Rhys Llwyd a ddywedodd:Beth yn union ydy pwynt a bwriad blog?
Mae rhai blogiau yn ddim byd mwy na rhestr o ddolennau diddorol mae'r blogwr wedi'u ffeindio wrth syrffio. Mae fy mlog i yn tueddu fod fel 'na, ond enghreifftiau gwell yw <a href="http://www.nutcote.demon.co.uk/nutlog.html">Plep</a> a <a href="http://catless.ncl.ac.uk/Lindsay/weblog/latest.html">Bifurcated Rivets</a>
Mae rhai lle mae blogwr yn sgwennu mwy, ond sy dal yn seiliedig ar y dolennau. Mae hyn yn gallu arwain at drafodaeth - mae sawl blog yn defnyddio system trafod yn debyg i'r un dyn ni'n defnyddio yma (ceith ymwelwyr i Morfablog adael sylwadau ar ôl bob cofnod bach).
Ac wedyn mae blogiau sy mwy na lai "dyddiaduron ar lein". Mae rhain yn gallu bod yn ddiddorol hefyd, mae'n dibynnu ar y person sbo. (Dw i'n lico <a href="http://chocnvodka.blog-city.com/">Chocolate & Vodka</a> gan Suw Malucachu.)
Bwriad fy mlog i, ar wahan i'r hunanfaldod amlwg, oedd i ymarfer fy Nghymraeg gan sgwennu rhywbeth bob dydd. Erbyn hyn does dim cymaint o amser 'da fi i flogio, sy'n drueni (i mi, eniwei).