gan sanddef » Mer 03 Ion 2007 4:47 pm
Mae gen i Limewire Pro. Mae hi'n ddefnyddiol iawn os ti isio lawrlwytho ffilmiau, mp3au neu Lost (mae hynny'n anghyfreithlon wrth gwrs, ond rhaid cytuno peidio gwneud hynny cyn cael Limewire, fel 'na mae Limewire yn osgoi cyfrifoldeb am be ti'n neud wedyn), ond mae 'na rhai problemau:
1. gormod o porn. Iawn os ti isio lawrlwytho porn, wrth gwrs, ond mae'n boen os ti'n chwilio am unrhywbeth arall
2. ffug-ganlyniadau. Gellir chwilio am unrhywbeth a chael canlyniad sy'n defnyddio geiriau allwedd dy chwiliad, ond sydd mewn gwirionedd naill ai yn porn neu ryw rwtsh arall.
3. rhannu. Yn bersonol dw'i ddim yn licio rhannu ffeiliau. Rhaid datgysylltu Limewire cyn gallu dileu neu ailenwi unrhywbeth ti wedi lawrlwytho, neu hyd yn oed allgofnodi o dy gyfrifiadur dy hun
4. diffyg dewis ffilmiau. Gellir dod o hyd i ffilmiau Holywood, gan gynnwys y rhai sydd yn cael eu dangos ar y pryd yn y sinema, ond os ti'n chwilio am ffilmiau o Ewrop (hynny yw, ffilmiau yn ieithoedd eraill) fe fyddi di'n cael dy siomi.
Meh