Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 8:43 pm
gan Hywel
Maer ddiod pop Corona yn dod o Ogledd Cymru (Ynys Môn, dw i yn meddwl) or gair Coron. Dynam pham mai llun coron sydd ar y botel hefyd.

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 8:57 pm
gan Rhodri Nwdls
Nath rywun drio deud honna am Kellog's wrtha fi'n sdeddfod. Mr Kellogs nath gychwyn y bwydydd corn brecwast yma.

Will Keith Kellogg, founder of the W.K. Kellogg Foundation, may be best known as the cereal industry giant and inventor of corn flakes. His familiar signature has adorned the cereal boxes of generations of families, the world over. W.K. Kellogg also is recognized as one of the United States' greatest philanthropists.


http://www.wkkf.org/WhoWeAre/Founder.asp

Nais trai ddo...

PostioPostiwyd: Iau 14 Awst 2003 9:33 pm
gan Siani
Yn ystod y Steddfod es i i weld eglwys Melangell, Pennant Melangell, a gwelais i bedd Nansi Richards. Dywedodd dyn gyda strimyr 'na oedd yn torri'r gwair yn y fynwent mai Nansi Richards, y delynores, oedd wedi awgrymu ceiliog i Dr Kellog. Clywais i'r un peth mewn rhaglen ddogfen ar S4C ar ol dod nol.

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 12:45 am
gan Rhodri Nwdls
Dyna ddudodd rhywun wrtha i fyd! Mai Nansi Richards oedd wedi ei awgrymu. Chainis wispyrs sdeddfod wedi cychwyn gan y boi efo strimar yn y fynwent. Ella mai ysbryd Nansi Richards oedd o mewn drag wedi dod nol i ledaenu ei henw o amglych Cymru i'r plantos anwybodus. :lol: You will know of Nansiiiiii!! Sori, amser ciando....

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 10:26 am
gan Alys
:lol:
Ond clywais Penri Roberts yn sôn mai Nansi Richards oedd yn gyfrifol am y ceilog/Kelloggs rywdro y llynnedd. Ella mai Penri oedd yn strimio ym Mhennant Melangell wythnos diwetha?
Chwedl dinesig neu beidio, mae'n stori neis (y ceiliog, nid y strimiwr) :)

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 11:03 am
gan Gruff Goch
Roedd y stori yma'n cael ei hadrodd ar y rhaglen am fywyd Nansi Richards a ail-ddarlledwyd neithiwr. Mae'n debyg ei bod hi wedi bod yn teithio America am gyfnod yn chwarae ei thelyn, gan aros efo rhai o bwysigion a theuluoedd cefnog America.

Treuliodd hi rai wythnosau yn aros efo'r teulu Kellogs, ac yn ei hôl hi, roeddent yn chwilio am logo ar gyfer eu cynhyrch tra oedd hi yno, gan eu bod yn symud i werthu'r corn flakes mewn bocsys (fel heddiw) yn hytrach na mewn bagiau.

Honai Nansi Richards y bu iddi hi i gynnig ceiliog gan fod y gair Cymraeg 'ceiliog' (neu 'celiog' yn ei hacen hi) yn swnio fel 'Kellog', ac fe dderbyniwyd y cynnig gan fod ceiliog hefyd yn cyd-fynd â natur foreuol brecwast.

Erbyn hyn, dwi'm yn meddwl y cawn ni wybod os ydi'r stori'n un wir, ond be 'di'r ots? Ma' hi'n stori dda! :D

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 11:21 am
gan lyns
O Gymru y daw Jack Daniels hefyd.

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 12:15 pm
gan Gethin Ev
A fi!

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 12:52 pm
gan Gruff Goch
Jack Daniels a Gethin Ev. What a pair!

PostioPostiwyd: Gwe 15 Awst 2003 12:54 pm
gan Gethin Ev
Paul Daniels a fi, hydnod gwell, yn yn creu magic llall yn hen ag yn bold.