Tudalen 1 o 3

Kellogs yn Gymraeg!!

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2003 10:53 pm
gan Geraint
Rhestr arall o ffeithiau am Gymru

Dyma un da!: Kellogs (from the Welsh for chicken - hence the logo) was founded by a Welsh family
Ac edrychwch ar y darn am chwaraewyr rygbi Lloeger gyda cefndir Cymraeg!!! :o

Rhwyun yn gwybod mwy am y we-fan yma? :


The Guild of Glyndwr
"Defending Welsh heritage - without fear or favour"

Join the society that defends Wales and the Welsh from racism, the incitement of racial hatred and anti-Welsh feeling against the people of Wales.

Re: Kellogs yn Gymraeg!!

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2003 11:03 pm
gan Mihangel Macintosh
Geraint a ddywedodd:Rhestr arall o ffeithiau am Gymru

Dyma un da!: Kellogs (from the Welsh for chicken - hence the logo) was founded by a Welsh family
Ac edrychwch ar y darn am chwaraewyr rygbi Lloeger gyda cefndir Cymraeg!!! :o


Dwi'n cofio'n nhad i'n dweud wrthai mae Cymry oedd tu ol y grawnfwyd di-flas. Mae'n neud sens ddo ond diw e - Ceilog's = Kellogs

Re: Kellogs yn Gymraeg!!

PostioPostiwyd: Maw 22 Gor 2003 11:29 pm
gan dafydd
Geraint a ddywedodd:Rhwyun yn gwybod mwy am y we-fan yma? :


Hwnna yw prif ffynhonell ymchwil y 'Wales on Sunday', ynghyd a famouswelsh.com wrth gwrs

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 7:42 am
gan Geraint
:lol:

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 10:36 am
gan nicdafis
Guild of Glyndwr a ddywedodd:By 1500 Welsh was the dominant language of all of northern Europe.


Erbyn 1500 oedd llefydd yma yng Nghymru lle nad oedd Cymraeg y "dominant language". Beth maen nhw arno?

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 10:43 am
gan Ifan Saer
Yn ol be dwi'n ddallt, roedd yna Gymraes yn aros efo Dr Kellog pan fu iddo unfentio y creision yd hyd. Hi ddaru ddigwydd son fod Kellog yn swnio fel Kellog, a meddyliodd Dr Kellog ei fod yn ddelwedd berffaith i'w fwyd brecwast newydd.

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 10:44 am
gan Ifan Saer
wps - kellog yn swnio fel ceiliog on i'n feddwl :wps:

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 10:54 am
gan eusebio
Ifan Saer a ddywedodd:Yn ol be dwi'n ddallt, roedd yna Gymraes yn aros efo Dr Kellog pan fu iddo unfentio y creision yd hyd. Hi ddaru ddigwydd son fod Kellog yn swnio fel Kellog, a meddyliodd Dr Kellog ei fod yn ddelwedd berffaith i'w fwyd brecwast newydd.


Dwi'n credu fod hon yn gystal 'urban myth' รข'r un am Bob Holness yn chwarae sax ar Baker Street

:D

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 11:01 am
gan Ifan Saer
Mae'n wir!

Wel, o leiaf yn ol rhyw lyfr dwi'n cofio ddarllen pan yn lyfrwerthwr. Dwi'm yn cofio be oedd ei enw, na pwy oedd yr awdur, ond llyfr saesneg ydoedd, efo ryw deitl tebyg i 'rwbath rwbath you never knew about Wales'. Wedi'i gyhoeddi tua 2001, Gwasg Gomer bosib iawn.... Mi ffindia'i allan, achos roedd o'n lyfr diddorol, llawn math yna o 'ffeithia'

PostioPostiwyd: Mer 23 Gor 2003 11:02 am
gan Osian Rhys
Ifan Saer a ddywedodd:Yn ol be dwi'n ddallt, roedd yna Gymraes yn aros efo Dr Kellog pan fu iddo unfentio y creision yd hyd. Hi ddaru ddigwydd son fod Kellog yn swnio fel Kellog, a meddyliodd Dr Kellog ei fod yn ddelwedd berffaith i'w fwyd brecwast newydd.


stori debyg i honna dwi'n wbod hefyd: bod mr kellogg yn americanwr oedd yn dechre cwmni creision yd, a bod o ar long yn mynd i rwle (ddim yn cofio lle), a'r delynores ar y llong oedd nansi richards brenhines y delyn. mi ddechreuon nhw sgwrsio -- mi ddwedodd e ei fod e angen "image" i'r bwyd, ac mi awgrymodd hi lun o geiliog am fod kellogg yn swnio'n debyg i ceiliog. ac roedd mr kellogg yn hapus iawn!

roedd hynny cyn y dyddie pan oedden nhw'n talu arian mawr iawn am syniade felna -- y pwyllgore brainstormio bondigrybwyll etc -- dwi'n siwr na chafodd hi ddim mymryn o gydnabyddiaeth.