Tudalen 1 o 1

Fforwm Gwlad Pwyl:

PostioPostiwyd: Sul 16 Rhag 2007 1:21 pm
gan Pogo
Dwi wedi dechrau fforum am yr iaith Gymraeg a Chymru ar wefan Pwyleg,
Goldenline.

Does neb wedi postio eto.

Dyma'r cyfeiriad:

http://www.goldenline.pl/grupa/cymraeg-jezyk-walijski

Er mwyn cael ychydig o 'traffig' ar y fforwm, baswn i'n ddiolchgar tase aelodau maes-e yn sgwennu neges yn yr edefyn 'croeso'.

Diolch yn fawr.

PostioPostiwyd: Sul 16 Rhag 2007 2:19 pm
gan dewi_o
Dwi wedi trio Pogo on methu wneud. Dydy'r dudalen ddim yn derbyn fy e-bost am rhyw rheswm os ydw i hyd yn oed yn pwyso'r botwm cywir. Dydy fy Mhwyleg ddim yn dda iawn.

sut i ymuno a goldenline

PostioPostiwyd: Sul 16 Rhag 2007 5:29 pm
gan Pogo
dewi_o a ddywedodd:Dwi wedi trio Pogo on methu wneud. Dydy'r dudalen ddim yn derbyn fy e-bost am rhyw rheswm os ydw i hyd yn oed yn pwyso'r botwm cywir. Dydy fy Mhwyleg ddim yn dda iawn.


Mae'n ddrwg gen i, ond nid yw'r proses yn hawdd.

Yn gyntaf, ffeindia zarejestruj sie (register) ar dop y tudalen.

Yna, rhaid llenwi ............

Imie (enw)

Nazwizko (cyfenw)

adres e-mail

powtorz (ail-adrodd)

haslo (cyfrinair)

Meijscowosc (lleoliad)

Wojewodztwo (rhanbarth) zagranice = tramor

data urodzenia (pen-blwydd)

dzien (dydd) miesiac (mis) rok (blwyddyn)

branze (maes gweithio) inne (arall) yw'r un hawdd

Prepisz kod (ysgrifennwch cod)

wyrazam zgode (llofnodwch cytundeb)

rejstracja (ymunwch)

Os yw unrhyw un yn trio hyn i gyd, ac yn methu, byddaf yn ceisio rhagor o ganllawiadau.

PostioPostiwyd: Sul 16 Rhag 2007 5:33 pm
gan Pogo
Ac yn anffodus, nid all maes-e ymdopi a'r wyddor Pwyleg.

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 2:01 pm
gan SerenSiwenna
Hwn yn edrych fel prosiect fach ddiddorol - beth yw'r "aim" yn fama te? Gwella "relations" rhwng ni a'r pobl Pwyleg? Syniad da ddwedwn i dalied ati :winc:

PostioPostiwyd: Llun 17 Rhag 2007 8:52 pm
gan Pogo
SerenSiwenna a ddywedodd:Hwn yn edrych fel prosiect fach ddiddorol - beth yw'r "aim" yn fama te? Gwella "relations" rhwng ni a'r pobl Pwyleg? Syniad da ddwedwn i dalied ati :winc:


Does dim 'nod' arbennig i'r fforwm. Ro'n i'n trafod yr iaith Gymraeg ar fforwm arall, a dywedais y byddwn i'n dechrau fforwm newydd i drafod yr iaith.

Os wyt ti am helpu, plis cofrestru a gadael neges.

Rhaid cael ychydig o aelodau i wneud y fforwm yn werth chweil.

PostioPostiwyd: Sul 23 Rhag 2007 11:03 pm
gan Azariah
Pogo a ddywedodd:Does dim 'nod' arbennig i'r fforwm. Ro'n i'n trafod yr iaith Gymraeg ar fforwm arall, a dywedais y byddwn i'n dechrau fforwm newydd i drafod yr iaith.

Os wyt ti am helpu, plis cofrestru a gadael neges.

Rhaid cael ychydig o aelodau i wneud y fforwm yn werth chweil.


Newydd adael neges fer. Dyw'r diawliaid ddim yn gwneud cofrestru yn hawdd nag 'yn nhw? Mae mwy o Bwyleg na Chymraeg i'w chlywed yng Nghymru y dyddiau 'ma.

PostioPostiwyd: Sul 23 Rhag 2007 11:40 pm
gan Pogo
Azariah a ddywedodd:
Newydd adael neges fer. Dyw'r diawliaid ddim yn gwneud cofrestru yn hawdd nag 'yn nhw? Mae mwy o Bwyleg na Chymraeg i'w chlywed yng Nghymru y dyddiau 'ma.


Diolch yn fawr am yr ymdrech.

Dwi'n siwr dy fod ti'n iawn am y Bwyleg.

Pan nes i ddychwelyd i Gymru dwy flynnedd yn ol, nes i deithio'r holl ffordd o Gaerdydd i Gaernarfon ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chlywes i'r Bwyleg llawer gwaith cyn i fi glywed gair o'r Gymraeg.

Wrth gwrs nid yw'n hawdd cofrestru, ond wedi'r cyfan, safle Pwyleg yw e.