Tudalen 1 o 5

Real History Radio - Alan Wilson / Baram Blackett

PostioPostiwyd: Sul 20 Awst 2006 11:29 pm
gan Hedd Gwynfor
Des i ar draws y gwefannau 'ma ar y we heno:

Real History Podcast
Real History Radio
Real History Press and Media
The King Arthur Conspiracy

Mae'r Real History Podcast yn arbennig o ddiddorol. "The truth about the ancient British, their history, origins, culture and achievements" Mae'r sioe 1af yn son am:

Real History Show #1 - A nation that forgets its history...

- The real history of the Khumric people in Britain
- Their arrival via two mass migrations in antiquity
- The Khumry in Troy. Their leader Brutus.
- Clear evidence in ancient preserved Khumric-Welsh MSS
- The Khumry-Kimmerians in the Middle East
-Links between the Khumric language and Hieroglyphs
- Correct translation using Khumric-Welsh
- Khumry in Britain, arrival of Christianity circa 37AD
- Re-writing of British history in the C. 19th at odds with all extant manuscript and recorded evidence
- Orwellian nightmare of a new bogus history
- Historians Alan Wilson and Baram Blackett


"Your history has been taken from you, which is an act of cultural genocide!"

"we are living under a tyranny, posing as democracy."

Be chi'n meddwl? :?

PostioPostiwyd: Llun 21 Awst 2006 9:58 am
gan bartiddu
Wel mae "pawb" yn pw-pwio Hanes Brenhinoedd Prydain gan Sieffere o Fynwy ondydyn?
Na beth yw'r awgrym bod y peth yn llawn celwydde a fod y 'llyfr dirgel' roedd e wedi defnyddio i gael llawer o'i hanesion yn ddim byd mwy na'i ddychymyg creadigol ei hun, nawr te beth os yw'r cwbwl yn wir! :)

PostioPostiwyd: Llun 21 Awst 2006 10:49 am
gan bartiddu
Cyfweliad Alan Wilson Iesu mawr, mor ddiddorol! :o

PostioPostiwyd: Llun 21 Awst 2006 2:15 pm
gan dafydd
Mae'r boi Alan Wilson na'n nytcês. Mae'n dewis damcaniaethau gwyddonol sy'n ffitio'i theoriau e ac yna'n datgan mai dim ond fe sydd yn gallu gweld be sy mor 'amlwg' yw'r gwirionedd. Hoffwn weld ei gymwysterau academaidd. Mae pob gwyddonydd neu hanesydd da yn deall fod mwy nag un damcaniaeth yn bodoli ar gyfer unrhyw 'ffaith' er eu bod nhw efallai yn ffafrio un penodol ar unrhyw adeg.

PostioPostiwyd: Maw 22 Awst 2006 4:40 pm
gan Geraint
Wow! Diddorol dros ben. Lot fawr iawn o syniadau diddorol ganddynt. Anodd gwybod le i ddechrau. Ma nhw'n credu'n gryf yn be ma nhw'n ddweud. Mae'n swnio fel bod lot o ffydd yn mynd mewn i hwn, i gredu pethau mae eraill ac academyddion yn galw yn myth neu ffug. Mae'n cwesiynnu llawer o ein rhagdybiaethau, sy'n beth da i wneud, hyd yn oed os da chi'n diwedd lan dal i gredu yn y rhagdybiaeth. Dwi bach yn amheus o'r don paranoid/eisiau arian/pawb yn ein erbyn sydd ganddynt. Ond dwi ddim am disytyru popeth ma nhw'n ddweud yn syth jyst achos nad ydynt yn academyddion.

Dyw rhai academwyr ddim yn cymryd pobl sydd tu allau eu cylch o ddifri, yn enwedig os yw’r syniadau yn bygwth y seiliau meant wedi gwneud eu gwaith arno. Mae acadewmwyr yn aml yn ofn derbyn neu datgan neu cefnogi syniadau newydd a diddorol, achos meant yn ofn o’r ymateb y ceithant o’i gyd-academwyr. Does neb tu allan ei clwb bach yn cael fynegu barn neu cyheoddi syniadau newydd heb cael eu alw yn ‘nytar’ neu beth bynnag. Mae’r tystiolaeth ar gael i bawb weld a darllen a dod fyny efo barn eu hyn. Does dim rhaid i chi wedi bod i brifysgol i wneud hyn.

Beth bynnag, ma nhw'n son am gymaint o wahanol bethau, dim ond wrth edrych a'r bob elfen yn unigol dwi'n gallu delio efo reit nawr. Mae nhw'n trio neud yr holl beth ffitio mewn i un syniad mawr, sydd llawer rhy uchelgeisiol.

O be dwi di gweld, does bron dim progress wedi cael eu wneud yn ddiweddar ynglyn a hanes Cymru/Cymry/Prydain. Mae angen pobl fel hyn i ddechrau dod fyny efo'r theoriau 'far out', yna gall pobl fynd ati i'w astudio, archwilio, profi a gwrthbrofi. Efallai neith pethau fel hyn rhoi cic fyny tin yr academwyr?

Ynglyn a'r darllediad newydd. Ma Wilson efo ffydd yng ngwaith Iolo Morgannwg, fod Coelbren yn hen iaith y Cymry, fod y cerddi D ap Gwilym yddim yn ffug. Nawr, da ni gyd wedi cael ein dysgu fod Iolo Morgannwg yn ffugiwr a junkie gwallgof, oes yna unrhyw le i gwestiynnu hyn?

Ma pobl fel fi, sydd ddim wedi astudio hanes, yn rhoi llawer o ffydd yn yr haneswyr sydd yn ysgrifennu yr hanes, ac yn aml yn derbyn eu safbwyntiau heb eu gwestiynnu. Ma'r pethau fel hyn yn neud i mi sylwi fod yna le i gwestiynnu y farn 'swyddogol', o leia.

PostioPostiwyd: Maw 22 Awst 2006 6:38 pm
gan bartiddu
Geraint
Dwi bach yn amheus o'r don paranoid/eisiau arian/pawb yn ein erbyn sydd ganddynt.


Rwy'n gwrando ar yr un diweddara nawr,ar yr headphones, fi'n teimlo fel fy mod yn gwrthryfelwr Ffrenig o WW2 yn gwrando ar neges o GHQ! :)

Beth yw'r cymdeithas dirgel 'ma o Aberystwyth sy' wedi bod yn ceisio tapo mewn i gyfrifiadur y boi? :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:16 am
gan Ti 'di beni?
Khumry-Khumry-Khumry-Khumry-Khumry-Kimmerians

You come ang go...you come and go-oooo.

Ahem.

Beni

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:22 am
gan Geraint
bartiddu a ddywedodd:Geraint
Dwi bach yn amheus o'r don paranoid/eisiau arian/pawb yn ein erbyn sydd ganddynt.


Rwy'n gwrando ar yr un diweddara nawr,ar yr headphones, fi'n teimlo fel fy mod yn gwrthryfelwr Ffrenig o WW2 yn gwrando ar neges o GHQ! :)

Beth yw'r cymdeithas dirgel 'ma o Aberystwyth sy' wedi bod yn ceisio tapo mewn i gyfrifiadur y boi? :ofn:


Mae o fel the X-Files! Ma'r dyn ar y radio yn swnio yn obsesd, bron fel sa fo'n barod i ladd dros yr achos!

A oes yna hanesydd ar y maes yn fodlon rhoi barn am theoriau Wilson & Blackett?

O be wela i, ma nhw yn derbyn popeth a ysgrifennwyd gan yr hen Gymry am eu hanes fel ffaith. Ma nhw'n rhoi lot o ffydd yn Brut y Tywysogion ayb. Ma'r pethau am coelbren yn cael eu ffeindio yn america ac Israel yn swnio'n wallgof.

A'i jyst pobl brwdfrydig iawn ydi rhein, neu sgam i wethu llyfrau a neud pres yw o?

Pwy a beth yw yr Ancient British Historical Association?

Ac yn ola:

Be ffwc? :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 11:51 am
gan dafydd
Geraint a ddywedodd:Pwy a beth yw yr Ancient British Historical Association?

Wilson/Blackett yw yr ABHA.. Dyma gofnod blog am y storiau diwedfar gan rywun sy'n deall mwy na fi am hanes.

PostioPostiwyd: Mer 23 Awst 2006 12:12 pm
gan bartiddu
Dwi'n cofio cael fy swyno gan damcaniaethau Graham Hancock ar y Piramidiau a'r Astecs ag ati sawl blwyddyn nol nawr, popeth yn agoriad llygad, tan i rhaglen hwyr ar y BBC chwalu popeth ddywedodd e'n shils :(
Ond mae'n rhaid cyfaddef fod rhaglenni radio y mudiad yma'n difyrwch llwyr :), boed yn ffrwythog ddwl nei beidio, edrych mlaen am yr un nesa'n barod!
Dwi mynd i geisio gael gafael ar y llyfr, 600 o tudalennau? :?

Alan Wilson- Wici