Tudalen 4 o 5

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 7:12 pm
gan bartiddu
Oes mae yna enwau, er engraifft y Cassivelanus 'ma ma'r llyfrau gyd yn son am, wel Caswallon yw'r enw Brythonaidd, ond dim enw yw e, ond enw arweinwr rhyfel, 'r un peth a Pen ddraig sef enw ryw fath o ranc yn y lluoedd, ma' 'na Goel Hen, Eudaf Hen, Tewdrig / (Theoderic) i gyd yn gysylltiedig, rhaid i fi ail edrych ar yr asterics mawr sda fi ym mhobman ar y tudalennau :wps: ma' fe gyd 'na yn y llyfr.
Dwi wedi roi hoe i'r llyfr ers 3 wythnos, es trwyddo 3/4 fel dos o sols, ond o'dd ym mhen i'n troi gymynt hefo feithiau gorfes i gadael hi, dwi mynd i ail gydio yn fuan, dwi nol yn y mannau am Arthur yr ail nawr mab y brenin Meurig o Forgannwg, odd y llyfr yn colli fi braidd tra'n son am lle roedd dilynwyr Brwtws wedi cuddio Arch y Cyfamod ar ryw ynys ger Sbaen :ofn:
Ond dwi am archebu Artorius Rex Discovered, y llyfr o'r 80au, dyle hwnnw fod mwy at fy niddordeb i.
Beth am ofyn i Sion Corn am y llyfr? :)

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 7:56 pm
gan Geraint
Dwi'n cael y teimlad fod Alan Wilson wedi bod yn cwyno nad yw e wedi gwerthu digon o lyfrau 'Listen 'ere Tim, I agreed to this web radio thing so that we could sell more books, not for you waffling, next time make more effort to sell the bloody things, I've got to get rid of more, there's no room to move in my bedroom! :lol:

PostioPostiwyd: Maw 28 Tach 2006 8:36 pm
gan bartiddu
Aye, lle roedd y Wilsfeistir?
Ma' Al medru fy argyhoeddu yn ei ffordd unigryw llawer gwell na Timmy!

PostioPostiwyd: Mer 06 Rhag 2006 9:34 pm
gan bartiddu
Jiw Jiw, druan a’r hen Tim, gorfod darllen mas o’r llyfrau nawr ar ei sioe, lle ma Alan wedi mynd tybed? Fe oedd yn neud y sioe! :(
Son am ddarllen, ma’r King Arthur Conspiracy’n mynd yn dda! :D

Y Cadfridog Geraint, pennaeth byddin Macsen Wledig ceidwad y bwlch trwy’r Pirenis, yn caniatau’r Almaenwyr truen dan Alaric oedd newydd cael hemmad gan byddin Macsen i ffou trwy’r porth a hwythau’n encilio trwy Sbaen a wedyn cipio Gogledd yr Affrig, cyn degawdau wedyn hwylio nol i’r Iwerddon cyn cael hemmad arall gan y Brythoniaid a’r Gwyddelod a hwythau wheth yn gorfod ffou trwy Gymru i Loeger tra’n creu dinistr llwyr!

Yr hen Dewi Sant yn darganfod y groes gwreiddiol a daeth yma drwy Helen, dim yn bell o Aberteifi, a’i selio mewn plwm mewn ogof.

A wedyn, Preiddiau Annwfn Taliesyn, a helynt y comed dinistriol, mab hanner cochgroen indiaidd Madog Morfran yn darbwyllo Arthur i hwylio mewn 700 o longau o porthladd Aberdaugleddau i diroedd ffrwythlon Annwfn (America) lle darganfyddu ei dad hwy gynt. Hwyrach wrth amddifyn y caeau gwenith maethlon, ma’ Arthur yn cael ei drywanu’n ysgeler gan un o’r brodorion llechwraidd cochgroen wrth iddo dynnu ei arfwysg bant!
Wedyn Illtyd un o gyn farchogion Arthur yn derbyn y corff sychiedig ger Llwyngarth a’i osod mewn ogof ger Coed y Mwstwr, cyn iddo gael ei gludo i.....

Darllen lled difyr gyfeillion! :)


C. Hoffen cael cip ar y Preiddiau Annwfn ‘ma, odyn i’w cael mewn ryw lyfr cyfoes?

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 12:41 pm
gan Geraint
Diddorol! Hoffwn ni ddarllen y llyfr, mae'n snwio'n peth gwell i wneud na gwrando ar y rhaglenni newydd ma. Heb Alan Wilson, ma gwrando ar y Tim ma yn rantio ddim yn bleserus iawn, a nawr fod e'n darllen nofel, wel dyw e ddim lot o ddarllenwr nadi? MA angen llais thespian fel Ian Mckellen i wneud y fath beth! Dwi'm efo amynedd i wrando - a dwi'n amau nad yw Barram a Blackett yn fawr o nofelwyr :?

Ond blydi hel, £25 am nofel? Are you having a laugh?

PostioPostiwyd: Iau 07 Rhag 2006 1:34 pm
gan bartiddu
Ges i afael ar Preiddiau Annwfn

ni wyddant hwy yr ych brych bras eu penffrwyn


Llinell 39 'Buffalo' yw rhein i fod, un engraifft yn y gerdd o'r cysylltiad Americanaidd.

Ond os am cael eich argyhoeddi mae am yr antur i Annwfn / America (Otherworld) ar ol i'r Comed dryllio Prydain yn 562 AD yw hyn (Preiddiau Annwfn), mae rhaid i chi gredu mae Eryr ( Er Yr) yw'r enw rhoddir i'r tiroedd newydd (America) darganfyddid gan Madog, a nid Eryr yr aderyn ysglyfaethus, yn y gerdd Proffwydoliaeth yr Eryr.

Sydd fan hyn hyn (mae'r 'sgrifen methu ymddangos ar fy sgrin i :( )
Felly, yn ol Wilson a Blackett, Eryr yw Er Yr (America), ar y foment, mae'n anoddi'w lyncu! :)

PostioPostiwyd: Llun 18 Rhag 2006 7:39 pm
gan bartiddu
Sioe 14 Llewelyn Llyw Olaf (Gwynedd) :winc:
Gyda Mr Wilson yn areithio! :)

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 1:54 pm
gan Geraint
Un arall lan ddoe.

- bach o rant yn erbyn ni Gymry Cymraeg ar y diwedd. Bartiddu, ife ti anofondd siec Cymraeg at Mr Wilson?

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 2:33 pm
gan Tegwared ap Seion
Be mae o'n ddweud?

PostioPostiwyd: Mer 20 Rhag 2006 5:13 pm
gan bartiddu
Do, roedd fy siec i'r gwr boneddig yn Gymraeg, fel pob siec dwi'n sgrifennu, ma ishe amynedd ambell waith on does! :lol:
Roedd y sylwadau am teulu brenhinol y wlad drws nesa'n go ddifyr 'fyd! :lol: Falch fod y rhaglennu'n mynd nol at eu fformat gwreiddiol 8)