Lot o lol Lego

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Lot o lol Lego

Postiogan nicdafis » Mer 09 Hyd 2002 2:39 pm

O't ti'n arfer chwarae â Lego? Ro'n i'n arfer chwarae â Lego. Wyt ti'n cofio mynd yn grac achos doedd dim digon o ddarnau 'da ti i bennu dy brosiect uchelgeisiol? Hm?

Wnest ti erioed drio adeiladu eglwys â Lego?

Beth am harpsicord? Nid model, ond harpsicord go iawn, un sy'n gweithio.

Beth am ail-greu gwaith M.C.Escher mewn briciau bychain?

Mae llawer mwy yma. Un peth fyddet ti ddim yn ffeindio yna yw [rhybudd: nid i blantos neu bobl sy'n syrffio'r we yn y gwaith] porn Lego.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Un arall...

Postiogan nicdafis » Mer 09 Hyd 2002 3:04 pm

Anghofiais i un: Lego MiniMixer.

Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Alys » Mer 09 Hyd 2002 3:35 pm

Ym ... beth ar wyneb y ddaear ydi hwnnw yn ei law chwith?? (wedi cael gormod o'r stwff yn ei law dde)
Rhithffurf defnyddiwr
Alys
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian

Negeseuon: 552
Ymunwyd: Maw 03 Medi 2002 3:43 pm

Re: Lot o lol Lego

Postiogan dafydd » Mer 09 Hyd 2002 4:30 pm

Mae gan fy nghyd-weithiwr wefan Lego. Mae e wedi adeiladu model o Gastell Caerffili!
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan nicdafis » Mer 09 Hyd 2002 7:12 pm

Alys a ddywedodd:Ym ... beth ar wyneb y ddaear ydi hwnnw yn ei law chwith?? (wedi cael gormod o'r stwff yn ei law dde)

Brechdan. Brechdan yw e.

Mae hobis od pobl eraill wastad yn ddiddorol am ryw reswm. Does dim hobis 'da fi, ar wahan â wastraffu amser ar y we a stwff boring fel darllen a mynd am dro yn y cefn gwlad.

Mae chwarae gemau fel SimCity yn debyg, sbo, a dw i wedi neud digon o hynny yn fy amser.

Cei di ddweud wrth dy gyd-weithiwr bod ei gastell yn wych. Lot well na'r un yng Nghaerffili, dweud y gwir, sy'n edrych braidd yn "lived in" erbyn hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Mics Lego

Postiogan DJ Lambchop » Sul 13 Hyd 2002 11:06 am

Rhithffurf defnyddiwr
DJ Lambchop
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd

Negeseuon: 152
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:08 pm
Lleoliad: Cymru rhythwir

Postiogan nicdafis » Iau 24 Hyd 2002 8:53 pm

Marwolaeth Lego?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm

Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan huwwaters » Iau 24 Hyd 2002 9:57 pm

Wow! Disgo Lego. Pan y gai camera digidol, cewch weld casgliad o fy LEGO i. Ond wrth weld rhein, dwi di cael syniad o greu gwe-dudalen LEGO fy hun.

Hywl
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr

Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai