Tudalen 1 o 5

Facebook

PostioPostiwyd: Llun 27 Chw 2006 9:40 pm
gan Aranwr
Fedrith rhywun weud wrthai os ydy Prifysgolion Cymru ar Facebook eto - http://www.facebook.com? Ma'n holl ffrindie i sydd ym Mhrifysgolion Lloegr a UDA arno ond driodd cwpwl o'n ffrindie i sydd ym Mhrifysgol Caerdydd ymuno y dwrnod o'r blan a methodd y cyfrifiadur ag adnabod eu cyfeiriadau ebost nw.

Ma'r safle yn wych - yn gadel i ti greu proffil o dy hun a wedyn linko lan da dy ffrindie o ar draws dy brifysgol dy hun a phrifysgolion eraill - lle i rannu lluniau a sgwrsio. Bach fel msn my space ond 100 gwaith gwell! :)

PostioPostiwyd: Llun 27 Chw 2006 9:47 pm
gan Chwadan
Dwi arno fo! Fel ma nhw'n deud, facebook is eating away at my life and msn is polishing off the remains. Dwi ar XuQa hefyd (gai byth radd), ond mae hwnnw'n crapi :rolio:

PostioPostiwyd: Llun 27 Chw 2006 10:07 pm
gan gethin_aj
dwi ddim yn meddwl bod nhw ar hyn o bryd- dwi'n meddwl bod nhw dim ond yn dechrau efo'r prifysgolion "llai adnabyddus", falle, yn lloegr ond dwi'n siwr bydd rhen ffesbwc yn cyrraedd Cymru- ond rhybudd i bobl yng ngholegau Cymru- mae o'n adictif iawn!!

PostioPostiwyd: Maw 28 Chw 2006 2:49 am
gan krustysnaks
Wele - Prifysgolion yn Lloegr lle gallwch chi ddefnyddio'r Facebook. Ma'n declyn cymdeithasol gret ond yn gallu eich sugno chi mewn os de chi ddim yn ofalus.

PostioPostiwyd: Maw 28 Chw 2006 8:42 am
gan Tegwared ap Seion
RE brawddeg ola' Krusty: fatha'r maes! :lol:

Mae modd gofyn amdano i'ch prifysgol chi, y mwya sy'n gofyn a mwya tebygol yw'r brifysgol o gael ei hadnabod!

PostioPostiwyd: Maw 28 Chw 2006 8:58 pm
gan Tegwared ap Seion
yma os ydych eisiau i'ch "ysgol" (americans :rolio: ) gael ei ychwanegu.

Hyd yn oed os na fedrwch werthfawrogi'r safle, mae'n bosib gwerthfawrogi'r [url=http://people.pwf.cam.ac.uk/tsh30/FacebookvideoHQ.mov]g

PostioPostiwyd: Llun 27 Maw 2006 9:42 am
gan Norman
Chwadan a ddywedodd:Dwi ar XuQa hefyd (gai byth radd), ond mae hwnnw'n crapi :rolio:

Ai, dwi ar hwnw ers wythnos neu ddau bellach. . . . . .

Welishi hwn heddiw ar wikipedia . . . .
The UWA Scandal
This scandal arose from Aberystwyth University's involvement with the site (also known as University of Wales, Aberystwyth). Put simply, there were numerous blogs started slandering individuals to the point that it could only be described as outright bullying. One such case involved someone posting a link to a female students profile claiming that they were willing to sleep with anyone. Subsequently, the girl received numerous house calls from random male students and non-students requesting sexual relations. On March 9th 2006, UWA prevented all access to XuQa from the University network quoting the following:

gweler wikipedia.org

PostioPostiwyd: Sul 14 Mai 2006 10:09 pm
gan Tegwared ap Seion
Ma' Caerdydd ar Facebook rwan :D

PostioPostiwyd: Maw 05 Medi 2006 10:24 am
gan Aranwr
Aberystwyth, Bangor ac Abertawe bellach ar Facebook. Ymunwch yn eich miloedd bobl!

Gyda llaw, os rhywun di sylwi ar fformat newydd y wefan heddi - ma fe'n horibyl! Ma popeth yn y lle rong i gyd! :(

PostioPostiwyd: Maw 05 Medi 2006 10:37 am
gan Llefenni
Dwi'n grando gormod ar Billy Bragg :wps:

Termau a Rheolau Facebook a ddywedodd:By posting Member Content to any part of the Web site, you automatically grant, and you represent and warrant that you have the right to grant, to the Company an irrevocable, perpetual, non-exclusive, transferable, fully paid, worldwide license (with the right to sublicense) to use, copy, perform, display, reformat, translate, excerpt (in whole or in part) and distribute such information and content and to prepare derivative works of, or incorporate into other works, such information and content, and to grant and authorize sublicenses of the foregoing.


Sna'm byd o bwys i fynd ar hwn hogie' :rolio: