Lle mae pawb wedi mynd?
O ni'n defnyddio soulseek yn aml cwpl o flynyddoedd yn ol. Roedd yna lwyth o fobl ar y maes yn ei ddefnyddio. Dwi'n hoff iawn o'r ffordd mae'n gweithio - lot hawsach lawrlwytho albyms cyfan yn lle caneuon unigol.
Wedi cael soulseek yn ol yn ddiweddar, does bron neb arno bellach, mae'n dawel iawn na. Dewch nol!
Pwy di Cocoen? Mae ganddo lot fawr o draciau Cymraeg fyny, a dewis da iawn o gerddoriaeth.