Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 8:05 pm
gan Dylan
Hogyn o Rachub a ddywedodd:Peidied a'm dyfynnu
(haha)

ond dw i'n eitha' sicr yn 'Steddfod yr Urdd 2004 ar Ynys Mon oedd o...!


Haha. Mae'n debyg bod S4C yn chwilio trwy'r records i weld pwy oedd wedi llogi'r dillad tua mis Ebrill. Yn amlwg heb ystyried mai dim ond dyddiad y llwytho fyny i YouTube ydi hwnna (tua'r adeg yna ddaeth y wefan yn wirioneddol boblogaidd wedi'r cyfan), a bod o ddim yn awgrymu o gwbl pryd gafodd y fideo ei hun ei greu.

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 8:32 pm
gan dafydd
Doniol clywed Sara Edwards yn dweud ar Wales Today "It has now been removed from the internet" fel pe bai rhywun yn gwasgu botwm a fod pob copi yn diflannu. Un ffordd hawdd o sicrhau na fyth rhywbeth byth yn diflannu yw ei roi ar y rhyngrwyd a creu stori sgandal ynglyn y peth. Dwi'n siwr fod gen nifer o bobl gopïau erbyn hyn ar ei cyfrifiadur..

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 9:03 pm
gan Dylan
dafydd a ddywedodd:Doniol clywed Sara Edwards yn dweud ar Wales Today "It has now been removed from the internet"


Gwenais i ar hwnna hefyd. Delwedd ddoniol yn fy meddwl o S4C yn galw Tim Berners-Lee ei hun i mewn a hwnnw wedyn yn rhoi manag rwbar ymlaen, stwffio'i law i mewn i grombil y rhyngrwyd ac ar ôl peth ymbalfalu yn tynnu'r clip allan gerfydd ei wâr. Siwr mai jyst fi feddyliodd hynny. Ond ta waeth. "Removed from the internet" yn wir. 'Di newyddiadurwyr wir ddim yn dallt nadyn :D

PostioPostiwyd: Iau 11 Ion 2007 10:09 pm
gan Dylan
anwybyddwch

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 9:34 am
gan Griff-Waunfach
Dwi wedi clywed mai rhai o'r Gym Gym oedden nhw.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:15 am
gan Ray Diota
dafydd a ddywedodd:Doniol clywed Sara Edwards yn dweud ar Wales Today "It has now been removed from the internet" fel pe bai rhywun yn gwasgu botwm a fod pob copi yn diflannu. Un ffordd hawdd o sicrhau na fyth rhywbeth byth yn diflannu yw ei roi ar y rhyngrwyd a creu stori sgandal ynglyn y peth. Dwi'n siwr fod gen nifer o bobl gopïau erbyn hyn ar ei cyfrifiadur..


[dileu fy nghyfeiriad e-bost... sai'n trysto chi ffycyrs...]

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:18 am
gan Tegwared ap Seion
huwwaters, yn gynharach yn yr edefyn a ddywedodd:Yn amlwg mae nhw wedi anghofio am google video.

Ffilm fan hyn:

http://video.google.com/videoplay?docid=33764868832823532&q=sali+mali


:rolio: :winc: :D

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:23 am
gan Prysur
Dry-Hump mae nhw'n gael dwi'm yn gweld be di'r holl ffys!

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 10:27 am
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Dylan a ddywedodd:Na Horach 'dw i'n meddwl mai fi oedd yn iawn; sylwa ar y crys taith rygbi GymGym (05) ar y wal (!)


Anfona neges breifat, Dylan. :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 12 Ion 2007 11:48 am
gan Hogyn o Rachub
Ia 'fyd! Ti sy'n iawn Dylan! (ti'n gwbo pwy nath dwt?)

Ges i sioc ar y diawl bora 'ma bod y stori wedi cyrraedd tudalennau anrhydeddus y Daily Star...!