gwefan yr SNP yn gymraeg?

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

gwefan yr SNP yn gymraeg?

Postiogan gronw » Sad 17 Chw 2007 11:30 pm

a minnau'n bwrw golwg dros wefan Plaid Genedlaethol yr Alban, mi gefais sioc fy mywyd pan ddois i i'r dudalen yma:

Delwedd

waw! sut ddigwyddodd hwnna? nes i ddim dewis cymraeg na dim byd! achos bod windows cymraeg gen i ie? pam jyst y bit yna? cŵl!

shit, dwi fod yn aros mewn i neud gwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Re: gwefan yr SNP yn gymraeg?

Postiogan dafydd » Llun 19 Chw 2007 7:53 pm

Mae nhw'n defnyddio CMS 'Plone' i reoli'r wefan. Mae Plone yn cynnwys nifer o gyfieithiadau yn cynnwys Cymraeg ar gyfer rhai o'r elfennau craidd e.e. rheoli cyfrif, newyddion, chwilio, map safle.

Felly mi wneith y cyfiethiad ymddangos os yw'r porwr yn cefnogi [cy] (naill ai fersiwn Cymraeg, OS Cymraeg neu osodiad iaith unrhyw fersiwn arall).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Postiogan gronw » Llun 19 Chw 2007 8:21 pm

diolch am yr esboniad technegol! dwi dal yn meddwl bod hyn yn wych! dim hyd yn oed gorfod gofyn amdano yn gymraeg!

mae fel petaech chi'n cerdded mewn i siop, a pan maen nhw'n gweld eich bathodyn bybl oren bwrdd yr iaith (nid mod i'n gwisgo un :?), maen nhw'n baglu dros ei gilydd i roi gwasanaeth cymraeg i chi, yn hytrach na rowlio'u llyged pan chi'n gofyn yn neis!
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan nicdafis » Maw 20 Chw 2007 8:43 pm

Mae yn wych, ond mae wedi bod yn bosibl ers blynyddoedd. Y drueni yw bod cynlleiad o wefannau Cymru yn defnyddio'r tric. Os dw i'n cofio'n iawn, roedd Google yn arfer wneud, ond ddim nawr, ac mae rhyw wefan tywydd oedd yn wneud e.

Oes enghreifftiau eraill?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Maw 20 Chw 2007 8:45 pm

O.N. blogiais i am hyn yn <a href="http://morfablog.com/archif/2001/12/27/ymunwch-r-tywydd-danddaearerbyn-hyn/">2001</a> - <a href="http://www.wunderground.com/">Weather Underground</a> yw'r safle - pa iaith mae hwnna i ti Gronw?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan gronw » Maw 20 Chw 2007 11:23 pm

:P

cymraeg eto!

a nawr bo fi'n gweld y wefan yna, mae gen i ryw gof amdani! bosib iawn mod i wedi darllen am hyn i gyd o'r blaen a jyst wedi anghofio. cof fel gogor gen i. o leia dwi'n gallu profi'r ecstasi fel tase fe'r tro cynta unwaith eto...
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan SbecsPeledrX » Gwe 16 Maw 2007 3:06 pm

Mae Google yn dal i neud Nic. Cymraeg di http://www.google.com i fi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai