Tudalen 1 o 1

Facebook - y panig moesol nesa'?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Gor 2008 4:05 pm
gan Macsen
Erthygl gwael iawn yn y Telegraph heddiw - fan hyn.

Dyw radio, teledu na video nasties heb lwyddo i ddinistrio cymdeithas, ond bydd y we yn siwr o wneud!

Pe bai y Telegraph yn bodoli 5,000 o flynyddoedd yn ol fe fydden nhw wedi cyhoeddi erthyglau fel 'The Wheel - corrupting the minds of children?' a 'Fire - the new fad claiming lives!!!'

Re: Facebook - y panig moesol nesa'?

PostioPostiwyd: Sad 05 Gor 2008 9:17 am
gan Duw
Mae'n rhaid dweud fy mod i'n casau'r social network sites ma. I mi dechreuodd y rot gyda ffonau symudol (dwi'n gwrthod cario un! Er, mae'r hala'n misys yn benwan). Nid yw'r erthygl yn syndod. Dwi wedi gweld cyfeillion yn rhedeg am facebook yn ystod eu hamser cinio i weld beth sydd wedi digwydd ers amser brecwast i'r person sy'n gweithio lawr y coridor. Er fy mod o blaid defnyddio'r we i gynhyrchu cronfeydd gwybodaeth ac ati, mae'n rhaid gofyn y cwestiwn a ddylem annog ein plant i gynnal eu bywyd cymdeithasol arlein? Mae sawl disgybl gennyf sydd ddim yn mentro allan o'r ty, ond ar chat/facebook a'r gweddill tan 2/3 o'r gloch y bore.

Wedi dweud hynny, a oes cysylltiad cryf rhwng y pethau a soniwyd amdanynt yn yr erthygl - a ydy'n "casual" neu'n "causal"? A oes ffactorau eraill sy'n achosi'r teimliadau hyn mysg ein pobl ifainc? Yn gwirionedd, yn fy nhyb i, yw bod y darlun yn llawer mwy cymhleth. Posib bod y psychs hyn am wneud swn mawr i dderbyn grawntiau er mwyn cynnal eu gwaith ymchwil ("ching ching"). Mae'n bron amhosib ennill grawntiau ymchwil mewn meysydd gwyddonol/meddygol heb fod rhyw ffwdan enfawr wedi codi amdanynt.

Re: Facebook - y panig moesol nesa'?

PostioPostiwyd: Iau 28 Awst 2008 6:11 pm
gan LLewMawr
mae'n ddiddorol gweld papurau newydd yn bashio pob fath o gyfryngau eraill- teledu, gemau fideo, cerddoriaeth a nawr y rhyngrwyd.

Re: Facebook - y panig moesol nesa'?

PostioPostiwyd: Sul 31 Awst 2008 3:23 am
gan Mali
'Mae rhywbeth bach yn poeni pawb
Nid yw yn nef ymhob man....'

Erthygl eithaf distyrbing wir ....dwi'm 'di cael fy hudo gan facebook eto , ond yn dal i ddod i arfer efo, ac yn mwynhau negesfyrddau a blogiau [ Cymraeg rhan fwyaf ].
Mae popeth yn iawn yn ei le cyn belled a'i fod yn gymhedrol. :)