Real History Radio - Alan Wilson / Baram Blackett

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Geraint » Mer 23 Awst 2006 12:14 pm

bartiddu a ddywedodd:Ond mae'n rhaid cyfaddef fod rhaglenni radio y mudiad yma'n difyrwch llwyr :), boed yn ffrwythog ddwl nei beidio, edrych mlaen am yr un nesa'n barod!


Cytuno!

Fel ddwedodd y boi, 'Pump up the volume!' :D :?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Hedd Gwynfor » Gwe 25 Awst 2006 2:08 pm

bartiddu a ddywedodd:Dwi mynd i geisio gael gafael ar y llyfr, 600 o tudalennau?


Wel dwi wedi archebu un oddi ar Amazon. Gwastraff arian, posib iawn :? , gei di fenthyg fy ngopi i ar ol i mi orffen os ti moyn bartiddu.

Ond falle wneith e gymryd peth amser! :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan bartiddu » Gwe 25 Awst 2006 2:31 pm

Hedd Gwynfor a ddywedodd:
bartiddu a ddywedodd:Dwi mynd i geisio gael gafael ar y llyfr, 600 o tudalennau?


Wel dwi wedi archebu un oddi ar Amazon.
Ond falle wneith e gymryd peth amser! :winc:


:wps: Sdim ishe, fi wedi gwneud 'r un peth :wps: :? :crechwen: a.y.b
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 28 Awst 2006 4:22 pm

Wedi derbyn y llyfr ers dydd Sadwrn, ac wedi darllen 2 benod. Mae'n ddiddorol iawn, ond mae angen LOT o olygu arno. Nid yw'n cynnwys Mynegai na llyfryddiaeth. Mae tipyn o typos a chamsillafu enwau Cymraeg yn gwneud iddo ymddangos yn amaturaidd tu hwnt.

Wnes i gysylltu gyda'r bachan sy'n rhedeg Real History Radio ynglyn a hyn, + am yr amryw o wefannau gwahanol sy'n cael ei defnyddio a dyma'r ymateb cefais:

Ha!

I agree actually. We have had a LOT of trouble from a hacker...

Meantime, there are two distinct groups of project supporters, old and new. I'm one of the younger ones, and most of the work has been totally away from the Internet. Heads buried in manuscripts, bodies on sites...as I'm sure you can imagine.

The subject of the books is a somewhat vexed one. I'm an ex-journalist... and I agree with your comments about the books - but they have been produced under massive pressure. In future, I hope to edit new material.

All I can suggest is that the information is dynamite...

We have several sites of interest under active investigation and these are the main focus for our work. We get no money except from donations and the Welsh academics (sorry, English academics in Welsh universities) are very concerned that we'll make them look stupid... Hence their hostility.

Also bear in mind that through the 1980s Alan and Baram were subjected to attack by very powerful business interests... seeking to turn much of Glamorgan into an open cast mining operation. Local supporters were harassed, journalists threatened, TV reporters told they'd lose their jobs if they reported favourably on our work and much, much more... I don't think many people would have kept going.

Happily, we're still here and growing and I think our message is getting out there and we've had some good publicity in the Welsh press at last... What we DO need are people, like you, to make constructive comments and, where appropriate, criticism...

Tim
realhistory.libsyn.com - realhistoryradio@aol.com


Gyda llaw os oes unrhyw un gyda diddordeb prynu'r llyfr:

All this evidence available in Grant Berkley's The King Arthur Conspiracy on the theme of Wilson and Blackett's work. 600 pages giving you your history back for just £24 inc p+p via,

Alan Wilson,
Vicarage Court,
St. James,
Benwell Lane,
Newcastle-Upon-Tyne
NE15 6RS
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan bartiddu » Llun 28 Awst 2006 4:59 pm

Diddorol iawn, edrycn 'malen i'w ddarllen nawr, ond dal heb ddod trw'r post! :x
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan bartiddu » Llun 28 Awst 2006 10:14 pm

Hoho newydd gweld fod yna podcast newy'Sioe 5, Madog! :D Mynd i wrando.........
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Geraint » Llun 04 Medi 2006 12:59 pm

Y peth mwy diddorol o'r darllediad newydd yw'r honiad mae nid i Brydain oedd lythr Honorius, yn dweud nad yw Rhufain yn gallu edrych ar y wlad bellach, ond hytrach mae llythr i dinas Regium yn ardal o'r Eidal o'r enw Brittium yw o. Gan ddweud mae llythr i Brydain oedd o, mae ein hans wedi rhoi yr argraff mae gwlad a phobl gwan oedd ym Mrhydain ar y pryd, ond mae Wilson yn dadlau fod y Prydeinwyr llawer mwy pwuers a chryf nac mae llawer yn credu.

Sut ma'r llyfr?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan bartiddu » Llun 04 Medi 2006 10:01 pm

Och, dim llyfr eto, canslais archeb ‘da amazon a fi wedi hel am gopi o’r dyn ei hyn!

Ynglyn a’r rhaglen am Madog, oes rhywyn wedi darllen llyfr Gwyn Alf Williams am yr hanes, mae e’n hollol ddifuant mae chwedl yw’r holl beth, sut mae’r ddau ddadl yn sefyll yn erbyn ei gilydd os chi wedi darllen e?
Falle bydd rhaid cael pip ar y gwaith fy hun rhyw dro, mae e’n cyffwrdd a’r hanes tamaid bach yn ‘When was Wales’.

Wel dwi newy’ orffen dau wydraid bach o jin eirin duon wrth wrando ar y rhaglen diweddara, a fi, wel, yn gegrwth! :o
Deall yn iawn am y pwynt am y celwydd 18fed ganrif am y Celtiaid ayb a’r honiad bob cadw’r ffuglen amdanynt yn fyw yn fantais i ddarostwng y Cymry a dweud mae barbariaid noeth oeddynt, craff iawn! So ni yn geltiaid, hisht 'w! :x
Ma’ Alan wilson yn argyhoeddiedig iawn, swnio fel mae’n deall ei stwff, na fe ma’ sawl safbwynt i gael, ond alle ni wrando ar hwn yn siarad trwy’r dydd, a ishte ‘na hefo llyged agored a nodio’r pen a ail adrodd ‘duw duw’ trwy’r amser! 8)
Bois bach ma’r honiad bod camdealldwriaeth rhwng pwy oedd Aetius a Agitius ( camdealdwriaeth fwriadol yn ol Wilson!) yn ddeinameit felma’r cyflwynydd yn hoffi dweud! :)
Wedi darllen sawl tro am y Prydeinwyr yn anfon llythr am gymorth i Rhufain oherwydd bod yr Almaenwyr ar eu ffordd, ond bois bach os mae llythr o Honorious y Prydeinwr a oedd yn rhedeg Gaul i ddweud wrth y Rhufeiniaid yn Regium Brittiam yn de’r Eidal yw e, bod y Prydeinwyr methu helpu nhw, wel, bois bach bois bach bois baaaach! :o
Troi ffeithiau wyneb i weired? Melltith bwriadol hanesyddol gan ysgolheigion rhydychen a Caergrawnt? :?
Hmmmmm! Diddorol iawn! :ofn:
A watshwch mas chi gogs am mynd ‘mlaen gormod am Glyndwr a’r Llewelyns! (tua 50munud mewn ;) ) :lol:

Gwirionedd, amheus, ffuglen? Pwy a wyr, ond mae’n chwa o awyr iach gwrando ar hwn gyfeillion, gwych, mwy mwy mwy! :D (jynci hanes trychinebus :wps: )
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan bartiddu » Maw 12 Medi 2006 9:59 pm

Iawn te, crynodeb o’r rhaglen diwethaf.

9-34. munud - Y Padrig cywir, o Tair Onnen Morgannwg yn y 4redd ganrif, quip da am ‘Wyddelod Efrog Newydd yn talu gwrogaeth i Gymro bob blwyddyn! :lol:


12 munud – Sarhad i John Davies? Propoganda 19fed ganrif – Hanes Cymru?

Lan hyd 18 munud – dim llawer o ddiddordeb….

19-56 munud NAWR TE! Son am hen ynys lle roedd y Taf yn rhannu ( yn ol hanesion y Brenin Meurig), a lle gafodd Joseff o Arimathea ei gladdu ( dan Parc yr Arfau!) mae cais Gareth Edwards YN neud synwyr nawr! (Fi’n credu! Fi’n credu!) :D

(It’s beautifully laid back to Gareth Edwards… ;) )

21 munud Cafodd y bedd ei gloddio yn yr 1890au/1900.

Lleoliad anghysbys Glastonbury NEU Glastennyn – medrau fod unrhywle – golygau Derw werdd!

22 munud - Sant Illtud – Camddehongliad o Sant Alltud?

24 – 25 munud - Dewi Sant yn ail – Sancteiddio bedd yn y 6ed ganrif a oedd wedi orchuddio mewn plwm – Mae enw’r Capel yn hysbys – gan hanesion lleol..
Enw’r Capel Gyfeillion ? Dewch ‘laen crybwyllwch awgrymwch!

25 – 10 munud - Eglwys Rhufain am gadw’r uchod yn gyfrinach!

25-55 - Atherston – Arthur’s Twyn – Wawrickshire – lleoliad claddu Arthur?

26 – 45 And did those feet in ancient times walk upon England’s ( Prydain) mountains Green?

27 – 04 - Ni fedrwch cael hanes Prydais a hanes Rhufain!

27-30 Rhoi hisop i’r Iesu ar y groes i ladd poen…

28 – 35 Ymosodiad y Sacsoniaid yw ar yr archifau a’r Eglwysi a’r hanes

28 – 29 Prydain mewn argyfwng ar ol disgyniad y comed – Awstin yn sarhau esgobion y Brythoniaid drwy peidio codi pan yn eu cwrdd, ac yn mynu iddynt derbyn syniadau Rhufeinig! Ac yn bygwth ymosodiad gan yr Eingl Sacsoniaid!

33 – 51 Taliessyn yn honni fod yr Iesu ar dir Prydeinig yn gyntaf

34 – 20 munud – Gildas yn dweud bod Cristnogaeth yma yn blwyddyn diwethaf Teiberiws yn 37 AD.

Y llyfr wedi cyrhaedd ag wedi ei arwyddo gan yr awduron heddiw gyda llaw, gyda gorchymyn gan yr awdur i'w ffonio i gadarnhau'r dosbarthiad ( newyddyfodiaid tramor yn y swyddfa bost yn dwyn parseli mae'n debyg!)...fi'n cachi fy hyn, mynd i neud siwr fod y ffo^n wedi chargio digon cyn cael sgwrs diddorol! ( dwi'n ofni datgan beth dwi wedi darllen....... :ofn: )
Rhithffurf defnyddiwr
bartiddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2285
Ymunwyd: Sad 21 Chw 2004 12:22 am
Lleoliad: Pentrwyn Cynwyl

Postiogan Geraint » Mer 13 Medi 2006 11:58 am

Illtud oedd Joseph of Aramithea? :ofn: :o

Ti di ffonio eto Barti? Bydd yn ofalus, neu by ti'n diwedd lan yn neud rhaglenni radio iddynt!

Mae'n ddoniol wrth wrnado, mae'r dyn yn cadw torri ar draws Wilson gyda sylwadau bach, mae'n amlwg nad yw Wilson efo dim diddordeb yn be mae o efo i ddweud! Mae'n swnio fel dyn fysai'n anodd cael dadl efo, gan ei fod yn reit pwshi!

Ond mae'r pwyntiau mae'n codi dal yn ddiddorol. Ond dwi dal heb glywed ochr arall i unrhyw ddadl. Be am y sfwff yma am yr Academi Cymraeg? Pwy yw'r 'shopkeeper' ma?
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

NôlNesaf

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron