Na, dim wedi ffonio, roedd y llythr ges i nol a oedd yn dweud 'give us a call to let us know if it's arrived safley' heb rhif ffo^n, ond roedd y dyddiad wedi ei sgrifennu mewn modd a oedd yn edrych fel rhif ffo^n os o chi ddim ond wedi cewcio ar y llythr yn glou fel wnes i, felly danfonais llythr o gadarnhad ynlle ffonio! phew!
Och a gwae, dim sioe wythnos 'ma , ond cyfle i ddarllen y llyfr, dyma'r adroddiad mor belled, yn boeth o feddalwedd Word :-
Newydd ddechre ar y llyfr, mae’n argoeli’n dda, mae’n hawdd ag eglur i ddarllen mor belled a tynu chi mewn i ddarllen mwy a mwy ar bob sesiwn. (marcio godrau’r tudalennau hefo pensil yn barod!)
Llwyth o sylwadau ynglyn a’r elfen poloticaidd victorianaidd ayb ynglyn a pardduo a disytyru’r Brut’s ag ati. Ac am Edwin Guest ( this buffoon) [sic], a gwnaeth yr holl nonsense ‘ma am y Celtiaid barbaraidd i fyny!
Roedd Arthur y cynta yn fab i Facsen wledig, mae e wedi ei gladdu yn Wawrick (Arthurs Twyn / Atherston), fe gipiodd hwn Gaul ac aeth ymlaen i ymladd yn Ilyria ( Yugoslavia) a dychwelodd i Brydain yn 388
Mae disgynydd iddo Arthur yr ail wed’i gladdu yn Morganwg
Yr Arthur hyn oedd yn wmla’r Almaenwyr.
Mae yna bwyslais mawr ar y gred fod gweddillion comed wedi bwrw Prydain yn ystod amser Arthur yr ail (562 AD), a fellu wedi creu dinistr ar raddfa syfrdanwy, a tua 7-11 mlynedd o argyfwng lle bu farw filoedd ar filoedd ar filoedd o boblogaeth o tua 10 miliwn, rhywbeth sy’n atgofa dyn o’r rhaglennu cyfoes sy’ wedi bod ar ynglyn ag effeithion posib disgyniad comedau.
Yr effaith hyn gwnaeth iddi’n bosib fod y Prydeinwyr/ Khymry wedi’u lleihau i’r fath raddau ei fod yn hawdd i’r Almaenwyr lanio a ymgartrefi heb lawer o draferth.
I ni’n cael gwybod am Alfred y ‘Great’ oedd mor Great roedd rhaid cael Cymro o’r enw Geraint i ddod i’w lys i ddysgu eu bobl i fod yn llythrennog ayb Geraint y bardd glas, yw Asser wrth gwrs!
Roedd cadfan Camlan yn Llongborth ym mae Ceredigion, 10 milltir islaw Dolgelli
Llawer o ddilorni Harri Tudur am ail ysgrifennu hanes ei gyn dadau a trosglwyddo pobol mewn i’w deulu e (Madog Morfran o dde Cymru e.e.) ayb
Wel na fe na gyd fedrai gofio nawr, myndi bwrw gered a darllen mwy mewn ychydig
Os chi am ddarllen am hanes o ogwydd gwahanol yn sicir y bois ‘ma yw’r haneswyr i chi!