Tudalen 1 o 1

croesair.com

PostioPostiwyd: Sul 08 Ebr 2007 8:09 pm
gan SbecsPeledrX
Unrhywun yn gwybod be ddigwyddodd i'r wefan yna?

Re: croesair.com

PostioPostiwyd: Sul 08 Ebr 2007 9:27 pm
gan Mali
SbecsPeledrX a ddywedodd:Unrhywun yn gwybod be ddigwyddodd i'r wefan yna?


Rhyfedd, 'roeddwn inna'n meddwl am hwn yr wythnos diwethaf 'ma. Awydd gwneud croesair Cymraeg gen i.
7ennyn lle wyt ti.............?

PostioPostiwyd: Llun 09 Ebr 2007 9:49 pm
gan 7ennyn
A! Ym!... Ia... Ym! Be fedrai ddeud? Dwi'n ddiawl diog sydd byth yn gorffen dim byd dwi'n gychwyn.

Prosiect bach tra roeddwn i'n dysgu fy hun i raglennu am y tro cyntaf oedd croesair.com a gan fy mod mor ddibrofiad roedd y sgript braidd yn naif. Wnes i ei dynnu oddi ar y we yn ddistaw bach gan fod gennai ychydig o gywilydd o'r cod, a doeddwn i ddim isio i geeks y rhithfro weld pa mor wael ydw i wrth fy nghrefft. :wps:

Wnes i ddechrau ail-sgwennu croesair.com 'from scratch' tua blwyddyn yn ol - hyd nes i fy niddordeb symud ymlaen at syniadau eraill. Ers hynny dwi wedi sgwennu cod ar gyfer tua dwsin o syniadau eraill - a does yna'r un o'r rhain wedi eu gorffen eto - heb son am eu lawnsio.

Mae ail-lawnsio croesair.com yn dal ar fy rhestr 'pethau i'w gwneud' am y tro (rhestr faith!), ond dyma'r hen fersiwn - mond os wnewch chi addo peidio chwerthin am ben y cod!

PostioPostiwyd: Maw 10 Ebr 2007 7:27 am
gan DewiBJones
Er gwybodaeth, jyst rhag ofn, beth am croesair yr Ieithgi -

http://www.bbc.co.uk/cymru/ieithgi/gem/croeseiriau/poscroeseiriau.shtml