A! Ym!... Ia... Ym! Be fedrai ddeud? Dwi'n ddiawl diog sydd byth yn gorffen dim byd dwi'n gychwyn.
Prosiect bach tra roeddwn i'n dysgu fy hun i raglennu am y tro cyntaf oedd croesair.com a gan fy mod mor ddibrofiad roedd y sgript braidd yn naif. Wnes i ei dynnu oddi ar y we yn ddistaw bach gan fod gennai ychydig o gywilydd o'r cod, a doeddwn i ddim isio i
geeks y rhithfro weld pa mor wael ydw i wrth fy nghrefft.
Wnes i ddechrau ail-sgwennu croesair.com
'from scratch' tua blwyddyn yn ol - hyd nes i fy niddordeb symud ymlaen at syniadau eraill. Ers hynny dwi wedi sgwennu cod ar gyfer tua dwsin o syniadau eraill - a does yna'r un o'r rhain wedi eu gorffen eto - heb son am eu lawnsio.
Mae ail-lawnsio croesair.com yn dal ar fy rhestr 'pethau i'w gwneud' am y tro (rhestr faith!), ond dyma'r
hen fersiwn - mond os wnewch chi addo peidio chwerthin am ben y cod!