Tudalen 2 o 4

PostioPostiwyd: Mer 06 Ebr 2005 6:41 pm
gan lleufer
gronw a ddywedodd:...pwy sy ddigon dwl i feddwl mai yn Saesneg y bydde Iesu'n llofnodi'i enw?!


Ia da ni gyd yn gwbod ma Cymro ydy/oedd o - ma mam di deud!

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2005 2:01 am
gan Corpsyn
dwim yn or hoff o fy enw canol (fel lot o fobl) o nim yn dallt sw nin gallu ei werthu fo! ac am lot o bres fyd!

http://news.bbc.co.uk/1/hi/world/americas/4417391.stm

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2005 9:24 am
gan cymro1170
syniad da iawn. sgwn i fuasa Nic yn fodlon talu £4000 i mi newid fy enw canol i maes-e.com?

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2005 10:52 am
gan lleufer
Ella bo na susnas yn rhywle or enw Maisy Dorothy Com wedi ennill y blaen arnat...

Maisy Dot Com :winc:

PostioPostiwyd: Iau 07 Ebr 2005 10:59 am
gan Mr Gasyth
lleufer a ddywedodd:Ella bo na susnas yn rhywle or enw Maisy Dorothy Com wedi ennill y blaen arnat...

Maisy Dot Com :winc:


Taxi i Miss Lleufer os gwelwch yn dda. Dos i nol dy got :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2005 9:46 pm
gan Corpsyn
rhywyn di darllen rhifyn 3 o 'Y Selar'?

Ma na erthygl am rhywyn o Gaernarfon sy di gwerthu yr ail rifyn o Y Selar am £6.50 ar ebay pan man deud 'Am Ddim' yn glir ar flaen y copi.

PostioPostiwyd: Gwe 08 Ebr 2005 10:49 pm
gan dafydd
Corpsyn a ddywedodd:Ma na erthygl am rhywyn o Gaernarfon sy di gwerthu yr ail rifyn o Y Selar am £6.50 ar ebay pan man deud 'Am Ddim' yn glir ar flaen y copi.

"Ar ôl i Celt rhyddhau yr albym @.com yn 1998 dyfeiswyd rhywbeth a elwir 'Y We'"

Dyfeiswyd y we yn 1989 wrth gwrs. Neidio ar yr heip ynglyn a'r We yn y 90au oedd Celt.

Ond ynglyn a'r ocsiwn ebay... dyw e ddim mor dwp a hynny. Mae'r cylchgrawn ar gael am ddim mewn rhai mannau yng Nghymru os ydych chi'n gwybod le i edrych neu drwy'r post os ydych chi wedi digwydd clywed fod y peth ar gael.

Y rheswm am werthu'r cylchgrawn yw fod y duw Gruff Rhys ar y clawr a chyfweliad tu fewn. Mae'r person a ennillodd yr ocsiwn yn dod o'r Amerig ac yn amlwg yn ddigon o ffan o Gruff neu'r SFA fel ei fod yn fodlon talu chwe phunt amdano. Dim byd od yn hynny.. dyna'r math o beth sy'n digwydd bob dydd ar ebay!

PostioPostiwyd: Sad 09 Ebr 2005 9:56 am
gan cymro1170
Roeddwn i yn gwylio'r Paul O'Grady show ddoe, a mi wnaeth o son bod bobl wedi bod yn gwerthu tocynnau i fod yng nghynilleidfa ei raglen ar eBay am £25!

Well y cheek gan rhai bobl...

Ma'r boi yn hilariws!! Ond, dywedodd wrth y gwilwyr os oeddynt eisiau tocyn yr unig beth oeddynt yn gorfod ei wneud oedd codi'r ffôn a buasent yn cael rhai am ddim!

PostioPostiwyd: Sad 09 Ebr 2005 10:38 am
gan mam y mwnci
tafod_bach a ddywedodd:
be di'r gem efo hwn ?!


tara reid yn trio cael gwared o'i surplus dell compiwtars a mini-bikes, dwi'n meddwl.

ma lot gormod o'r math yma o beth ar werth hefyd.


Yn syml iawn mae lot o rhain ar werth i perverts syn mwynhau sniffian dillad mae hogia '19 oed' wedi bod yn gwneud ymarfer corff ynddynt :ofn: Wir yr roedd par o drons budur ar werth ac mi oedd y gwerthwr yn fodlon dod a nhw draw yn bersonol !

PostioPostiwyd: Sad 09 Ebr 2005 11:42 am
gan lleufer
Mr Gasyth a ddywedodd:
lleufer a ddywedodd:Ella bo na susnas yn rhywle or enw Maisy Dorothy Com wedi ennill y blaen arnat...

Maisy Dot Com :winc:


Taxi i Miss Lleufer os gwelwch yn dda. Dos i nol dy got :winc:


Ma Miss Lleufer di llithro allan drwy'r drws cefn efo'i fedog ffrili tros ei phen :wps: