Tudalen 1 o 1

Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 4:33 pm
gan krustysnaks
Mae'r stori hon am deledu digidol Gaeleg ar dudalen flaen gwefan newyddion Cymraeg y BBC.

Dwi wedi sylwi bod straeon tebyg yn ymddangos yn aml iawn ar y dudalen ond dim sôn am straeon tebyg ar ochr Saesneg y wefan. Pam?

Dwi'n cofio edefyn peth amser yn ôl yn trafod sylw i straeon am yr iaith Gymraeg ar y dudalen Gymraeg ond dim byd ar yr ochr Saesneg, ond mae'r holl straeon yma am ysgolion yn yr Alban a theledu cebl yn Iwerddon yn cael cymaint o sylw ac i weld yn eitha amherthnasol i fi.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 5:09 pm
gan Macsen
Straeon yn ymwneud â iaith y'r mwya poblogaidd o ran hits ar y wefan, dw i'n credu. Wnes i ei darllen hi be' bynnag!

Ond braidd yn rhyfedd bod y stori yna mor amlwg ar y dudalen Newyddion Cymraeg ond ddim ar un Saesneg yr Alban.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 6:24 pm
gan Griff-Waunfach
Am wn i ei bod straeon ieithyddol fel hyn yn poblogaidd gyda'r Cymry? Yn enwedig ieithoedd celtaidd. Er hyn nid oes lawer am digwyddiadau ieithyddol lleafrifol eraill arno.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Maw 29 Ion 2008 6:40 pm
gan Mwlsyn
Griff-Waunfach a ddywedodd:Am wn i ei bod straeon ieithyddol fel hyn yn poblogaidd gyda'r Cymry? Yn enwedig ieithoedd celtaidd. Er hyn nid oes lawer am digwyddiadau ieithyddol lleafrifol eraill arno.


Dwi'n tybio mai'r pennawd sy'n gyfrifol:


Sawl tro dwi 'di clicio ar bennawdau tebyg, dim ond i gael fy siomi mai Gaeleg sy'n cael y sylw.* Does dim byd yn rhwystro'r Bîb rhag defnyddio'r bennawd 'Sianel newydd: hwb i'r Aeleg', nag oes?

Bah.

*Mae'n digwydd yn fwy aml pan mae'r stori yn un linell yn y bocs 'Prif straeon eraill', wrth gwrs :)

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 12:13 am
gan Rhodri Nwdls
Bu'n bolisi golygyddol i amlygu straeon Cymreig a ieithyddol (gweler tud 8 erthygl Grahame Davies am ddatblygiad y gwasanaeth).

Mae'n rhaid felly o ddadansoddi pa fath o dudalennau mae'r darllenwyr yn hitio amla wedi dangos fod tudalennau am Aeleg yn codi i'r brig, ac felly wedi dewis adrodd rhagor o'r straeon hyn.

Y peth diddorol pan oedden nhw'n adrodd straeon mwy rhyngwladol oedd fod pobol yn deud eu bod nhw'n darllen nhw pan oeddan nhw ddim - jest yn darllan sdwff Cymreig.

Mae na ddadl y dyla nhw fod yn rhoi darpariaeth lawn, ryngwladol yn y Gymraeg hitia befo be mae'r darllenwyr yn ddarllen fwya, er fod y gystadleuaeth yn enfawr. Ydi newydion Cymraeg yn da i ddim ond trafod yr iaith ar y diwedd? :? Trist os felly.

Ewn am y bogel a chuddio yno nes fod hi'n saff i ddod allan? Neu geisio'n gora glas i gael darlun cyflawn o'r byd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 12:48 am
gan Hedd Gwynfor
Dwi'n methu deall hyn. Ni'n cael newyddion rhyngwladol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar Radio Cymru ac ar Newyddion S4C, ond dim ond newyddion o Gymru ac ambell i ychwanegiad Celtaidd arlein! :? Dwi'n hoffi darllen y straeon yma am weddill y ieithoedd Celtaidd OND byddai'n well gen i gael gwasanaeth Rhyngwladol gyflawn trwy gyfrwng y Gymraeg arlein.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:15 am
gan Rhodri Nwdls
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ni'n cael newyddion rhyngwladol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar Radio Cymru

Rili? Dwi'n ffeindio newyddion Radio Cymru, wel, y Post Cyntaf beth bynnag, yn eithaf cul ei ystod (a dumbed down o ran hynny) o'i gymharu ag un Radio Wales.

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:18 am
gan Griff-Waunfach
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ni'n cael newyddion rhyngwladol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar Radio Cymru

Rili? Dwi'n ffeindio newyddion Radio Cymru, wel, y Post Cyntaf beth bynnag, yn eithaf cul ei ystod (a dumbed down o ran hynny) o'i gymharu ag un Radio Wales.


Mae'n rhaid dweud fy mod i yn cytuno a ti fan hyn i raddau!

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 10:24 am
gan Hedd Gwynfor
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ni'n cael newyddion rhyngwladol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar Radio Cymru

Rili? Dwi'n ffeindio newyddion Radio Cymru, wel, y Post Cyntaf beth bynnag, yn eithaf cul ei ystod (a dumbed down o ran hynny) o'i gymharu ag un Radio Wales.


Ie, falle dy fod yn ian, ond oleiaf mae newyddion Radio Cymru yn adrodd y prif straeon rhyngwladol. Does dim newyddion rhyngwladol yn cael ei adrodd ar wefan BBC Cymru'r Byd. :?

Re: Straeon 'Celtaidd' ar BBC Cymru'r Byd

PostioPostiwyd: Mer 30 Ion 2008 11:02 am
gan Mr Gasyth
Griff-Waunfach a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ni'n cael newyddion rhyngwladol llawn trwy gyfrwng y Gymraeg ar Radio Cymru

Rili? Dwi'n ffeindio newyddion Radio Cymru, wel, y Post Cyntaf beth bynnag, yn eithaf cul ei ystod (a dumbed down o ran hynny) o'i gymharu ag un Radio Wales.


Mae'n rhaid dweud fy mod i yn cytuno a ti fan hyn i raddau!


A fi. Good Morning Wales i fi bob tro.