Reit, co ni off.
Dwisho prynu gliniadur. Yn amlwg, braf iawn fyse cael MAC ond yn anffodus, wnan nhw ddim derbyn botymau. Sooo de, be fyddech chi'n argymell?
Dwi angen o'n bennaf ar gyfer adloniant - fy iPod, fy nghamera digidol, y We, a jyst chwarae o gwmpas.
Felly, mae fy nghyfeillion technolegol yn deud ddylwn i gael un efo'r Vista 'ma, efo gymaint o ram a fedra i a lot o gof - laptop lly!
Unrhyw gyngor arall? Dwi'n fodlon gwario £500 (dwi'n meddwl).
A dwisho un newydd sbon achos dwi'n wirion fel'na. Fyddai'n licio llechen lan i mi gael neud mes.
Mae 'na gymaint o wefannau, dwi'm yn gwbod lle i ddechre!