Er, dw'i ddim wedi sgwennu'r erthygl hogia bach, ond os dach chi'n chwilio am y categori 'blogwyr' fe welwch chi mai peth digon cyffredin yw gweld 'entries' ar gyfer blogwyr, yn enwedig y rhai sydd wedi ymddangos yn y cyfryngau neu mewn llyfrau (fel fi), felly na, HoR, dydy o ddim mor 'od' â hynny.
Mae gen i gyfrif wiki (nes i gyfrannu at rai pethau ynglŷn â mytholeg Celtaidd rhywbryd, dw'i'n credu) a chyfrif wicipedia (ocwltiaeth, mytholeg a seryddiaeth ymhlith pethau eraill), felly dw'i'n nabod y rheolau am beidio sgwennu pethau amdanaf i fy hun -ac eithrio ar dudalen defnyddiwr wrth gwrs.
Gresyn na naeth neb geisio cysylltu â mi (anfon neges ataf yma neu ar Facebook etc) yn gyntaf cyn ensynio 'mod i wedi camddefnyddio'r wiki a gwneud allan fy mod i ar ryw fath o 'ego-trip' jyst am fod rhyw gyfrannwr sy'n canolbwyntio ar y blogosffer wedi sgwennu amdanaf i. Ond dyna maes-e iti. Lle i wneud honiadau sy'n ffeithiol anghywir - jyst fel y wasg Gymraeg, rili.
Hyd y gwelaf i mae'r dudalen yn ffeithiol gywir, er nad ydw i yn siwr beth ydy bod yn flogwr Cymraeg "prominent"! Fel mae'n digwydd dw'i wedi bod yn meddwl am roi'r gorau i flogio yn y Gymraeg ers cryn amser (h.y. ers dechrau).
O, a dw'i ddim yn gyfrifol am beth mae pobl yn sgwennu ar y dudalen sgwrs, Macsen bach
Cytunaf â Nic, dw'i ddim yn gweld unrhyw bwynt i'r edefyn yma. Me'n ymddangos bron fel ymosodiad personol imi. A pham? Am fy mod wedi neud enw ymhlith anoracs gwleidyddol y blogosffer Saesneg? Ffor Shêm!