Tudalen 3 o 5

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 3:49 pm
gan Rhodri Nwdls
Tegwared ap Seion a ddywedodd:Y Bîb yn rhoi lle i'r "stori" rŵan.



O wefan y BBC a ddywedodd:...Welsh-language TV company S4C...
:?: :?: :?:

Ddylsa BBC fwy na pawb sylwi taw sianel ydi S4C!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 4:02 pm
gan Mr Gasyth
Ma'r llun yma'n cracio fi fyny :lol:

Delwedd

Methu penderfynnu os mai ofn ynteu nwyd sydd yn llygaid 'rhen Sali?!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 4:04 pm
gan Hogyn o Rachub
Beti a ddywedodd:Mae hi'n hen stori ond rwan mae Dail y Post yn cael gafael arni hi...!


Mae hi llwyth hyn na'r edefyn yma hyd yn oed! Dw siwr fy mod i'n cofio'i gweld ar ffon rhywun llawer o fisoedd cynt!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 4:11 pm
gan huwwaters
Yn amlwg mae nhw wedi anghofio am google video.

Ffilm fan hyn:

http://video.google.com/videoplay?docid=33764868832823532&q=sali+mali

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 4:13 pm
gan Griff-Waunfach
Oes gan rhyw un copi o'r fideo, nawr mae'r fideo wedi ei tynnu oddi ar iw tiwb?

Mae e'n rhywbeth sy'n dod a gwen i'm wyneb bob tro!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 4:42 pm
gan Skanken
ond dydi hyn imn rwbath ma bawb yn neud wrth wysgo fynu tha un or cymeriada oddi ar sbreeec?

nesi wysgo fynu tha superted unwaith...chs odd y siwt yn digwydd bod yn y ty...odd y temptasiwn i dynu llun felma'n ormod de!

...sad falla...

ond be arall alli di neud?!

:lol:

mana bobl sych yn y byd ma does.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 5:03 pm
gan Beti
Griff-Waunfach a ddywedodd:
Mae e'n rhywbeth sy'n dod a gwen i'm wyneb bob tro!


Ac i wyneb Sali dwi'n siwr! :D

Sali fudr, nid jyst Sam Tan mae hi mewn iddo fo chwaith. Yn ôl pob son, mae hi reit cin ar anifeiliaid hefyd.
Delwedd

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 7:15 pm
gan 7ennyn
Hehe, y fidio 'viral' Cymraeg cyntaf!

Mae o wedi bod yn lledaenu o ffon i ffon yn Nyffryn Nantlle ers misoedd! Pam bod yna gymaint o ffys amdano fo rwan?

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 7:40 pm
gan Dylan
mae'r peth yn hollol hollol hurt; mae o wedi bod ar YouTube ers mis Ebrill ac mi gafodd o'i ffilmio lot cyn hynny hyd yn oed. Ydw i'n iawn i ddweud adeg Steddfod yr Urdd Bae Caerdydd? Pa mor araf ydi S4C a Dail Y Post dwad?

ta waeth, be' sy'n gwneud yr holl beth yn gwbl chwerthinllyd ydi'r ffaith mai llond llaw o bobl oedd 'di gweld y peth cyn heddiw. Bellach yn dilyn yr holl ffws mae'n siwr bod miloedd wedi!

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 7:45 pm
gan Hogyn o Rachub
Dylan a ddywedodd:Urdd Bae Caerdydd?


Peidied a'm dyfynnu, ond dw i'n eitha' sicr yn 'Steddfod yr Urdd 2004 ar Ynys Mon oedd o...!