Cyngor am I-Be!

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cyngor am I-Be!

Postiogan Mr Gasyth » Gwe 19 Ion 2007 1:22 pm

Ddechrau wythnos nes i fidio am rai eitemau ar E-Bay, nad ydw i bellach eu hangen. Ond rydw i'n dal i fod yn top bidder ar y ddau eitem (gwerth cyfanswm o £180), gyda ychydig dros diwrnod i fynd o'r ocsiwn.

Beth yw fy opsiynau? Os digwydd i mi enill yr eitemau, beth fyddai oblygiadau jest rhedeg i ffwrdd a diflannu? Oes rhywyn arall wedi bod mewn sefyllfa debyg?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Cyngor am I-Be!

Postiogan dafydd » Gwe 19 Ion 2007 1:45 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:Beth yw fy opsiynau? Os digwydd i mi enill yr eitemau, beth fyddai oblygiadau jest rhedeg i ffwrdd a diflannu? Oes rhywyn arall wedi bod mewn sefyllfa debyg?

Yn gynta gofynna i'r gwerthwyr os ydyn nhw'n gallu anwybyddu'r cynnig. Dyna wnes i unwaith a mi wnaeth y gwerthwr ddileu'r eitem a'i ail-restru (dwi'n meddwl.. dwi ddim yn credu fod gwerthwr yn gallu dileu cynnig rhywun arall). Fel cam olaf, mae'n bosib tynnu'r cynnig yn ôl, fel mae'r dudalen yma'n dangos - ond dwi erioed wedi gorfod mynd drwy'r broses yna fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan Rhys » Gwe 19 Ion 2007 1:50 pm

Dwi ddim yn defnyddio e-bay ryw lawr, a mond prynnu dwi erioed wed gwneud. Petai rhywun yn ennill bid a rhedeg ffwrdd fyddwn i braidd yn flîn gan ei fod yn mynd yn groes i ysbyryd yr holl beth.

Pan ddefnyddiais i e-bay am y tro 1af, dyma fi'n gwneud balls-up go iawn o feddwl bod rhywun wedi curo fy nghynnig gwreiddiol ar eitem, ac yna gwnes i gynnig arall - ond mewn gwirionedd roeddwn wedi gwneud cynnig am ail-eitem, a dyma fi'n ennill y ddau :wps:

Be wnes i oedd e-bostio un ohonynt yn esbonio beth ddigwyddodd ac ymddihero + cynnig ad-dalu unrhyw golledion. Gan bod e-bay yn cymeryd % o unrhyw werthiant - rhaid i hyn gael ei dalu gan y gwerthwr petawn i'n ei brynnu neu beidio.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron