Wiki ar gyfer Caerdydd.
Mae yn Saesneg, ond mae modd (ac yn reit pwysig yn fy marn i) bod pethau am y Gymraeg yn cael eu cynnwys. Dwi wedi ysgrifennu am Fenter Caerdydd, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd a Sain Ffagan, a chreu categori Welsh Language ar eu cyfer (a chynnwys eitem am Clwb Ifor Bach ato hefyd).
Beth am gyfrannu?
-Creu tudalennau am noswithiau arbennig sy'n cael eu cynnal yn Clwb Ifor Bach fel Maes-B, Stonc ayyb (wedyn rhoi dolen o dudalen Clwb atynt)
-Engrhaifft arall fyddai sgwennu am Pictiwrs yn y Pyb (ond byddai angen tudalen am Dempsey's yn gyntaf)
-Côr CF1 hyd yn oed
-Y Dinesydd
-Nofelau wedi eu lleoli yn y ddinas (e.e. Dyddiadur Dyn Dwad)
-Yn amlwg sdim rhaid iddo fod a dim i'w wneud â'r Gymraeg, gallwch jyst ysgrifennu am eich hoff Dafarn, Bwyty, Caffi, Parc a.y.y.b.
Mae na lot o dudalennau wedi eu creu'n barod, yn disgwyl i rhywun eu llenwi, sy'n haws os ydych yn ansicr sut mae'n gweithio.