Limewire

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Dai dom da » Llun 13 Chw 2006 3:50 pm

Oh dear.Another welshman a ddywedodd:Dydy Limewire ddim yn troi fynnu ar fy Spybot i. Dwi gyda fo a dwi'n credu bod e'n saff (well gobeithio :( )


Hmm, nath Limewire droi fyny ar un o software spyware sydd ar computer getre. Falle mai BT Yahoo Anti Spy neu Ad-aware o'dd e. Sain shwr pa un yn iawn, ond nath e'n bendant gael ei detecto fel problem.
Rhithffurf defnyddiwr
Dai dom da
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3036
Ymunwyd: Gwe 05 Maw 2004 11:21 am
Lleoliad: Blaenffos / Caerfyrddin

Postiogan eifs » Llun 13 Chw 2006 3:53 pm

rhaglenni p2p ddim yn arafu fu nghyfrifiadur i, dim spyware, dim adware, dim viruses, blydi biwtiffwl! cyfrifiaduron doji sydd gan y rhai lle mae'r rhaglen yn arafu popeth, neu firewall sydd ddim yn gadael bygr all fewn ir cyfrifiadur
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan huwwaters » Llun 13 Chw 2006 6:25 pm

Ma Limewire fel rhaglen yn ei hun yn saff, dim ond be fedrwch ei lawrlwytho sy'n fygythiad. Y rheswm wrach bod rhaglenni spyware yn ei nodi fel bygychiad, yw y gallwch cael ffeiliau 'drwg' o'i herwydd.

Gall hefyd arafu eich cyfrifiadur gan mae'n rhedeg gyda Java, sy'n gallu cymyd lot o ffynonellau'r cyfrifiadur.

Dwi di bod yn ei ddefnyddio ers blynyddoedd a byth di cael problemau gyda fo.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Dr Sleim » Maw 14 Chw 2006 9:57 am

Ond ma fe'n ssiiiiiiiiiiiiiwperb! am Porrrrn! :crechwen:
"Lord Nelson! Lord Beaverbrook! Sir Winston Churchill! Sir Anthony Eden! Clement Attlee! Henry Cooper! Lady Diana! Maggie Thatcher - can you hear me, Maggie Thatcher! Your boys took one hell of a beating! Your boys took one hell of a beating!"
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Sleim
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 110
Ymunwyd: Mer 30 Maw 2005 10:43 pm
Lleoliad: london terrace

Postiogan ap concord y bos » Sul 31 Rhag 2006 1:38 pm

Ydi limewire yn legal ne be?? :?
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan bartiddu » Sul 31 Rhag 2006 2:20 pm

Gyda meddalwedd fel hyn a'i debyg wyt ti yn gorfod ymddiried yn y person sy' ochor draw i gyfrifiadur personol arall Duw a wyr pa le yn y byd, tra'n lawrlwytho feiliau. Medrith y ffeil fod yn unrhywbeth ond beth wyt ti'n chwilio amdano, pethau doji ac ati, mae'n iawn rhan fwyaf o'r amser mae'n siwr, ond bydd yn ofalus.
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Oh dear.Another welshman » Sul 31 Rhag 2006 3:41 pm

Mae'r rhaglen Limewire yn gyfreithlon ond y ffeiliau rydach chi'n ei lawrlwytho sydd ddim felly mae angen lawrlwytho feiliau hefo trwydded iddynt fod yn gyfreithlon.
Rhithffurf defnyddiwr
Oh dear.Another welshman
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 169
Ymunwyd: Mer 18 Mai 2005 9:04 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan ap concord y bos » Sul 31 Rhag 2006 4:12 pm

o ni di clywed rhywbeth (dwnim os dion wir) bod rhyw berson di gael uffar o ffein am lawrlwytho sdwff off limewire ar ol mynd a'r cyfrifiadur i'w trwsio am rhywbeth. Dwi di defnyddio fo o blaen a jysd wyndyro o ni......
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan sanddef » Mer 03 Ion 2007 4:47 pm

Mae gen i Limewire Pro. Mae hi'n ddefnyddiol iawn os ti isio lawrlwytho ffilmiau, mp3au neu Lost (mae hynny'n anghyfreithlon wrth gwrs, ond rhaid cytuno peidio gwneud hynny cyn cael Limewire, fel 'na mae Limewire yn osgoi cyfrifoldeb am be ti'n neud wedyn), ond mae 'na rhai problemau:

1. gormod o porn. Iawn os ti isio lawrlwytho porn, wrth gwrs, ond mae'n boen os ti'n chwilio am unrhywbeth arall
2. ffug-ganlyniadau. Gellir chwilio am unrhywbeth a chael canlyniad sy'n defnyddio geiriau allwedd dy chwiliad, ond sydd mewn gwirionedd naill ai yn porn neu ryw rwtsh arall.
3. rhannu. Yn bersonol dw'i ddim yn licio rhannu ffeiliau. Rhaid datgysylltu Limewire cyn gallu dileu neu ailenwi unrhywbeth ti wedi lawrlwytho, neu hyd yn oed allgofnodi o dy gyfrifiadur dy hun
4. diffyg dewis ffilmiau. Gellir dod o hyd i ffilmiau Holywood, gan gynnwys y rhai sydd yn cael eu dangos ar y pryd yn y sinema, ond os ti'n chwilio am ffilmiau o Ewrop (hynny yw, ffilmiau yn ieithoedd eraill) fe fyddi di'n cael dy siomi.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan xGeshaPwy?!x » Mer 03 Ion 2007 5:12 pm

Hyd yma ma limewire wedi bod yn iawn i mi (touch wood!). Fyddaim yn iwsho lot arno fo, mond i lawrlwytho amball gan bob hyn a hyn, ond ma'n iawn os tn gwbo be tn chwilio am! Dipyn o rwtsh arno fo fyd! Dwin gobeithio neith na'm byd ddigwydd i'r hen gyfrifiadur ma wan de rol fi ddeud huna. Dwi di cal digon o draffarth fo'r blwmin compiwtar felmai!
Rhithffurf defnyddiwr
xGeshaPwy?!x
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 65
Ymunwyd: Sul 29 Ion 2006 10:01 pm
Lleoliad: Tre'r Ci Gwyllt!

Nôl

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron