Minaiture bull terrier, neu'r Anifail Ham fel dwi'n eu galw nhw (cyn deall mai cig mochyn oedd ham, roeddwn i'n meddwl mai cig y ci yma oedd o... o'n i tua 14

).
Rydw i'n cofio gweinidog yn rhoi pregeth gyfan unwaith fod y ci hwn (ci Bill Sykes) yn Gristion (fo nath achub Olifyr Twist yn diwadd gyda'i gyfarth ac achosi bod drygioni ei fisdar yn dod i ben). Felly ella mod i'n hen beth hyll, ond fi ydi'r ci mwya egwyddorol!