Tudalen 1 o 5

gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 4:31 pm
gan eifs
http://www.tv-links.co.uk/

lle gwych i wylio y ffilmiau diweddar, ac rhaglenni fel LOST, 24 a pob math o bethau, does dim angen lawrlwytho dim byd

dwi wrthi ar y funud yn mynd trwy'r ail gyfres o Prison Break, a wedi cyrraedd y man lle dwi 4 rhifyn o flaen lle mae gwylwyr channel 5 ar y funud!

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 5:17 pm
gan sanddef
Diolch yn fawr, Eifs. :D

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 5:35 pm
gan bartiddu
Blydi hel ma Rome 2 arno fe, dwi wedi methu cael gafael ar y ddau diwethaf ers iddo gael ei dynnu o iwtiwb, gwych ychan! :D

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 5:50 pm
gan sanddef
bartiddu a ddywedodd:Blydi hel ma Rome 2 arno fe, dwi wedi methu cael gafael ar y ddau diwethaf ers iddo gael ei dynnu o iwtiwb, gwych ychan! :D


Gret, mi wna i sbio arno ar ol gweld y peilot episod o Battlestar Galactica :D
Blydi hel, dim ond wedi bod ar y peth am chwarter awr a dw'i eisoes yn neud planner!

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 6:33 pm
gan nicdafis
O bygar, dyna gwyliau'r Pasg wedi sorto 'te.

Neis.

PostioPostiwyd: Llun 26 Maw 2007 11:41 pm
gan Mali
Safle gwych eifs.... :D Newydd weld fod Father Ted arno iei! Heb weld y drydedd gyfres o gwbl yma.
Llawer o ddiolch !
[ Yr unig beth ydi , mi fyddai'n gwario mwy o amser ar y we rwan :wps: ]

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2007 9:58 am
gan Rhys Llwyd
Mae o reit debyg i

http://www.alluc.org

Ar hwna ma ffilms hefyd

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2007 10:35 am
gan Wierdo
Hwnna fyddai'n ddefnyddio Rhys. Och, sawl sawl awr ma ty ni gyd wedi'w dreulio mewn huddle o amgylch y laptop! Ma'n diwrnoda' ni'n alm yn cael ei trefnu o amgylch faint o amser ma'r rhaglenni yn gymryd i byffro

Scrubs dwi'n ei wylio. Lot

PostioPostiwyd: Mer 28 Maw 2007 2:20 pm
gan ceribethlem
Dim Thundercats :(

PostioPostiwyd: Iau 29 Maw 2007 10:38 am
gan docito
diolch am y linc
yn anffodus dyw'r linc i lost ddim yn gweithio. unrhyw un yn gwybod ble alla'i weld y rhaglen?