Ma'r boi gyfieithodd Opera a'r mwyafrif o Mozilla yn digwydd bod yn dad i fi, felly os oes gennych chi gwestiwn neu ddau dwi'n ddigon parod i'w hateb neu eu pasio nhw 'mlaen. Mae Opera ar gael o safle Opera (
http://www.opera.com ), gallwch lwytho'r ffeil iaith Gymraeg i lawr o'r un safle, neu, fel ddwedodd Jim, syrffiwch draw i
http://www.meddal.org.uk am gyfarwyddiadau a mwy o fanylion, yn ogystal â gwybodaeth am fwy o raglenni defnyddiol sydd wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg (mae Netscape 7 Cymraeg newydd cael ei osod ar gyfrifiaduron Prifysgol Bangor, er enghraifft). Ar hyn o bryd dan ni wrthi'n gwneud y newidiadau olaf i GetLeech (rhaglen islwytho bwrpasol) a IZArc (fersiwn well o Winzip). Mae cyfieithad o Winamp 3 wedi ei orffen, ond mae dad yn cael trafferth llwytho'r peth ar i'w tudalen cartref nhw (Winamp). Yn y cyfamser, dwi'n meddwl ei fod o'n bwriad gosod y ffeil ar safle Meddal, gyda cyfarwyddiadau'n egluro sut a lle i osod y ffeil yn Winamp i'w newid i Iaith y Nefoedd. Os oes gennych chi unrhyw awgrymiadau am raglenni eraill freeware y byddai'n dda eu cael yn y Gymraeg yna mae croeso i chi gysylltu â fy nhad drwy safle Meddal. Wedi'r cwbl, maen ei gadw fo allan o drwbwl...
Open Office sy' nesa...
Gruff