Oes mae yna enwau, er engraifft y Cassivelanus 'ma ma'r llyfrau gyd yn son am, wel Caswallon yw'r enw Brythonaidd, ond dim enw yw e, ond enw arweinwr rhyfel, 'r un peth a Pen ddraig sef enw ryw fath o ranc yn y lluoedd, ma' 'na Goel Hen, Eudaf Hen, Tewdrig / (Theoderic) i gyd yn gysylltiedig, rhaid i fi ail edrych ar yr asterics mawr sda fi ym mhobman ar y tudalennau ma' fe gyd 'na yn y llyfr.
Dwi wedi roi hoe i'r llyfr ers 3 wythnos, es trwyddo 3/4 fel dos o sols, ond o'dd ym mhen i'n troi gymynt hefo feithiau gorfes i gadael hi, dwi mynd i ail gydio yn fuan, dwi nol yn y mannau am Arthur yr ail nawr mab y brenin Meurig o Forgannwg, odd y llyfr yn colli fi braidd tra'n son am lle roedd dilynwyr Brwtws wedi cuddio Arch y Cyfamod ar ryw ynys ger Sbaen
Ond dwi am archebu Artorius Rex Discovered, y llyfr o'r 80au, dyle hwnnw fod mwy at fy niddordeb i.
Beth am ofyn i Sion Corn am y llyfr?