Dyma gopi o rhywbeth dwi wedi postio ar fforwm cefngwlad.org y bore ma'
http://forum.cefngwlad.org/index.php?topic=71.new#new
Dwi'n gobeithio eich bod yn cytuno ei fod yn werth i rannu.
*-*-*-*-*-*-*-*-*-*-*-*-*-
Dyma dau reswm gwych pam y dylai, yn fy marn i, cryfhau y ddeddf presennol ddod uwchlaw unrhyw ddeddfwriaeth newydd
http://www.sand.org.uk/
Gwefan Gwyl sydd wedi ei ariannu gan Athrofa Abertawe a'r Cynulliad ond eto dim gair o Gymraeg ar y gwefan!
Os am gwyno at pwy i droi? Yr "Equality and Human Rights Commission" ? Y corff statudol i warchod ein hawliau ... Go brin. Yn ôl y comisiwn "Oherwydd anhawster technegol, nid yw fersiwn Cymraeg y safle ar gael ar hyn o bryd." Gwarthus.
http://www.equalityhumanrights.com/en/p ... ghome.aspx
Tydi agwedd 'cymedrol' Bwrdd yr Iaith yn amlwg ddim yn cael effaith digonol ac mae'n amser erbyn hyn i galedu'r agwedd tuag at y difaterwch sy'n bodoli tuag at dwyieithrwydd.
Yn fy marn i mae'n bryd i Bwrdd yr Iaith a Cymdeithas y Iaith ddechrau galw i'r rhai sy'n gyfrifol golli eu gwaith am bethau fel hyn.
Deddf iaith sy'n bodoli - nid "guidelines". Pe byddai Prif Weithredwr yr "Equality and Human Rights Commission" yn gwahardd ar ran lliw croen byddai yn colli ei waith yn syth - pam ddim yr un peth gyda'r iaith Gymraeg?
Gai annog pawb sy'n darllen hyn i wneud cymaint o swn a sy'n bosib am y peth. Dim ond trwy godi stŵr y bydd pethau fel hyn yn dod i ben.
Diolch am ddarllen.
Huw