Ymuno â'r SNP

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymuno â'r SNP

Postiogan Cymro13 » Iau 20 Gor 2006 12:49 pm

Newydd fod ar wefan yr SNP ac newydd weld pa mor hawdd yw e i ymuno da nhw ar lein yn y fan a'r lle, run peth a Llafur a'r Ceidwadwyr

Cymharwch hyn a Phlaid Cymru lle chi'n gorfod printio allan y ffurflen, llenwi fe mewn a danfon e off eich hunan yn bersonol mae pobl yn gallu colli diddordeb yn hawdd iawn

be chi'n meddwl?
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Hogyn o Rachub » Iau 20 Gor 2006 12:52 pm

Er ei bod hi'n syniad deilwng, dw i'n meddwl bod hi'n mynd i gymryd lot, lot mwy ar Blaid Cymru na'r gallu i ymuno gyda nhw ar-lein iddyn apelio i fawr o neb ar y funud.

Ond ydi, syniad da ar y cyfan.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan Rhys » Iau 20 Gor 2006 1:53 pm

mae'n ddigon hawdd colli diddordeb ym Mhlaid Cymru dyddie hyn, ond os ti am ymuno a phlaid gwleidyddol ac wedi treulio amser yn pwyso a mesur eu polisiau ayyb, siawns y byddet yn fodlon mynd i'r fath drafferth ag argraffu darn o bapur a'i roi mewn amlen - honestly :rolio:

:winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cymro13 » Gwe 21 Gor 2006 7:58 am

Rhys a ddywedodd:mae'n ddigon hawdd colli diddordeb ym Mhlaid Cymru dyddie hyn, ond os ti am ymuno a phlaid gwleidyddol ac wedi treulio amser yn pwyso a mesur eu polisiau ayyb, siawns y byddet yn fodlon mynd i'r fath drafferth ag argraffu darn o bapur a'i roi mewn amlen - honestly :rolio:

:winc:


Ie ond mae proffesiynoldeb y peth yn hollbwysig - mae'r ffaith fod yr SNP yn gallu cofresrti aelodau ar lein yn dangos eu bod yn defnyddio y cyflusterau technolegol i'w llawn ddefnydd ac mae'r ddelwedd yna yn dangos eu bod yn gallu trefnu gweithgarwch gwleidyddol yn llwyddiannus. I fi mae hyn yn mynd i adlewyrchu'n well ar blaid pan mae'n dod i gyfnod etholiad pan mae nhw angen y gefnogaeth yn fwy nag unrhyw amser arall o'r flwyddyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron