Tudalen 5 o 5

PostioPostiwyd: Sad 05 Ion 2008 11:58 am
gan Norman
Dim yn un math o beth a All You See / Surf the Channel ayyb, ond mae bellach yn bosib gweld lot o ragleni ar 'Gwylio Yma' gan S4C & gwefan debyg gan y BBC, iPlayer - dewis da o ragleni sydd wedi'w darlledu yn y saith diwrnod dwytha.
Ansawdd da ar iPlayer, jus bod y wefan / trefn y rhagleni braidd yn drwsgwl ? Mae meddalwedd ychwanegol yn galluogi ichi lawrlwytho y rhagleni am fwy o amser na'r saith diwrnod, er eu bod yn cael eu dileu wedi 30 diwrnod. Mae rhaglen 'Dance Britannia' [BBC4] werth eu gweld, nen wedig yr un 'Dangerous Dancing' - hanes cerddoriaeth ym Mhrydain ers 1960ish [Northen Soul, Disgo, Punk, Asid House, ayyb] - gwerth ei weld os oes awr sbar gan unrhywun!

PostioPostiwyd: Maw 15 Ion 2008 10:23 am
gan eifs
Guess who's back

http://tv-links.cc/

gret :D

PostioPostiwyd: Maw 15 Ion 2008 6:05 pm
gan anffodus
eifs a ddywedodd:Guess who's back

http://tv-links.cc/

gret :D


Whooooooooooooooooooooooooo! :D

dwi mor sad. o wel....

PostioPostiwyd: Maw 15 Ion 2008 6:56 pm
gan Norman
eifs a ddywedodd:Guess who's back

http://tv-links.cc/


Aidial !

Newydd weld hwn fyd : radiotimes.com/downloads

PostioPostiwyd: Maw 15 Ion 2008 7:20 pm
gan bartiddu
Norman a ddywedodd:Newydd weld hwn fyd : radiotimes.com/downloads

4 on Demand, rhaglennu dogfen! Canlyniad myn! :D

Re: gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 3:48 pm
gan Beti
Dwi heb edrych i mewn iddyn nhw i gyd....ond, os dych chi ar y Gweplyfr.....
http://www.facebook.com/group.php?gid=2758784140

Re: gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Llun 28 Ion 2008 3:59 pm
gan Gwahanglwyf Dros Grist
Petai rhywun am fod yn ufudd a dilyn cyfreithiau ein hannwyl wlad, ble fyddai'r lle gorau i'w osgoi fel na fyddai unrhyw siawns o daro ar draws pedwaredd gyfres The Wire?

Diolch ymlaen llaw am eich cymorth i'm cadw rhag Sing Sing.

Re: gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Sul 03 Chw 2008 4:01 am
gan Mali

Re: gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Sul 17 Chw 2008 10:42 pm
gan Mali
Ydi'n bosibl gwneud y llun yn fwy ? Neu oes rhaid gwylio'r rhaglenni mewn bocs? :?

Re: gwylio eich hoff raglenni teledu am ddim

PostioPostiwyd: Sul 09 Maw 2008 7:43 pm
gan Garnet Bowen
Yn bersonol, dwi'n defnyddio http://www.tvtorrents.com. Ti'n gallu llwytho'r ffeiliau i lawr o'r wefan hon, a'u cadw ar dy gyfrifiadur, neu (gyda dipyn o wybodaeth dechnolegol) eu llosgi i DVD. A dyma'r detholiad gorau o raglenni dwi wedi ei weld yn unman - pob cyfres o The Wire, Sopranos, Six Feet Under, 24, Prison Break, Lost ayyb. Ond hefyd, sdwff llai adnabyddus, sydd heb groesi'r Iwerydd (e.e. John from Cinncinati), a hen raglenni Americanaidd (e.e. Degrassi Junior High). Mae'n hollol anghyfreithlon, wrth reswm, ond dwi'n cymeryd bod pob gwefan arall sydd wedi ei chrybwyll hefyd.

Er mwyn defnyddio'r wefan, ti angen cael gafael ar raglen sy'n llawrlwytho torrents, megis utorrent (sydd am ddim). Wedyn, ti'n talu 10 ewro am 10 gigacredit. Y peth sy'n wych am y wefan yw bod modd gwneud i'r 10 gigacredit yma bara am byth. Egwyddor y wefan yw bod lwytho 1 gigabyte i lawr yn costio 1 gigacredit. Ond os wyt ti'n llwytho rhaglenni i fyny - hynny yw, gweithredu fel seeder - ti'n cael 1.5 Gigacredit am bob Gigabyte ti'n ei lwytho. Felly unwaith ti wedi llawrlwytho rhaglen, ti'n gadael i utorrent redeg dros nos, ac fe fyddi di wedi ennill dy gredits i gyd yn ol, a wedi ennill credits ychwanegol. A canlyniad hyn yw bod pobl yn dal i seedio rhaglenni am yn llawer iawn hirach, a felly mae'r safle yn gynt ac yn fwy dibynadwy na Pirate Bay ayyb - dwi newydd gael gafael ar ail gyfres Prison Break (24 pennod), wnaeth lawrlwytho dros nos (12 awr).