chi yn bersonol cyn eu cymeradwyo. Cysylltwch gyda un o Weinyddwyr y Bwrdd am fwy o wybodaeth.
Brig

A oes modd “procio” pwnc?
Trwy bwyso ar y ddolen “Procio’r pwnc”, mae modd i chi brocio’r pwnc i rhan uchaf tudalen 1af y Seiat. Ond, os nad ydych yn gweld yr opsiwn yma, mae'n debygol bod yr opsiwn wedi cael ei analluogi. Mae hefyd yn bosib procio pwnc trwy ymateb iddi, ond, gwnewch yn siwr eich bod yn dilyn canllaiwau'r Bwrdd pan yn gwneud hyn.
Brig

Patrymu a Mathau Trafodaethau

Beth yw BBCode?
Mae BBCode yn fersiwn arbennig o HTML. Mae gweinyddwyr y fforwm yn penderfynnu os ydy BBCode ar gael neu beidio. Os ydy e ar gael, fe allwch chi benderfynu a yw e'n gweithio yn eich negeseuon, fesul neges. Mae BBCode yn edrych yn debyg iawn i HTML, ond fod tagiau yn cael eu hamgau mewn cromfachau sgwâr [ fel hyn ] a nid cromfachau ongl < fel hyn >. Mae BBCode yn helpu i newid y ffordd mae eich neges yn ymddangos. Am fwy o fanylion gweler y canllawiau arbennig ar gyfer BBCode - mae dolen ar bwys y blwch postio wrth i chi bostio neges newydd.
Brig

Alla'i ddefnyddio HTML?
Na. Nid oes modd defnyddio HTML ar y bwrdd yma. Ar y llaw arall, mae modd gwneud y mwyafrif o'r un pethau trwy ddefnyddio BBCode yn lle.
Brig

Beth yw gwenogluniau?
Lluniau bychain yw gwenogluniau (S. smilies neu emoticons) sy'n cael eu defn\yddio er mwyn cynrychioli teimladau mewn cod cryno, e.e. mae :) yn golygu 'hapus' ac mae :( yn 'drist'. Mae rhestr llawn ar y dudalen postio neges. Peidiwch â gor-ddefnyddio gwenogluniau, achos eu bod yn gallu gwneud eich negeseuon yn anodd i'w ddarllen, a mae'n bosibl y bydd cymedrolwr yn golygu neu hyd yn oed dileu eich negeseuon.
Brig

Alla'i bostio lluniau?
Gallwch. Cewch chi ddangos lluniau yn eich negeseuon. Gellir lanlwytho lluniau yn uniongyrchiol i'r bwrdd fel atodiadau os yw'r gweinyddwyr wedi caniatau hyn, neu bydd rhaid i chi wneud dolen i lun sy'n bodoli rhywle arall ar y we, fel hyn: http://www.rhywle-arall-ar-y-we.com/fy_llun.jpg. Cewch chi ddim cysylltu â lluniau sy'n cael eu cadw ar eich cyfrifiadur eich hunan (oni bai ei fod e'n weinydd sy'n agor i'r cyhoedd) a ni fydd lluniau mewn llefydd sydd angen cyfrineiriau i'w cyrraedd yn gweithio e.e. blwch post hotmail/yahoo. Dyw hi ddim yn arfer da i gysylltu â lluniau ar weinydd rhywun arall heb ofyn, chwaith. I ddangos y llun, defnyddiwch y tag BBCode [img].
Brig

Beth yw Cyhoeddiad Cyffredinol?
Mae Cyhoeddiad Cyffredinol yn cynnwys gwybodaeth bwysig a dylech chi eu darllen mor fuan ag sy'n bosibl. Maen nhw'n ymddangos ar frig bob tudalen yn ogystal ag yn eich Panel Rheoli. Mae gweinyddwyr y bwrdd yn penderfynnu pwy sy'n gallu postio Cyhoeddiadau Cyffredinol.
Brig

Beth yw Datganiadau?
Mae Datganiadau fel arfer yn cynnwys gwybodaeth bwysig a dylech chi eu darllen cyn gynted a phosibl. Maen nhw'n ymddangos ar frig bob tudalen yn y seiat lle maen nhw wedi'u postio. Mae gweinyddwyr y bwrdd yn penderfynnu pwy sy'n gallu postio datganiadau.
Brig

Beth yw Pynciau Gludiog?
Mae pynciau gludiog yn ymddangos o dan unrhyw gyhoeddiadau a datganiadau, a dim ond ar y dudalen cyntaf o'r seiat lle maen nhw wedi'u postio. Maen nhw'n debyg o fod yn eitha pwysig a dylech chi geisio eu darllen nhw. Mae gweinyddwyr y bwrdd yn penderfynnu pwy sy'n gallu postio pynciau gludiog.
Brig

Pam fod rhai pynciau dan glo?
Mae cymedrolwr seiat neu weinydd y bwrdd yn gallu cloi unrhyw drafodaeth, am amryw resymau. Cewch chi ddarllen y negeseuon yn y drafodaeth ond cewch chi ddim ychwanegu ato, na phleidleisio mewn pôl piniwn.
Brig

Pam fod eicon gwahanol gan ambell i bwnc?
Lluniau wedi'u dewis gan yr awdur i gydfynd gyda phwnc arbennig yw 'Eicon Pwnc' ac maent fel arfer yn awgrymu beth yw cynnwys y pwnc. Mae'r defnydd o 'Eicon Pwnc' o'r fath yn ddibynnol ar yr hawliau a roddir gan y gweinyddwyr.
Brig

Graddau a Chylchoedd Defnyddwyr

Beth yw pwrpas Gweinyddwyr?
Y Gweinyddwyr yw'r bobl gyda'r safon uchaf o reolaeth dros y wefan, ac yn aml iawn nhw yw'r bobl a ddechreuodd y bwrdd. Maen nhw'n gallu rheoli pob elfen o'r ffordd mae'r bwrdd yn gweithio gan gynnwys gosod hawliau, gwahardd defnyddwyr, creu cylchoedd defnyddwyr ac apwyntio cymedrolwyr newydd. Mae ganddyn nhw statws cymedrolwr ym mhob seiat ar y bwrdd.
Brig

Beth yw Cymedrolwyr?
Mae Cymedrolwyr yn unigolion (neu grwpiau) sy'n gofalu am seiadau ac yn gwneud yn siwr eu bod nhw'n rhedeg yn llyfn. Mae ganddyn nhw bwerau i olygu neu ddileu negeseuon mewn trafodaethau a maen nhw'n gallu cloi, datgloi, symud, dileu neu hollti'r pynciau yn y seiadau maen nhw'n gofalu amdanyn nhw. Fel arfer, prif swydd y cymedrolwyr yw i atal pobl rhag mynd oddi ar y pwnc neu bostio pethau sarhaus.
Brig

Beth yw Cylchoedd Defnyddwyr??
Mae cylchoedd defnyddwyr yn grwpiau o aelodau sydd a rhywbeth mewn cyffredin. Mae'n bosib y caiff cylch defnyddwyr ei greu gan weinydd y bwrdd ar gyfer cymedrolwyr, er enghraifft, neu ar gyfer aelodau sydd am drafod pynciau arbennig mewn seiat preifat. Caiff pob defnyddiwr fod yn aelod mewn sawl cylch defnyddwyr a caiff bob cylch ei hawliau mynediad ei hun.
Brig

Sut alla'i ymuno â chylch defnyddwyr?
Gallwch weld yr holl gylchoedd sy'n bodoli trwy bwyso ar y ddolen “Cylchoedd” yn y Panel Rheoli. Ni fydd pob cylch ar agor i aelodau newydd - bydd rhai ar gau ac mae'n bosibl bydd rhai â aelodaeth cuddiedig. Os ydy'r cylch ar agor, cewch chi ofyn i ymuno â fe drwy roi clec ar y bwtwm addas. Bydd rhaid i gymedrolwr y cylch dderbyn eich cais, ac mae'n bosibl y byddan nhw'n gofyn pam ydych chi am ymuno. Peidiwch â phoeni cymedrolwyr cylchoedd os ydy nhw'n troi eich cynnig i lawr, bydd ganddynt eu rhesymau - beth am ofyn i weinydd y bwrdd a allwch chi ddechrau eich cylch eich hunan?
Brig

Sut ydw i'n dod yn gymedrolwr cylch defnyddwyr?
Mae cylchoedd defnyddwyr yn cael eu creu gan Weinyddwr y bwrdd, sydd wedyn yn apwyntio cymedrolwr i'r cylch. Os hoffech chi greu cylch newydd dylech chi gysylltu â gweinyddwyr y bwrdd trwy ddanfon neges breifat.
Brig

Pam fod rhai Cylchoedd yn ymddangos mewn gwahanol liwiau?
Mae'r Gweinyddwyr yn gallu penodi lliw arbennig at aelodau Cylchoedd er mwyn gweld yn hawdd pwy sy'n aelod o'r grwp.
Brig

Beth yw “Prif Gylch”?
Os ydych chi'n aelod o mwy nag un Cylch, yna mae eich Prif Gylch yn dynodi pa liw Grwp a pha radd y dynodir i chi. Mae'n bosib y bydd gweinyddwyr y Bwrdd yn caniatau i chi newid eich “Prif Gylch” drwy ddefnyddio'r Panel Rheoli.
Brig

Beth yw dolen “Y Tim”?
Mae'r dudalen yma yn rhestri staff y Bwrdd gan gynnwys Gweinyddwyr a Chymedrolwyr, yn ogystal a peth gwybodaeth ynglyn a'r seiadau neu Gylchoedd y maent yn eu cymedroli.
Brig

Negeseuon Preifat

Dwi'n methu danfon negeseuon preifat!
Gall hyn fod am un o dri rheswm: nid ydych wedi cofrestru a/neu mewngofnodi; mae gweinyddwyr y bwrdd wedi analluogi negeseuon preifat am ryw rheswm; neu mae hi/fe wedi eich stopio chi yn bersonol rhag anfon negeseuon preifat. Yn yr achos olaf, dylech chi gysylltu â'r gweinyddwyr i ofyn pam.
Brig

Dwi'n derbyn gormod o negeseuon preifat diangen!
Gallwch wahardd Defnyddiwr rhag danfon negeseuon preifat ato chi trwy newid y rheolau negeseuon preifat yn y Panel Rheoli. Dylech chi ddweud wrth Weinyddwr y bwrdd os ydych chi'n derbyn negeseuon sarhaus gan ddefnyddiwr arall. Mae ganddynt y pwer i wahardd y defnyddiwr rhag danfon negeseuon o gwbwl, neu ei wahardd o'r bwrdd yn gyfangwbwl!
Brig

Dw i wedi derbyn sbam neu ebost sarhaus oddi wrth rhywun ar y bwrdd!
Mae'n ddrwg gennym glywed hynny. Mae gan y gyfundrefn ebostio mewnol sawl amddiffyniadau rhag pobl sydd am ei chamddefnyddio. Dylech chi ebostio gweinyddwyr y bwrdd, gan gynnwys copi llawn o'r e-bost, ynghyd â phob pennawd (S. header) - mae rheiny yn rhestri manylion yr aelod. Fe all y gweinyddwyr gymryd y camau anghenrheidiol wedyn.
Brig

Cyfeillion a Gelynion

Beth yw'r rhestrau Cyfeillion a Gelynion?
Gallwch ddefnyddio y rhestrau yma i drefnu eich perthynas gyda aelodau eraill o'r bwrdd. Bydd yr aelodau sydd wedi'u hychwanegu i'r rhestr 'Cyfeillion' yn cael eu rhestru yn eich Panel Rheoli, fel bod modd i chi weld os ydynt arlein, neu ddanfon neges breifat. Yn ddibynol ar y templad sy'n cael ei ddefnyddio gan y bwrdd, mae'n bosib y bydd y defnyddwyr yma wedi'u lliwio'n whanaol hefyd. Os ydych chi'n ychwanegu defnyddiwr i'r rhestr Gelynion, bydd pob neges ganddynt yn cael ei guddio yn ddi-ofyn.
Brig

Sut gallaf ychwanegu neu dynnu defnyddiwr o'r rhestrau Cyfeillion a Gelynion?
Gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau mewn 2 fordd. Tu fewn i broffeil pob defnyddiwr, ceir dolenni i ychwanegu y defnyddiwr i'ch rhestr Cyfeillion neu Gelynion. Yn ogystal, gellir ychwanegu defnyddwyr i'r rhestrau trwy ychwanegu enw i'r Panel Rheoli. Gellir tynnu defnyddiwr o'r rhestrau hefyd yn yr un modd.
Brig

Chwilio

Sut gallaf chwilio Seiat neu Bynciau?
Mewnddodwch unrhyw air neu eiriau i'r blwch chwilio sydd ar yr hafanddalen, Seiat neu Bwnc. Gellir defnyddio Chwilio Uwch trwy bwyso ar y ddolen “Chwilio uwch”. Byddunion leoliad y blwch chwilio yn ddibynol ar y templad a ddefnyddir gan y bwrdd..
Brig

Pam nad oes unrhyw ganlyniadau ar ol chwilio?
Roedd y term(au) a ddefnyddir yn rhy gyffredinol mwy na thebyg. Byddwch yn fwy penodol, a defnyddiwch “Chwilio Uwch”.
Brig

Pam fy mod yn gweld tudalen lan ar ol chwilio!?
Roedd gormod o ganlyniadau. Byddwch yn fwy penodol, a defnyddiwch “Chwilio Uwch”.
Brig

A oes modd chwilio am aelodau?
Ewch at yr adran “Aelodau” a pwyswch ar y ddolen “Chwilio am aelod”.
Brig

Sut mae darganfod fy mhynciau a negeseuon yn hawdd?
Pwyswch ar “Dangos eich negeseuon chi” yn y Panel Rheoli, neu ar y tudalen Proffeil. I chwilio am eich pynciau, defnyddiwch dudalen “Chwilio uwch” a llenwch yr opsiynnau priodol.
Brig

Tanysgrifiadau a Nodau Tudalen

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng Nodi Tudalen a Thnysgrifio?
Mae Nodi Tudalen yn phpBB3 yn debyg iawn i Nodi Tudalen trwy ddefnyddio unrhyw we-borwr. Nid ydych yn derbyn hysbysiad fod neges newydd, ond mae lleoliad y Seiat neu Bwnc wedi ei arbed ar eich cyfer i ddod nol iddi yn hwyrach. Wrth danysgrifio i Seiat neu Bwnc ar y llaw arall, byddwch yn derbyn hysbysiad bod neges newydd yno. Bydd y modd yr ydych yn cael eich hysbysu yn ddibynnol ar yr hyn yr ydych yn dewis yn y Panel Rheoli.
Brig

Sut mae tanysgrifio at Seiadau neu bynciau arbennig?
Er mwyn tanysgrifio i seiat, pwyswch ar “Tanysgrifio i seiat” ar waelod y dudalen wrth ymweld a'r Seiat. Er mwyn tanysgrifio i bwnc pwyswch ar “Tanysgrifio i bwnc” sydd ar waelod y dudalen ar ol agor y pwnc.
Brig

Sut mae dad-danysgrifio?
Ewch at y Panel Rheoli Personol, a pwyswch ar y ddolen “Trefnu tanysgrifiadau”.
Brig

Atodiadau

Pa atodiadau y gellir eu defnyddio ar y Bwrdd?
Mae modd i bob Cymedrolwr Bwrdd gynnwys neu wahardd unrhyw fath o atodiad. Os nad ydych chi'n siwr beth y gallwch ei lanlwytho, cysylltwch ag un o'r Gweinyddwyr am gymorth.
Brig

Sut dwi'n dod o hyd i fy atodiadau?
I ddarganfod rhestr o'r atodiadau yr ydych wedi lanlwytho, ewch at eich Panel Rheoli Personol a pwyswch ar y ddolen “Rheoli atodiadau”.
Brig

Ynglyn â phpBB

Pwy ysgrifennodd y bwrdd bwletin yma?
Mae'r meddalwedd hwn (yn ei ffurff gweiddiol) wedi'i gynhyrchu, ei gyhoeddi a'i hawlfreintio gan y Grwp phpBB. Fe'i ddosberthir o dan Drwydded Cyhoeddus Cyffredinol GNU ac mae hawl i'w ddosbarthu'n rhydd (gweler dolen am fanylion).
Brig

Pam nad ydy nodwedd X ar gael?
Cafodd y meddalwed hwn ei ysgrifennu a'i drwyddedu gan Grwp phpBB (gweler uchod). Os ydych chi'n meddwl bod angen nodwedd newydd, ymwelwch â gwefan phpbb.com am ymateb Grwp phpBB. Peidiwch â phostio cynigion am nodweddion newydd i'r bwrdd ar wefan phpbb.com - mae'r Grwp yn defnyddio sourceforge i osod tasgiau fel creu nodweddion newydd. Darllenwch trwy'r fforymau i weld beth yw eu barn nhw (os oes un) ar y nodwedd dan sylw, ac wedyn dilyn y cyfarwyddiadau yno.
Brig

 phwy dylwn i gysylltu ynglyn â phroblemau a/neu faterion cyfreithol sy'n perthyn i'r bwrdd hwn?
Cysylltwch gydag unrhyw un o'r Gweinyddwyr sydd wedi'u rhestru dan y dudalen “Y Tim” os yr ydych am wneud cwyn. Os dydy hynny ddim yn gweithio, cysylltwch â pherchennog y parth (gwnewch Ymchwiliad Whois) neu, os defnyddir gwasanaeth am ddim (e.e. Yahoo!, free.fr, f2s.com, ayb.), cysylltwch gyda'r adran rheolaeth neu gamarfer perthnasol. Sylwch nad oes gan Grwp phpBB unrhyw reolaeth o gwbwl dros y bwrdd hwn ac ni ellir eu dal yn gyfrifol dros sut, ble neu gan bwy mae'r bwrdd hwn yn cael ei ddefnyddio. Does dim pwrpas cysylltu â Grwp phpBB ynglyn ag unrhyw mater cyfreithiol (gorchymion ymatal, enllib, sylwadau difenwol, ayyb) sy ddim yn ymwneud yn uniongyrchol â gwefan phpbb.com neu'r meddalwedd arwahonol phpBB ei hun. Os y byddech chi'n ebostio Grwp phpBB ynglyn ag unrhyw ddefnydd trydydd person o'r meddalwedd hwn dylech chi ddisgwyl ymateb cwta neu ddim ymateb o gwbl.
Brig