Tudalen 1 o 1

You Tube a'r iaith Gymraeg

PostioPostiwyd: Maw 19 Meh 2007 8:50 am
gan Griff-Waunfach
Mae youtube wedi lawnsio safleoedd y gwahanol gwledydd...

BBC a ddywedodd:The video site, owned by Google, has launched nine versions across Brazil, France, Ireland, Italy, Japan, Netherlands, Poland, Spain and the UK.

Each site is translated into local languages and has country-specific video rankings and comments.


Local languages? Beth am lobio google amdano fe yn y Gymraeg hefyd?

PostioPostiwyd: Maw 19 Meh 2007 9:32 am
gan Macsen
Hm... mae hyn yn fwy na jesd ieithoedd gwahanol tydi, mae o'n wefannau gwahanol. Gan bod y rhan fwyaf o fideos Cymraeg ar YouTube er mwyn ceisio tynnu sylw at achosion yn ymwneud a'r iaith falle fyddai gwefan i fideos Cymraeg yn unig nad yw neb arall yn mynd i ymweld a fo yn syniad gwael.

Falle bod angen teitl gwahanol ar yr edefyn yma gan bod tua 5 edefyn 'You Tube' arall.

PostioPostiwyd: Maw 19 Meh 2007 11:11 am
gan Griff-Waunfach
Reit - pwynt digon teg. Oeddwn i yn meddwl y gymraeg fel opsiwn ar un y DU... efallai?

PostioPostiwyd: Maw 19 Meh 2007 11:25 am
gan Macsen
Wel Google sy pia nhw a mae gennyn nhw ryngwyneb Cymraeg.