Facebook

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Gwe 12 Ion 2007 7:37 pm

Cwestiwn -

Be'di'r gwahaniaeth rhwng Facebook, Bebo a Faceparty??

Dwi wedi cael brasolwg ar Facebook a Bebo, ac ar yr olwg gynta, mae nhw i weld yn gneud yr un peth. Ydi hyn yn wir? Ac a'i'r un peth ydi Faceparty hefyd?

Os felly, pa un ydi'r un mwya poblog?
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Wierdo » Gwe 12 Ion 2007 9:33 pm

Dwi newydd ddod yn gaeth i Facebook (o fewn y deuddydd dwetha...)

O be allai ddweud, ma Bebo fwy plentynaidd rwsut. Chin gallu neud llunia, newid skins (creu skins os chin bord fel fi), ychwanegu widgets a.y.y.b,

Ma Facebook yn fwy...dwnim. Mae on fwy o ymuno a grwpia gwahanol yn hytrach na chwaran wirion..fwy am gymdeithasu bosib.
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Sili » Sad 13 Ion 2007 1:15 pm

Dwi'n casau popeth fel hyn, ond rhwsut drwy'n ffrindiau hoffus, mae mhroffil wedi landio ar facebook, bebo a myspace. Allai ddallt yr adicshyn i facebook, er mod i'n reit ofalus i beidio mynd arna fo'n aml. Ma'n ffordd reit dda o gadw mewn cysylltiad efo'ch hen ffrindiau ysgol a ballu.

Be dwi'n weld yn ddoniol ydi'r bobl sydd efo'r neges tebyg i "***** has 486 friends at Cardiff". Wel, nagoes yn wir, dwi'n reit siwr nad oes genna ti ddim met :rolio:
Rhithffurf defnyddiwr
Sili
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1156
Ymunwyd: Iau 31 Maw 2005 9:59 pm
Lleoliad: Way down in the hole... PenLlyn. A Caerdydd

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 13 Ion 2007 1:40 pm

Wierdo a ddywedodd:Dwi newydd ddod yn gaeth i Facebook (o fewn y deuddydd dwetha...)

O be allai ddweud, ma Bebo fwy plentynaidd rwsut. Chin gallu neud llunia, newid skins (creu skins os chin bord fel fi), ychwanegu widgets a.y.y.b,

Ma Facebook yn fwy...dwnim. Mae on fwy o ymuno a grwpia gwahanol yn hytrach na chwaran wirion..fwy am gymdeithasu bosib.


Seriws ydi Facebook. Seriws i bobl seriws, sy'n seriws am bethau fel cadw mewn cyswllt (yn seriws).

Dw i'n meddwl fod Bebo yn fersiwn mwy "hwyl" o'r un peth ag ydi Facebook. Os ti'n licio gwneud llunia gwirion a rhoi fideos gwirion i fyny Bebo ydi'r peth dw i rili isio cario mlaen ond mae gen i ben mawr a dydi meddwl ddim yn ei helpu, ond dachi'n dallt y pwynt
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chwadan » Sad 13 Ion 2007 2:40 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:
Wierdo a ddywedodd:Dwi newydd ddod yn gaeth i Facebook (o fewn y deuddydd dwetha...)

O be allai ddweud, ma Bebo fwy plentynaidd rwsut. Chin gallu neud llunia, newid skins (creu skins os chin bord fel fi), ychwanegu widgets a.y.y.b,

Ma Facebook yn fwy...dwnim. Mae on fwy o ymuno a grwpia gwahanol yn hytrach na chwaran wirion..fwy am gymdeithasu bosib.


Seriws ydi Facebook. Seriws i bobl seriws, sy'n seriws am bethau fel cadw mewn cyswllt (yn seriws).

Dw i'n meddwl fod Bebo yn fersiwn mwy "hwyl" o'r un peth ag ydi Facebook. Os ti'n licio gwneud llunia gwirion a rhoi fideos gwirion i fyny Bebo ydi'r peth dw i rili isio cario mlaen ond mae gen i ben mawr a dydi meddwl ddim yn ei helpu, ond dachi'n dallt y pwynt

Dwi'm yn dallt Bebo. Ymddengys ei fod yn orfodol i bob merch ddefnyddio ffont semi-Groegaidd a rhoi symbolau od fel ~~~**@@@ o gwmpas eu henwau er mwyn eu cuddio. Yna rhaid teipio fel petai arnoch atal dweud a mynegi pob "th" fel "f", fel petai gennych lifp. Dydi'r albyms llunia byth yn gweithio, mae o'n chavaidd ac mae o'n ffiaidd. Da chi byth yn gallu gweithio allan pwy di neb arno fo achos fod na ryw gefndir amryliw yn cuddio'r sgwennu i gyd. Mae o ar gyfer pobl sy'n mynd drwy identity crisis ac sydd isio cuddio petha amdanyn nhw'u hunain (e.e. eu henwau) tra hefyd yn mynd i fanlydeb mawr wrth drafod yn eu proffeiliau mor wych ydi'u bywydau carwriaethol, lifpaidd.

Dwi ar facebook ddo.

:D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 13 Ion 2007 2:45 pm

Ow. Cas. :(
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Chwadan » Sad 13 Ion 2007 2:50 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Ow. Cas. :(

Hihi, sori :D Ond dwi wir yn ei gasau o! A dwi'n cael fy ngorfodi i fynd arno fo gan ffrindiau sy'n rhoi lluniau arno fo ond yn gwrthod eu rhoi nhw ar rwbath fel flickr neu facebook. Och.

Ddylswn i ddim cwyno wrtha ti deud y gwir, ti'n un o fy unig ffrindiau (5 i gyd!) ar bebo. Ai nid ol ddy help ai can get.
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Hogyn o Rachub » Sad 13 Ion 2007 2:53 pm

Dw i'n licio pan ma' pobl yn deud 'ges i fy ngorfodi i fynd ar bebo/facebook a.y.b' :D

(ges i hefyd, mae'n un o'r pethau ti'n casau, ond megis pysgodyn ar fachyn does dianc unwaith ti yno ('blaw 'machau i; dw i byth yn dal dim))
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Wierdo » Sad 13 Ion 2007 3:20 pm

Chwadan a ddywedodd:Dwi'm yn dallt Bebo. Ymddengys ei fod yn orfodol i bob merch ddefnyddio ffont semi-Groegaidd a rhoi symbolau od fel ~~~**@@@ o gwmpas eu henwau er mwyn eu cuddio. Yna rhaid teipio fel petai arnoch atal dweud a mynegi pob "th" fel "f", fel petai gennych lifp. Dydi'r albyms llunia byth yn gweithio, mae o'n chavaidd ac mae o'n ffiaidd. Da chi byth yn gallu gweithio allan pwy di neb arno fo achos fod na ryw gefndir amryliw yn cuddio'r sgwennu i gyd. Mae o ar gyfer pobl sy'n mynd drwy identity crisis ac sydd isio cuddio petha amdanyn nhw'u hunain (e.e. eu henwau) tra hefyd yn mynd i fanlydeb mawr wrth drafod yn eu proffeiliau mor wych ydi'u bywydau carwriaethol, lifpaidd.

Dwi ar facebook ddo.

:D


Oi. Dwin ferch a tydwi ddim yn un o'r chavs. Oes, mana chavs arna fo (yn ei miloedd) ond mana hwyl i'w gael yna hefyd. Sawl awr dwi di treulio yn tynnu llunia del a gwych i bobl. Dwi methu treuluio oriau ar facebook, jesd piciad yna i weld beth syn digwdd. Dwin rhoi fy lluniau fyny ar bebo, ond mond i'r bobl dwl sydd methu ffindio fy flickr er mai dyna yw rhan o fy enw msn :rolio: Mi roi rhai newydd fyny ar facebook hefyd mashwr.

Dwin mynd i chwilio amdanat ti ar bebo wan, jesd i dy sbeitio di :winc: (gin i looot o amser ar fy nwylo)
Dim fi nath, ci drws nesa laddodd y gath, ma'r ci na'n NYTS!!!

Wierdoflog | Llunia'|Wenglish Wierdo
Rhithffurf defnyddiwr
Wierdo
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2740
Ymunwyd: Llun 16 Meh 2003 8:33 pm
Lleoliad: Aberystwyth / Dyffryn Nantlle

Postiogan Chwadan » Sad 13 Ion 2007 4:18 pm

Bah.

[/grymp] :D
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

NôlNesaf

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron