Tudalen 1 o 1

Prynu gliniadur

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 6:01 pm
gan Beti
Reit, co ni off.
Dwisho prynu gliniadur. Yn amlwg, braf iawn fyse cael MAC ond yn anffodus, wnan nhw ddim derbyn botymau. Sooo de, be fyddech chi'n argymell?
Dwi angen o'n bennaf ar gyfer adloniant - fy iPod, fy nghamera digidol, y We, a jyst chwarae o gwmpas.
Felly, mae fy nghyfeillion technolegol yn deud ddylwn i gael un efo'r Vista 'ma, efo gymaint o ram a fedra i a lot o gof - laptop lly!
:ofn:
Unrhyw gyngor arall? Dwi'n fodlon gwario £500 (dwi'n meddwl).
A dwisho un newydd sbon achos dwi'n wirion fel'na. Fyddai'n licio llechen lan i mi gael neud mes.
Mae 'na gymaint o wefannau, dwi'm yn gwbod lle i ddechre!

PostioPostiwyd: Llun 05 Chw 2007 6:06 pm
gan Fflamingo gwyrdd
Dyma be' odd gan y maeswyr erill i ddeud wrtha i pan ofynish i'r cwestiwn...

viewtopic.php?t=17330&highlight=laptop+newydd

PostioPostiwyd: Gwe 09 Chw 2007 5:07 pm
gan MerB
Gynta ti isho ffrind amyneddgar iawn i fynd a ti rownd PC World, Currys a Comet a amrywiol siopa lleol o gwmpas Caerdydd. Yn diwedd, ti mor fed-up, ti yn prynu Dell off y we beth bynnag. Hyn yn eironig chos sut wyt ti fod i fynd ar y we i brynu cyfrifiadur heb gyfrifiadur.

Jest paid a cyffwrdd Sony a paid a chael dy conio i dalu mwy am fwy o gof. Os wyt ti angen defnyddio Photoshop, wyt ti angne graphics card, fel arall paid a poeni am y graphics drud drud. Ti well off yn prynu memory stick/ additional memory etc. Toshiba yn ddigon rhad a dibynnol....

Swnio fel nerd braidd

PostioPostiwyd: Gwe 09 Chw 2007 5:48 pm
gan Y Fampir Hip Hop
Prynes i HP Photosmart 2575 All-In-One yn Tescos nol dechre mis Rhagfyr am bythdi £100. Mae e'n wych o be fi moyn mas o fe, a mae'n scanno a llungopïo pethe 'fyd. 'Itha tîdi weden i. :)

PostioPostiwyd: Gwe 09 Chw 2007 5:58 pm
gan Al
Y Fampir Hip Hop a ddywedodd:Prynes i HP Photosmart 2575 All-In-One yn Tescos nol dechre mis Rhagfyr am bythdi £100. Mae e'n wych o be fi moyn mas o fe, a mae'n scanno a llungopïo pethe 'fyd. 'Itha tîdi weden i. :)


ti'n son am argraffwr, fy ngwashi.

Re: Prynu gliniadur

PostioPostiwyd: Sad 10 Chw 2007 10:38 pm
gan dafydd
Beti a ddywedodd:Dwisho prynu gliniadur. Yn amlwg, braf iawn fyse cael MAC ond yn anffodus, wnan nhw ddim derbyn botymau. Sooo de, be fyddech chi'n argymell?


I gael rhywbeth sy'n rhad ond yn frand da, edrych ar wefan Morgan. Os wyt ti'n poeni am gael cefnogaeth gan y gwerthwr am 2/3 mlynedd, mae Dell yn iawn, er fyddi di'n talu'n ddrud am y gwasanaeth estynedig.

Dwi wedi bod yn chwarae gyda Vista am wythnos.. fasen i ddim yn dewis defnyddio hwnna am nawr. I wneud y gorau ohono mae angen y caledwedd diweddara a druta. Mae XP yn hen ddigon da. Ond os wyt ti'n prynu peiriant gan Dell neu rhywun felna mae'n amhosib i osgoi Vista.

PostioPostiwyd: Sul 11 Chw 2007 12:14 am
gan Y Fampir Hip Hop
Al a ddywedodd:ti'n son am argraffwr, fy ngwashi.

:wps:
Ddiawl, compiwter-dy-g'arffed ni'n galw Laptop yn Cwmtawe t'wel, was!

Fe ddylsen i di ddysgu fy terme technegol erbyn hyn.

Ond s'dim ots, ma fy cyngor dal yn berthnasol (rhywfaint :winc:)- 'se ti angen argraffwr i 'fyd gyda dy gliniadur, ma be s'da fi yn neud jobyn ffein! :winc:

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2007 1:59 pm
gan Beti
Yyyyym, oes na rywun yn gwbod be di'r gwahaniaeth rhwng internal optical drive a integrated optical drive? :ofn:

Na, does na ddim pynshlain.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 9:08 pm
gan dafydd
Beti a ddywedodd:Yyyyym, oes na rywun yn gwbod be di'r gwahaniaeth rhwng internal optical drive a integrated optical drive?

Dim heb weld y spec ond mae'n debygol fod e'n union yr un peth. Un posibilrwydd yw fod integrated yn golygu darn dvd/cd sy'n gallu gael ei dynnu allan o'r gliniadur tra fod internal yn golygu rhywbeth sy'n rhan o'r cas.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Maw 2007 9:16 pm
gan Griff-Waunfach
Dwi newydd prynu gluniadur apple mac heno! dwi'n impressed IAWN!