Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Sul 21 Ion 2007 3:32 pm
gan Tegwared ap Seion
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Hyd yn oed os na fedrwch werthfawrogi'r safle, mae'n bosib gwerthfawrogi'r gân a'r fideo!!


Yn fama bellach, os leciwch chi llu.

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 5:51 pm
gan gronw
dwi di ymuno â facebook yn eitha diweddar, a galla i adleisio'r farn uchod, mae o'n gret, ond gallwch chi fynd ar goll ynddo am oriau heb sylwi...

ond be o'n i am ofyn oedd oes unrhywun sy'n fwy technolegol na fi (=unrhywun) yn gwybod beth yw'r gobaith o gael rhyngwyneb cymraeg i hwn? annhebygol dwi'n ofni, achos o be wela i dim ond yn saesneg mae'n bodoli ar hyn o bryd...

wikipedia a ddywedodd:Facebook is an English-language social networking website

mae cymaint o siaradwyr cymraeg arno, yn defnyddio'r gymraeg, ond mae'n creu brawddegau hanner-a-hanner bizarre fel "blodwen is edrych ymlaen at fyta lot o wyau pasg!" a "brychan and dewi met randomly: yn feddw gachu yn steddfod bala"... :D

petai modd ffeindio pobl i gyfieithu'r rhyngwyneb, fydde fe hyd yn oed yn bosib?

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 7:47 pm
gan sanddef
gronw a ddywedodd:
petai modd ffeindio pobl i gyfieithu'r rhyngwyneb, fydde fe hyd yn oed yn bosib?


Efallai mae eisoes yn bosib. Ond beth ydy'r term ar gyfer pethau fel FaceBook, MySpace, Zoints etc?

e.e. mae maes-e yn "(php)Bulletin Board"

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 11:56 am
gan Fflamingo gwyrdd
Gyda llaw - mae ysgolion Môn o dan "England" ar hyn o bryd...dwi wedi ebostio i ofyn am eu symud :?

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 12:05 pm
gan garynysmon
Dwi newydd ymuno ac yn pandroni pam doeddwn methu ffendio Ysgol Bodedern arno

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 12:06 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Ffeindist ti fo dan Ingland?

PostioPostiwyd: Mer 04 Ebr 2007 10:54 pm
gan Hedd Gwynfor
Newydd ymuno gyda hwn (fi'n gwbod trist iawn, rhywbeth i fyfyrwyr ysgol, coleg yw hwn...) blincin ec mae'n gaethiwus! (diolch geiriadur BBC :winc: ) Fi yn temlo'n hen yno! :?

PostioPostiwyd: Iau 05 Ebr 2007 12:34 am
gan sanddef
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Fi yn temlo'n hen yno! :?


Diolch am ddeud hynny, Hedd. Ti wedi llwyddo i neud fi teimlo'n ffacin hynafol!!! :crio:

PostioPostiwyd: Iau 05 Ebr 2007 11:21 am
gan garynysmon
Wedi ymuno ers rhai dyddia a wedi ffendio grwp ar gyfer hynafion JMJ. Gret!
Wedi cychwyn grwp ar gyfer cefnogwyr Tim Pel Droed Cymru hefyd. "Welsh Football Supporters"

http://www.facebook.com/group.php?gid=2266752388

PostioPostiwyd: Iau 05 Ebr 2007 12:35 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Newydd ymuno gyda hwn (fi'n gwbod trist iawn, rhywbeth i fyfyrwyr ysgol, coleg yw hwn...) blincin ec mae'n gaethiwus! (diolch geiriadur BBC :winc: ) Fi yn temlo'n hen yno! :?


O'n inna hefyd...am ddiwrnod neu ddau, nes da'th pawb arall yn araf bach!