(beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)
Postiwyd: Iau 08 Ion 2009 9:47 pm
Mae gen i gyfrif Flickr ers blynyddoedd. Dwi'n talu'n flynyddol ers tair neu bedair blynedd.
Mae gen i gyfrif ebost a broadband efo BTInternet ers 2005. Cyfeiriad @btinternet yw fy ebost, ond BTyahoo yw'r webmail, ac rwy'n arwyddo i mewn i hwnnw efo fy nghyfeiriad ebost @btinternet.
Flwyddyn neu ddwy yn ôl ymunodd Flickr efo Yahoo, a mwya sydyn roedd rhaid cael 'Yahoo ID' i arwyddo i mewn iddo. Rhois fy ebost btinternet i mewn, ac mi weithiodd, felly dyna be dwi wedi bod yn ddefnyddio byth ers hynny.
Rwan dwi'n gadael BT ac yn ymuno efo Tiscali, felly'n colli fy ebost btinternet. Wrth edrych drwy FAQs Flickr, dwi'n gweld na fydda i'n gallu logio i mewn i fy nghyfrif Flickr, ac y bydd y cyfrif yn cau. Yr unig ffordd rownd hyn, medda nhw, ydi creu Yahoo ID arall. Ond os ydw i'n cau fy nghyfrif BTinternet, dwi'n cymeryd y byddaf yn colli fy Yahoo ID hefyd???
All hynny ddim bod yn iawn, does bosib? Dwi'n methu rhywbeth yn amlwg. Mae Yahoo ID yn rhywbeth gwahanol i gyfeiriad ebost, debyg, ond fod y cyfeiriad ebost btinternet yn digwydd gweithio fel Yahoo ID???
All rhywun yma egluro i mi, felly, beth yn union ydi Yahoo ID, a sut y gallaf greu un heb fod efo cyfrif broadband Yahoo/btinternet? Neu a fydd fy nghyfeiriad ebost btinternet - tra'n da i ddim byd i dderbyn ebyst - yn dal i fod yn ddilys fel Yahoo ID?
Diolch yn fawr.