Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.
Efalle nid oes llawer yn gwybod sut i greu podcast? Mae blogiau dal yn llawer mwy poblogaidd na pods, felly stim syndod nid oes llawer o rai cymraeg ar gael. Os oes diddordeb - dwi wedi cyfieithu pecyn podcast generator - ar gael ar http://www.wetwork.org.uk. Mae fersiwn newydd allan ond dwi yng nghanol ei chyfieithu.
Ma hwn yn wych chwara teg, uchafbwyntiau Cymghrair Cymru ar fy ipod bob wsos. Pwy fysa wedi meddwl bydda hyn yn bosib ychydig o flynyddoedd yn ol pan doedd dim coverage teledu or gynghrair o gwbl! I'm impressed!
Mi fasa'n grêt cael medru derbyn mwy o bodlediadau yn Gymraeg. Ar hyn o bryd yr unig un sydd yn fy nenu ydi rhaglen Natur Iolo Williams. Mae'n dda iawn .