Tudalen 1 o 2

Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 1:26 pm
gan Hogyn o Rachub
Roeddwn i'n chwilio am bobl enwog o Sir Fôn (mae rhai, medda' nhw, a na, wn i ddim pam) ar Wikipedia a dod ar draws hwn....

http://en.wikipedia.org/wiki/Sanddef_Rhyferys

Sanddef, os wyt ti yma ateba i mi os nes di sgwennu hyn i chi di hun? :?


(Os nes ti mae'n sefyllfa hilariws ond od braidd)

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 1:48 pm
gan Ray Diota
:lol:

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 2:05 pm
gan Macsen
Mae'r tudalen 'discussion' hyd yn oed yn fwy doniol:

Is this page nothing more then an advert for a blog?´

How? This page gives a modest description of a well known Welsh blogger and barely mentions the blog, other than to say that it is widely read. Compared to entries for English bloggers this is anything but an attempt at self-promotion for a blog and the height of modesty.

Looks to me that this was penned by Sanddef himself... —Preceding unsigned comment added by 86.128.123.233 (talk) 00:20, 18 January 2008 (UTC)

Er, no —Preceding unsigned comment added by Patxi3 (talk • contribs) 10:42, 22 January 2008 (UTC)

May I know why you are so sure about that? --Dirk Beetstra T C 10:45, 22 January 2008 (UTC)


The height of modesty. :lol:

Sanddef bach.

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 2:13 pm
gan Hogyn o Rachub
Haaaaaaaaaaaaa-ha! :lol:

Dwi'n fodlon iawn fy mod wedi dod o hyd i'r dudalen 'ma :gwyrdd:

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Gwe 09 Mai 2008 3:16 pm
gan Macsen
He is also a prominent Welsh language blogger.

Oxymoron siwrli?

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Sad 10 Mai 2008 5:06 pm
gan nicdafis
Mae polisi Wikipedia ar erthyglau hunan gofiannol yn eitha clir, ond dw i ddim yn gweld pam bod angen dod â hyn i maes-e.

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Sul 11 Mai 2008 11:37 pm
gan sanddef
Er, dw'i ddim wedi sgwennu'r erthygl hogia bach, ond os dach chi'n chwilio am y categori 'blogwyr' fe welwch chi mai peth digon cyffredin yw gweld 'entries' ar gyfer blogwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi ymddangos yn y cyfryngau neu mewn llyfrau (fel fi), felly na, HoR, dydy o ddim mor 'od' â hynny.

Mae gen i gyfrif wiki (nes i gyfrannu at rai pethau ynglŷn â mytholeg Celtaidd rhywbryd, dw'i'n credu) a chyfrif wicipedia (ocwltiaeth, mytholeg a seryddiaeth ymhlith pethau eraill), felly dw'i'n nabod y rheolau am beidio sgwennu pethau amdanaf i fy hun -ac eithrio ar dudalen defnyddiwr wrth gwrs.

Gresyn na naeth neb geisio cysylltu â mi (anfon neges ataf yma neu ar Facebook etc) yn gyntaf cyn ensynio 'mod i wedi camddefnyddio'r wiki a gwneud allan fy mod i ar ryw fath o 'ego-trip' jyst am fod rhyw gyfrannwr sy'n canolbwyntio ar y blogosffer wedi sgwennu amdanaf i. Ond dyna maes-e iti. Lle i wneud honiadau sy'n ffeithiol anghywir - jyst fel y wasg Gymraeg, rili.

Hyd y gwelaf i mae'r dudalen yn ffeithiol gywir, er nad ydw i yn siwr beth ydy bod yn flogwr Cymraeg "prominent"! Fel mae'n digwydd dw'i wedi bod yn meddwl am roi'r gorau i flogio yn y Gymraeg ers cryn amser (h.y. ers dechrau).

O, a dw'i ddim yn gyfrifol am beth mae pobl yn sgwennu ar y dudalen sgwrs, Macsen bach :rolio:

Cytunaf â Nic, dw'i ddim yn gweld unrhyw bwynt i'r edefyn yma. Me'n ymddangos bron fel ymosodiad personol imi. A pham? Am fy mod wedi neud enw ymhlith anoracs gwleidyddol y blogosffer Saesneg? Ffor Shêm! :lol:

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Llun 12 Mai 2008 8:29 am
gan Ray Diota
FAMOUS WELSH BLOGGER GETS KNICKERS IN A TWIST

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Llun 12 Mai 2008 8:42 am
gan Ray Diota
cenfigennus yden ni, sanddef, t'weld... :)

Re: Sanddef ar Wikipedia - be ffwc?

PostioPostiwyd: Llun 12 Mai 2008 9:13 am
gan Hogyn o Rachub
Piti, tasa chdi wedi ei 'sgwennu fysa fo'n ddoniol iawn :(