(beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Wedi dod o hyd i rywbeth diddorol?

Cymedrolwr: huwwaters

Rheolau’r seiat
Seiat i son am bethau diddorol yr ydych yn eu darganfod ar y we yw hwn. Nid lle i hysbysu proffiliau myspace, facebook ayb. Os ydych wir isio pobl eu gweld, rhowch ddolen iddynt yn eich llofnod. Cofiwch osod teitl yn seiliedig ar gynnwys yr edefyn, a nodwch os yw'r cynnwys yn addas i'w weld yn y gwaith/coleg/ysgol neu beidio. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

(beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Iau 08 Ion 2009 9:47 pm

Mae gen i gyfrif Flickr ers blynyddoedd. Dwi'n talu'n flynyddol ers tair neu bedair blynedd.

Mae gen i gyfrif ebost a broadband efo BTInternet ers 2005. Cyfeiriad @btinternet yw fy ebost, ond BTyahoo yw'r webmail, ac rwy'n arwyddo i mewn i hwnnw efo fy nghyfeiriad ebost @btinternet.

Flwyddyn neu ddwy yn ôl ymunodd Flickr efo Yahoo, a mwya sydyn roedd rhaid cael 'Yahoo ID' i arwyddo i mewn iddo. Rhois fy ebost btinternet i mewn, ac mi weithiodd, felly dyna be dwi wedi bod yn ddefnyddio byth ers hynny.

Rwan dwi'n gadael BT ac yn ymuno efo Tiscali, felly'n colli fy ebost btinternet. Wrth edrych drwy FAQs Flickr, dwi'n gweld na fydda i'n gallu logio i mewn i fy nghyfrif Flickr, ac y bydd y cyfrif yn cau. Yr unig ffordd rownd hyn, medda nhw, ydi creu Yahoo ID arall. Ond os ydw i'n cau fy nghyfrif BTinternet, dwi'n cymeryd y byddaf yn colli fy Yahoo ID hefyd???

All hynny ddim bod yn iawn, does bosib? Dwi'n methu rhywbeth yn amlwg. Mae Yahoo ID yn rhywbeth gwahanol i gyfeiriad ebost, debyg, ond fod y cyfeiriad ebost btinternet yn digwydd gweithio fel Yahoo ID???

All rhywun yma egluro i mi, felly, beth yn union ydi Yahoo ID, a sut y gallaf greu un heb fod efo cyfrif broadband Yahoo/btinternet? Neu a fydd fy nghyfeiriad ebost btinternet - tra'n da i ddim byd i dderbyn ebyst - yn dal i fod yn ddilys fel Yahoo ID?

Diolch yn fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Waen » Gwe 09 Ion 2009 3:42 pm

ewch draw i fana a clickiwch ar -sign uphttps://login.yahoo.com/config/mail?.intl=uk&.src=ym&rl=1
Rhithffurf defnyddiwr
Waen
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 227
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 2:45 am

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Macsen » Gwe 09 Ion 2009 3:44 pm

Jesd arwydda fyny i gael cyfrif e-bost Yahoo. Mae gen i un jesd er mwyn medru logio mewn i flickr - dw i erioed wedi ei ddefnyddio fo i unrhyw beth arall.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Gwe 09 Ion 2009 4:08 pm

Diolch eich dau, ond dwi eisoes wedi gneud hynna (nes i feddwl am y peth am funud, a rhesymu).

OND - rwan mod i wedi cael ID newydd, dydi Flickr ddim yn gadael i mi drosglwyddo fy nghyfrif iddo. Oes, mae 'na dudalen ganddyn nhw i wneud hyn, efo dau opsiwn - clicio ar linc i drosglwyddo fo i Existing Yahoo ID neu i drosgwlyddo i New Yahoo ID. Ond mae'r ddau linc yn arwain at yr un dudalen, sydd efo fy 'hen' ID (cyfeiriad btinternet) arno, a blwch odditano i roi fy nghyfrinair i mewn (am wn i er mwyn verifyio fi). Ond os dwi'n gneud hynny dwi'n cael tudalen sy'n deud "Umm, you've just logged in with your old/existing Yahoo ID"!

Dwi wedi trio rhoi cyfrinair fy ID newydd i mewn, ond neith o ddim derbyn hwnnw.

Dwi wedi trio cysylltu efo Flickr, ond mae eu cynorthwywyr nhw fel planks (neu bo nhw'n methu darllan Susnag). :?
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Duw » Gwe 09 Ion 2009 5:06 pm

Ydy BT wedi cau lawr dy gyfrif ebost? Os na, parha i'w ddefnyddio. Roedd gen i gyfrif gyda Tiscali (LineOne cyn hynny), fy ISP pan oeddwn yn cysylltu trwy dial-up. Nid yw'r cyfrif hwn wedi'i atal ers imi orffen ei ddefnyddio (rhyw 4 blynedd yn ol).

A wyt wedi potshan gyda'r cyfrif gwreiddiol (sori, dwi'n cael trafferth dilyn y neges gynt) - os na, parha i'w ddefnyddio. Gwiria gyda Flickr bo'r 'login' gorfod bod yr un peth a dy 'ebost cyswllt'. A oes modd i ti newid dy gyfeiriad e-bost o dan 'Settings' tu fewn i Flickr?

Mae'n rhaid datgan, mae defnyddio ebost fel 'login username' yn hollol hurt. Mae'n ffasiynol iawn ar wefannau cymdeithasol, ond cwbl dwl os ydych am newid eich ebost.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Gwe 09 Ion 2009 6:08 pm

Duw a ddywedodd:Ydy BT wedi cau lawr dy gyfrif ebost? Os na, parha i'w ddefnyddio. Roedd gen i gyfrif gyda Tiscali (LineOne cyn hynny), fy ISP pan oeddwn yn cysylltu trwy dial-up. Nid yw'r cyfrif hwn wedi'i atal ers imi orffen ei ddefnyddio (rhyw 4 blynedd yn ol).A wyt wedi potshan gyda'r cyfrif gwreiddiol (sori, dwi'n cael trafferth dilyn y neges gynt) - os na, parha i'w ddefnyddio.


Cyngor da. Na, dydi BT heb gau lawr fy nghyfrif eto. Mi fydd yn digwydd unrhyw adeg yn yr wythnos nesaf, pan fydd Tiscali'n cymeryd drosodd. Mae na siawns, felly, o weld dy engraifft di, y bydd fy ex-cyfeiriad ebost yn dal yn valid fel ID. Na dwi heb botshian efo'r cyfrif gwreiddiol - dyna dwi'n drio ei wneud, ond yn methu.

Duw a ddywedodd:Gwiria gyda Flickr bo'r 'login' gorfod bod yr un peth a dy 'ebost cyswllt'. A oes modd i ti newid dy gyfeiriad e-bost o dan 'Settings' tu fewn i Flickr?


Dim pwynt gwirio efo Flickr. Mae pob ateb i bob ebost dwi'n yrru atyn nhw fel petae nhw'n ateb cwestiwn hollol wahanol i be ofynnis i. Dwi'm yn meddwl fo nw'n gallu darllen. Y diwethaf i mi gael oedd 'I'll pass your email on to a higher ranking member of the Flickr team', a dwi heb glywed siw na miw ers hynny. Mae'r FAQs yn ddibwynt, a mae'r fforwm yn lost cause.

Fyddwn i'n disgwyl y bydd modd i newid cyfeiriad ebost yno'n rhywle, ond fydd hynny ddim yn helpu efo'r log-in. Mi ddoi at hynny ar ôl sortio'r log-in.

Duw a ddywedodd:Mae'n rhaid datgan, mae defnyddio ebost fel 'login username' yn hollol hurt. Mae'n ffasiynol iawn ar wefannau cymdeithasol, ond cwbl dwl os ydych am newid eich ebost.


Cyfeiriad ebost oedd y default log-in gynt. Pan newidiwyd y system, doeddwn heb fod ar y safle ers sbel, ac heb glywed dim am y newid i Yahoo. Roedd o'n deud fod rhaid imi ddefnyddio Yahoo ID i logio i mewn, ac am fod BTBroadband a Yahoo yr un peth, nes i ddefnyddio'r ebost, mewn gobaith, a - lo and behold - mi weithiodd. Ac eniwe, dim ond dewis o gyfeiriadau ebost mae Yahoo'n gynnig fel ID (dyna be ges i gynnig wrth seinio fyny bore ma beth bynnag).

Mae pob safle cymdeithasol dwi wedi dod ar ei thraws efo proses hollol syml i newid ebost. Ond mae'r Yahoo 'ma'n fwriadol obtrusive ac yn amlwg isio monopoleiddio hynny fedran nhw o'r wê.

O weld dechrau dy ateb uchod, Duw, o'n i'n dechrau meddwl fod posib mai oddiwrth yr IP address mae nhw'n adnabod aelodau. Ond mi es i yno rwan a seinio i mewn i Flickr efo fy Yahoo ID a chyfrinair newydd, ac er i mi logio i mewn i Flickr, doeddwn heb logio i mewn i fy nghyfrif. O ran fy nghyfrif (Y Dyn Sdici), doeddan nhw ddim yn fy nabod. Felly dim IP address ydio.

Ar ôl logio i mewn (i Flickr) cefais dudalen yn gofyn imi greu cyfrif Flickr neu mergio fy nghyfrif presennol efo fy ID newydd. Os dwi'n clicio ar yr ail opsiwn dwi'n cael tudalen yn dweud yn glir a dealladwy, fel taswn i'n blentyn 4 oed, - 'Good, now enter the email address/log-in and password of the account you wish to associate with your new ID'. Ond pan dwi'n gneud hynny daw tudalen yn dweud nad oes ganddynt record o'r cyfrif hwnnw! Ond os dwi'n logio'n ôl allan o Flickr (ac felly allan o'r Yahoo network) ac ail-logio i mewn i Flickr efo fy hen fanylion log-in (yr ebost BT a hen gyfrinair) dwi'n cyrraedd fy nghyfrif yn iawn! :?

Gofiais i wedyn mod i wedi trio hynny bore 'ma hefyd (ond wedi anghofio son am y peth yn yr edefyn yma), a chael yr un peth yn digwydd.

Ar ddiwedd y dydd, dwi'n meddwl mai'r siawns gorau ydi derbyn dy gyngor i adael pethau fel mae. Mae fy nghyfeiriad ebost BT presennol yn fy logio i mewn i network Yahoo, felly mae 'na siawns y bydd o'n dal i weithio i wneud hynny ar ôl iddo stopio derbyn ebyst pan fydd y cyfrif yn cau.

Diolch fo i Dduw (gobeithio). Amen.

(Yn y cyfamser, os oes gan unrhyw deity neu broffwyd arall gyngor o ryw fath, mae fy nghlustiau paganaidd yn gwrando!)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Duw » Gwe 09 Ion 2009 10:58 pm

============== CYMRYD Y PWYNT (isod) ==============
Golygwyd diwethaf gan Duw ar Sad 10 Ion 2009 1:16 am, golygwyd 2 o weithiau i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Duw
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 1263
Ymunwyd: Mer 16 Ion 2008 6:39 pm
Lleoliad: fanyn a wynco

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Sad 10 Ion 2009 12:30 am

diolch fo i hollalluog Dduw, ond, erm, dwi'm angen cyngor ar newid ebost, diolch - mae o'n seamless switch efo'r MAC code (a dw i wedi newid ISP ddigon o weithia o'r blaen).

cadw fy acownt Flickr yn agorad ydi'r broblam

amen
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Sad 10 Ion 2009 11:22 am

Flickr wedi gyrru e-bost imi am chwarter wedi naw neithiwr.

Mae nhw wedi 'dad-glymu' fy nghyfrif Flickr oddiwrth fy log-in ebost btinternet, ac wedi rhoi linc arbennig i mi ei ddilyn i logio i mewn efo'r hen log-in hwnnw. Ar ôl gwneud hynny, mi fyddai'n gallu clymu fy nghyfrif Flickr i fy Yahoo ID newydd.

OND - roeddan nhw'n deud y byddan nhw'n gyrru cyfrinair dros dro i mi, mewn e-bost gwahanol, er mwyn imi allu logio i mewn i wneud hyn.

Dwi'n dal i aros!

(dw i wedi trio defnyddio'r hen gyfrinair, ond dydio ddim yn gweithio)

Dw i wedi cysylltu i ofyn lle ffwc ma'r ffycin peth, felly mae'n debyg y bydd hi'n dipyn o amsar eto cyn i'r neges fynd drwy'r chain-of-command! :rolio:

bananas yndife
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: (beth yw) Yahoo ID a chyfrif Flickr (?)

Postiogan Prysor » Sul 11 Ion 2009 12:24 pm

Mae hi bron yn 40 awr ers iddyn nhw yrru'r ebost diweddara 'ma i mi (uchod), ac er i mi gysylltu efo nhw deirgwaith i ofyn am y cyfrinair, tydw i heb gael ateb o gwbl.

Lle gynt ron i o leia'n dal i allu mynd i mewn i fy nghyfrif efo fy hen ID, i uwchlwytho lluniau a rheoli fy nghyfrif ac ati, rwan dwi ddim hyd yn oed yn gallu gneud hynny!

I fod yn onest, yr unig beth dwi isio'i wneud rwan ydi cael ail-fynediad i fy nghyfrif, tynnu fy lluniau oddi yno, a'i gau o i lawr. Dwi ddim isio parhau yn rhan o'r fath 'rwydwaith' unscrupulous.

(Dwi am gadw chi'n posted efo hyn, fel ei fod yn rhybudd i unrhyw un sydd yn defnyddio Flickr neu'n ffendio'i hunain yn gorfod ymuno a rhwydwaith Yahoo er mwyn gosod lluniau ar safle Flickr etc.)
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm


Dychwelyd i Ar Goll ar y We

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai