yanks!

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys » Gwe 09 Maw 2007 2:42 pm

Tra'n chilio am stori newyddion am y Geography Cup, dyma fi'n dod o hyd i'r erthygl hynod yma am drafferthion Microsoft. Cymaint oedd anwybodaeth daearyddol a diwyllianol y cwmni/gweithwyr fel iddo gostio miliynnau iddynt mewn gwerthiant ac arwain at rai staff gael eu harestio yn rhai gwledydd hyd yn oed!

Gol.
Rhag ofn bod unrhyw gamddealltwriaeth a chyhuddiadau o hiliaeth a bod pobl yn upsetio, dyma fi'n crybwyll y Geography Cup gan fod Americanwyr wedi curo'r DG mewn cwis ar lein am ddaearyddiaeth, mi gymerodd 40,000 o Americanwyr ran a 11,000 o ddinasyddion y DG. Roedd sgôr cyfartaledd yr Americanwyr yn uwch.+
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Mali » Gwe 09 Maw 2007 6:49 pm

sanddef a ddywedodd:
Mali a ddywedodd:Gwnaed rhaglen debyg i hon yma hefyd, jyst er mwyn dychanu a dangos cyn lleiad mae'r Americanwyr yn wybod am Canada. 'Roedd o reit ddoniol ar adegau, ond duwcs, mae rhai pobl yn wybodus am bethau ,a rhai ddim , felly dyle ni wneud hwyl am ben yr holl wlad oherwydd hyn?
Ond mi oedd yr ymatebion gan ddefnyddio map y byd yn ddipyn o agoriad llygad . :o

Nid yw'n gwestiwn o fod yn dwp. Siwr, roedd un neu ddau o'r bobl ar y fideo yn dwp, ond yr hyn mae'r fideo'n ei ddangos mewn gwirionedd yw anwybodaeth trigolion yr UDA o'r byd tu allan i'w gwlad eu hun. Nid yw bod yn ynysig yr un peth â bod yn dwp, yn enwedig o ystyried maint yr UDA. Mae llawer o bobl Prydain yr un mor anwybodus o wledydd Ewrop.

'Rwyt wedi fy nyfynu i , ond wnês i ddim cynnwys y gair 'twp' o gwbwl! :?
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan sanddef » Gwe 09 Maw 2007 10:12 pm

Mali a ddywedodd:

Gosod cyd-destun fy neges oeddwn i wrth ddyfynu dy neges di:

mae rhai pobl yn wybodus am bethau ,a rhai ddim , felly dyle ni wneud hwyl am ben yr holl wlad oherwydd hyn?

Sbia ar y negeseuon rhwng dy neges di a fy neges fi. Ti'n gweld y gwahaniaeth? Ti oedd yr olaf i gyfeirio at bwnc yr edefyn cyn i'r mwydro am hiliaeth ddechrau.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan rabscaliwn » Gwe 09 Maw 2007 10:19 pm

Dylan a ddywedodd:Siwr byddai digon o bobl anwybodus cyffelyb i'w cael ar strydoedd unrhyw dref yng Nghymru hefyd
Ar strydoedd Caernarfon, yn bendant! Blydi hel, am lle llawn 'freaks'. A ti gyda'r gwaetha' Dylan!
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan rabscaliwn » Gwe 09 Maw 2007 10:20 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Ti'n gwbod fy fod ti'n colli'r ddadl yn awtomatig os wyt ti'n cymharu unrhyw beth â'r Natsiaid ond dwyt ti? Mae'n rhan o reolau'r we.
:lol: Gwych!
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Mali » Gwe 09 Maw 2007 11:01 pm

sanddef a ddywedodd:
Sbia ar y negeseuon rhwng dy neges di a fy neges fi. Ti'n gweld y gwahaniaeth? Ti oedd yr olaf i gyfeirio at bwnc yr edefyn cyn i'r mwydro am hiliaeth ddechrau.

Ocê, dwi'n gweld y gwahaniaeth, ond 'roedd dy ymateb di'n swnio fel fy mod i'n cyhuddo Americanwyr o fod yn dwp.
Mae gen i ffrindiau da sydd yn Americanwyr, a wedi'r cwbwl dwi'n byw drws nesaf i'r States. Felly dyna'r peth olaf faswn i'n ddweud! :x
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Boibrychan » Gwe 09 Maw 2007 11:51 pm

Ydw i ar ben fy hun yn ffeindio hwna'n ddigri?

Na does dim eisiau bod yn rhy gyffredinol, dyw pob Americanwr ddim yn dwp ond ma rhai o'r pethau sy'n cael ei dweud yn erchyllus!

Tecsas well dim sypreis, ond chi'n meddwl fedrach chi ffeindio llawer o bobl yn y cymoedd neu yng ngogledd Lloegr buasau'n dilyn Blair mor ddi ddadl? ( wps dwi'n gweld y trap dwi newydd gerdded fewn i!)

Yn ol y canlydiad pwysicaf yn hanes diweddar yr UDA ddaru nhw brofi bod nhw'n dwp! Cafodd Bush ei ail ethol do ddim!? :lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Boibrychan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 252
Ymunwyd: Iau 01 Maw 2007 7:23 pm
Lleoliad: Byrmingham

Postiogan sanddef » Sad 10 Maw 2007 12:01 am

Boibrychan a ddywedodd:Ydw i ar ben fy hun yn ffeindio hwna'n ddigri?

Dim o gwbl.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Blewyn » Sad 10 Maw 2007 4:07 am

rabscaliwn a ddywedodd:Ar strydoedd Caernarfon, yn bendant! Blydi hel, am lle llawn 'freaks'. A ti gyda'r gwaetha' Dylan!

Ei, ti meddwl ti dda cont ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nôl

Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron