Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 2:49 pm
gan sanddef
Description: Gan fod sanddef yn unig


Cont :lol:

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 8:29 pm
gan jammyjames60
Wedi dod o hyd i'r grwp ora' erioed. Unrhyw un sy' 'di parcio draw yn abersoch yn gwbod yn union be' ma'r grwp ma'n mynd on amdan!

http://www.facebook.com/group.php?gid=2302023143

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 9:37 pm
gan Boibrychan
Bolycs mae hwn yn waeth i fy siawns i o fedru adolygu at arholad fory na'r maes ei hunain!

Fi'n mynd i orfod troi'r cyfrifiadur ma ffwrdd er mae dyna'n unig ffynhonell o gerddoriaeth!

Ond diolch Tegwared a'i na i whare pan fydd gen i ddim gwaith i wneud!

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 10:13 pm
gan Daffyd
jammyjames60 a ddywedodd:Wedi dod o hyd i'r grwp ora' erioed. Unrhyw un sy' 'di parcio draw yn abersoch yn gwbod yn union be' ma'r grwp ma'n mynd on amdan!

http://www.facebook.com/group.php?gid=2302023143

Fo sydd yn rheoli Maes Parcio mwya' Abersoch, tu ol i'r ysgol a'r Neuadd Bentra'. Mae o, yn anffodus iddo, yn dew iawn, ac yn eitha gwirion o ran ei natur.

A dwi'n geshio fod yr 'kool kidz' sy'n dod i Rabar yn ei weld yn hileriys gan fod pob ffycar tew o lle ma nhw yn dod unai yn cael ei rhieni i dalu am lypo-suction neu ma'r Neighbourhood Watch yn taflud nhw allan o'r Gymdeithas for "the general good".

PostioPostiwyd: Gwe 17 Awst 2007 10:51 pm
gan Madrwyddygryf
Un problem sydd wedi dod i fyny wrth fod yn aelod selog o Facebook yw'r bobl sydd eisiau dod yn ffrindiau i chi. Dwi newydd cael un ferch sydd eisiau dod yn ffrind i mi a oedd yn ysgol gyda fi. Y broblem yw y tro diwethaf mi welis hi oedd tua 12 mlynedd yn ol ac dwi'm cofio siarad gyda hi o gwbl. Felly yn y bon, sgennaim diddordeb i ddod yn ffrind i hi. A ydi'n iawn i anwybyddu hi ?

PostioPostiwyd: Sad 18 Awst 2007 7:57 am
gan sian
Hedd Gwynfor a ddywedodd: Fi yn temlo'n hen yno! :?


Ymunes i echnos, mae gyda fi 13 o ffrindiau'n barod a'r rhan fwya o bell ffordd naill ai'r un oedran â fi neu'n henach - hip hip hwrê - gwell na'r lle yma :lol:

PostioPostiwyd: Sad 18 Awst 2007 12:54 pm
gan dave drych
Madrwyddygryf a ddywedodd:...Y broblem yw y tro diwethaf mi welis hi oedd tua 12 mlynedd yn ol ac dwi'm cofio siarad gyda hi o gwbl. Felly yn y bon, sgennaim diddordeb i ddod yn ffrind i hi. A ydi'n iawn i anwybyddu hi ?


Dwi'n cael y problem yma (ooo, dwi mor boblogaidd) weithiau. Gymaint o bobl dwi heb gweld ers ysgol, ac hyd yn oed yn ysgol doeddwn i erioed wedi siarad efo nhw.

Be dwi'n tueddu neud ydi derbyn y cais. Bydd y merch yna yn gweld "Missy Jên is now friend with Madrwyddygryf" ar ei phroffeil. Gwych, mae hi yn meddwl eich bod yn ffrindiau ac heb cael y poen o ti yn gwrthod hi. Wedyn, tua wythnos ar ôl hyn, ti'n dileu hi o dy rhestr ffrindiau.

Ond rhybudd i ti, mae rhei bobl yn blydi persustent.