gan Geraint » Maw 22 Awst 2006 4:40 pm
Wow! Diddorol dros ben. Lot fawr iawn o syniadau diddorol ganddynt. Anodd gwybod le i ddechrau. Ma nhw'n credu'n gryf yn be ma nhw'n ddweud. Mae'n swnio fel bod lot o ffydd yn mynd mewn i hwn, i gredu pethau mae eraill ac academyddion yn galw yn myth neu ffug. Mae'n cwesiynnu llawer o ein rhagdybiaethau, sy'n beth da i wneud, hyd yn oed os da chi'n diwedd lan dal i gredu yn y rhagdybiaeth. Dwi bach yn amheus o'r don paranoid/eisiau arian/pawb yn ein erbyn sydd ganddynt. Ond dwi ddim am disytyru popeth ma nhw'n ddweud yn syth jyst achos nad ydynt yn academyddion.
Dyw rhai academwyr ddim yn cymryd pobl sydd tu allau eu cylch o ddifri, yn enwedig os yw’r syniadau yn bygwth y seiliau meant wedi gwneud eu gwaith arno. Mae acadewmwyr yn aml yn ofn derbyn neu datgan neu cefnogi syniadau newydd a diddorol, achos meant yn ofn o’r ymateb y ceithant o’i gyd-academwyr. Does neb tu allan ei clwb bach yn cael fynegu barn neu cyheoddi syniadau newydd heb cael eu alw yn ‘nytar’ neu beth bynnag. Mae’r tystiolaeth ar gael i bawb weld a darllen a dod fyny efo barn eu hyn. Does dim rhaid i chi wedi bod i brifysgol i wneud hyn.
Beth bynnag, ma nhw'n son am gymaint o wahanol bethau, dim ond wrth edrych a'r bob elfen yn unigol dwi'n gallu delio efo reit nawr. Mae nhw'n trio neud yr holl beth ffitio mewn i un syniad mawr, sydd llawer rhy uchelgeisiol.
O be dwi di gweld, does bron dim progress wedi cael eu wneud yn ddiweddar ynglyn a hanes Cymru/Cymry/Prydain. Mae angen pobl fel hyn i ddechrau dod fyny efo'r theoriau 'far out', yna gall pobl fynd ati i'w astudio, archwilio, profi a gwrthbrofi. Efallai neith pethau fel hyn rhoi cic fyny tin yr academwyr?
Ynglyn a'r darllediad newydd. Ma Wilson efo ffydd yng ngwaith Iolo Morgannwg, fod Coelbren yn hen iaith y Cymry, fod y cerddi D ap Gwilym yddim yn ffug. Nawr, da ni gyd wedi cael ein dysgu fod Iolo Morgannwg yn ffugiwr a junkie gwallgof, oes yna unrhyw le i gwestiynnu hyn?
Ma pobl fel fi, sydd ddim wedi astudio hanes, yn rhoi llawer o ffydd yn yr haneswyr sydd yn ysgrifennu yr hanes, ac yn aml yn derbyn eu safbwyntiau heb eu gwestiynnu. Ma'r pethau fel hyn yn neud i mi sylwi fod yna le i gwestiynnu y farn 'swyddogol', o leia.