Dydy o ddim yn rhywbeth hollol newydd erbyn hyn, ond ta beth... gellir lawrlwytho Mars24 yn rhad ac am ddim oddi wrth NASA. Cloc amser Mawrth ydy o, sy'n cynnwys:
Oriadur amser Mawrth y gellir newid i ddangos amser unrhyw leoliad ar Fawrth, gan gynnwys y robots sydd yno
Map rhithwir Mawrth (neu "Sunclock") sy'n dangos lle mae'r nos a lle mae'r heulwen ar y pryd a chanddo opsiynau i ddangos panorama o amgylch y robot "Spirit" neu i ddangos safle Mawrth, Y Ddaear, Gwener a Mercher o gwmpas yr Haul.
Y peth i sylweddoli am amser ar Fawrth ydy bod un sol (sef diwrnod ar Fawrth) yn 40 munud yn hwy na diwrnod ar y Ddaear. Serch hynny mae'r sol yn cael ei rannu'n 24 awr. Mewn geiriau eraill mae unedau amser ar Fawrth (eiliadau, munudau ac oriau) yn hwy nag unedau amser y Ddaear (mae un awr Mawrth yn gyfateb i 1 awr + 1 munud ar y Ddaear -mwy neu lai).