maes-e.com - Polisi preifatrwydd

Mae'r Polisi Preifatrwydd yma yn esbonio mewn manylder sut mae “maes-e.com” yn ogystal a chwmniau cysylltiedig (yma o hyn ymlaen “ni”, “ninnau”, “ein”, “'n”, “maes-e.com”, “https://maes-e.com”) a phpBB (yma o hyn ymlaen “hwy”, “hwynt”, “hwythau”, “nhw”, “meddalwedd phpBB”, “www.phpbb.com”, “Grwp phpBB”, “Timau phpBB”) yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn ystod unrhyw sesiwn o ddefnydd ganddoch chi (yma o hyn ymlaen “eich gwybodaeth”).

Cesglir eich gwybodaeth mewn 2 ffordd. Yn 1af mae pori “maes-e.com” yn golygu bod y meddalwedd phpBB yn creu nifer o gwcis (cookies), sef ffeiliau bach sy'n cael eu lawrlwytho i'r ffolder ffeiliau dros-dro ar eich cyfriafiadur. Mae'r 2 gwci 1af ond yn cynnwys Dynodwr-Defnyddiwr a Dynodwr-Sesiwn dienw, sy'n cael eu neulltio ar eich cyfer yn awtomatig gan y meddalwedd phpBB. Caiff 3ydd Cwci ei greu unwaith y byddwch yn pori pynciau oddi fewn i “maes-e.com” ac yn cael ei ddefnyddio i arbed y pynciau yr ydych wedi'u darllen, ac felly yn gwella'r profiad o ddefnyddio'r Fforwm.

Yr ail ffordd yr ydym yn casglu eich gwybodaeth ydy tgrwy gasglu'r hyn yr ydych yn ei ddanfon atom. Gellir danfon gwybodaeth atom yn y ffyrdd canlynol, ond nid yn gyfyngedig i: postio fel defnyddiwr di-enw, cofrestru ar “maes-e.com” (yma o hyn ymlaen “eich cyfrif”) a negeseuon a ddanfonwyd ganddoch ar ol cofrestru a mewngofnodi (yma o hyn ymlaen “eich negeseuon”).

Bydd eich cyfrif yn cynnwys enw defnyddiwr unigryw (yma o hyn ymlaen “enw defnyddiwr”), cyfrinair bersonol i fewngofnodi i mewn i'ch cyfrif (yma o hyn ymlaen “eich cyfrinair”) a chyfeiriad ebost personol dilys (yma o hyn ymlaen “cyfeiriad ebost”). Diogelir y wybodaeth ar gyfer eich cyfrif “maes-e.com” gan y cyfreithiau diogelu-data sy'n weithredol yn y wlad sy'n ein gwesteio. Rydym ni'n penderfynnu pa wybodaeth ychwanegol tu hwnt i enw defnyddiwr, cyfrinair a chyfeiriad ebost a ofynnir gan “maes-e.com” yn ystod y broses gofrestru sy'n hanfodol neu'n ddewisol. Ym mhob achos, mae gyda chi'r opsiwn o ddewis pa wybodaeth o'ch cyfrif sy'n gyhoeddus.

Caiff eich cyfrinair ei seiffro fel ei fod yn ddiogel. Er hyn argymhellir eich bod yn defnyddio cyfrinair gwahanol ar gyfer gwahanol wefannau. Eich cyfrinair sy'n rhoi mynediad i'ch cyfrif “maes-e.com”, felly gofalwch amdano yn ofalus. Rhybudd: Ni fydd unrhywun sy'n gysylltiedig gyda “maes-e.com”, phpBB neu drydydd parti, BYTH yn gofyn am eich cyfrinair yn gyfreithiol. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair ar gyfer mewngofnodi i'ch cyfrif, gallwch ddefnyddio'r opsiwn “Rwy wedi anghofio fy nghyfrinair” sydd i'w weld ar y dudalen mewngofnodi. Bydd y broses yma yn gofyn i chi ddanfon eich enw defnyddiwr a'ch cyfeiriad ebost, ac yna bydd y meddalwedd phpBB yn cynhyrchu cyfrinair newydd fel bod modd i chi hawlio eich cyfrif unwaith eto.


Nôl i’r sgrîn mewngofnodi