Roedd y stori yma'n cael ei hadrodd ar y rhaglen am fywyd Nansi Richards a ail-ddarlledwyd neithiwr. Mae'n debyg ei bod hi wedi bod yn teithio America am gyfnod yn chwarae ei thelyn, gan aros efo rhai o bwysigion a theuluoedd cefnog America.
Treuliodd hi rai wythnosau yn aros efo'r teulu Kellogs, ac yn ei hôl hi, roeddent yn chwilio am logo ar gyfer eu cynhyrch tra oedd hi yno, gan eu bod yn symud i werthu'r
corn flakes mewn bocsys (fel heddiw) yn hytrach na mewn bagiau.
Honai Nansi Richards y bu iddi hi i gynnig ceiliog gan fod y gair Cymraeg 'ceiliog' (neu 'celiog' yn ei hacen hi) yn swnio fel 'Kellog', ac fe dderbyniwyd y cynnig gan fod ceiliog hefyd yn cyd-fynd â natur foreuol brecwast.
Erbyn hyn, dwi'm yn meddwl y cawn ni wybod os ydi'r stori'n un wir, ond be 'di'r ots? Ma' hi'n stori dda!