Gumtree

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gumtree

Postiogan Norman » Mer 21 Meh 2006 3:58 pm

Unrhywun arall yn defnyddio / gwybod am gumtree.com ?

Mae adrannau gwahanol i werthu nwyddau, holi am letu, chwylio am swyddi, hysbys am gigs ayyb arno. Mae'r wefan yn canolbwyntio ar ddinasoedd, efo Caerdydd a Abertawe wedi'w rhestru so ffar. Y peth gore ydi ei fod am ddim, a toes dim angen cofrestru [dim fel ebay]. Dwin ei ddefnyddio ar y funud i gael gwared o nialwch or ty cyn i mi symud.

Mae dipyn haws iw ddefnyddio na Freecycle [system uffernol o fler] [er yn amlwg toes dim gymaint o betha am ddim].

Ydio werth trio sefydlu rhywbeth felma yn Aber / Bangor ?
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan Twyllwr Rhinweddol » Mer 21 Meh 2006 4:17 pm

O mhrofiad i mae o wedi bod yn ddefnyddiol iawn, a thrwy gumtree ges i afael ar fy fflat. Mi wnes i hefyd osod fy hen stafell am gyfnod i bobl oddi ar gumtree (dwi'n gwybod fod sub-letting yn anghyfreithlon, ond triwch chi dalu dau rent yn Llundain - amhosib!).

Dwi'n meddwl y byddai gwasanaeth fel hyn yn gweithio yn well mewn ardaloedd mwy, ac na fyddai diben cael un jest i Bangor neu jest i Gaernarfon - efallai mai un gwasanaeth i'r Gogledd-Orllewin i gyd fyddai orau? A hefyd i'r Canolbarth o bosib...
Os marw bun, oes mwy o'r byd?
Mae'r haf wedi marw hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Twyllwr Rhinweddol
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1023
Ymunwyd: Maw 10 Awst 2004 12:01 pm
Lleoliad: Coridorau grim


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai