Gwe-fan - Glyndwr Speaks

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Gwe-fan - Glyndwr Speaks

Postiogan Geraint » Maw 28 Tach 2006 6:35 pm

Dwi wedi ffeindio gwe-fan diddorol am Owain Glyndwr. Mae yna gefndir hanesyddol, cymdeithasol a daearyddol diddorol i sefyllfa Cymru yr amser yna. Mae yna luniau a mapiau da. Mae dal yn cael ei adeiladau, ond ar ol ei orffen, mae'n edrych fel fydd yn adnodd da i ddysgu am Glyndwr.

Pwy sydd tu ol i hwn tybed? Mae'r ebost dan yr enw 'adamsvi'
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Rhys » Maw 28 Tach 2006 8:35 pm

Mae'n edrych yn addawol, mae wir angen adnodd o'r fath. Dyfalu ydw i, ond mae na Adam, sy'n drefnydd mudiad 'Balchder Cymru' yn y gogledd ddwyrain. Mae'n fudiad cenedlaetholgar gyda'r mwyafrif yn unigolion yn eu hugeiniau a sy'n ddi-Gymraeg, ond mae'nt yn falch iawn o'u Cymreictod (fel mae e henw'n awgrymu) ac yn tynnu llawer ar symboliaeth OG. Mae Adam hefyd wedi postio ar maes-e yn y gorffennol os dwi'n cofio'n iawn.

(ond dyfalu ydw i)
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dafydd » Mer 29 Tach 2006 11:36 am

Rhys a ddywedodd:(ond dyfalu ydw i)

Sdim angen dyfalu.. Vicky o Vienna yn Virginia (yn America) sydd biau'r wefan. Victoria Adams - nid posh spice dwi'n cymryd :) Mae peth o'r cynnwys yn debyg iawn i stwff ar Wikipedia a Welshpedia, yn cynnwys cam-sillafiadau union r'un fath. Sgwn i pwy sydd wedi dwyn y cynnwys o bwy?
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan huwwaters » Mer 29 Tach 2006 12:49 pm

Rhys a ddywedodd:Dyfalu ydw i, ond mae na Adam, sy'n drefnydd mudiad 'Balchder Cymru' yn y gogledd ddwyrain. Mae'n fudiad cenedlaetholgar gyda'r mwyafrif yn unigolion yn eu hugeiniau a sy'n ddi-Gymraeg, ond mae'nt yn falch iawn o'u Cymreictod (fel mae e henw'n awgrymu) ac yn tynnu llawer ar symboliaeth OG. Mae Adam hefyd wedi postio ar maes-e yn y gorffennol os dwi'n cofio'n iawn.

(ond dyfalu ydw i)


Dwi di bod un o 'gorymdeithiau' Balchder Cymru, o Gaergwrle i'r Hôb. Profiad 'diddorol' i ddeud y gwir. Brasgamu lawr ffordd fawr efo drymiau, megaphone, a rhai o'r canolbarth wedi dod i fyny gyda baneri FWA.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Positif80 » Mer 29 Tach 2006 2:17 pm

huwwaters a ddywedodd: Dwi di bod un o 'gorymdeithiau' Balchder Cymru, o Gaergwrle i'r Hôb. Profiad 'diddorol' i ddeud y gwir. Brasgamu lawr ffordd fawr efo drymiau, megaphone, a rhai o'r canolbarth wedi dod i fyny gyda baneri FWA.


FWA? 1971 just called - they want their movement back. :crechwen:

Dwi byth wedi bod yn rhy siwr am Glyndwr. Mae o'n dod drosodd fel ychydig o chancer, a bod y sefyllfa wedi mynd yn bellach na 'roedd o isio yn wreiddiol. Wedi'r cwbl, 'roedd Glyndwr wedi ymladd hefo'r Seision a phob dim.

Arwr neu beidio, mae'n stori diddorol dros ben: un o "what ifs" gorau hanes.
Finalmente, il mundo e mio!
Rhithffurf defnyddiwr
Positif80
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1016
Ymunwyd: Llun 02 Hyd 2006 9:58 am
Lleoliad: Truth or Consequences, New Mexico


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron